Perthynas AS wedi marw yn y rhyfel yn Wcráin

  • Cyhoeddwyd
Cludo nwyddau i Wcráin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mick Antoniw (chwith) newydd ddychwelyd o Wcráin ble y bu'n dosbarthu nwyddau

Mae AS Llafur sy'n hanu o Wcráin yn dweud bod perthynas iddo wedi marw yn y rhyfela yn y wlad.

Dywedodd Mick Antoniw bod y perthynas wedi marw yn ystod brwydr Snake Island tua dechrau'r brwydro wedi ymosodiad Rwsia ar Wcráin.

Mae'r Cwnsler Cyffredinol a chynrychiolydd Pontypridd yn Senedd Cymru newydd ddychwelyd o'r wlad ar ôl helpu dosbarthu cyflenwadau yno.

Dywedodd bod yna sôn cyson yn y wlad am "weithredoedd anfad, artaith, gwersylloedd carchar [a] sgwadiau llofruddio".

"Mae yna ffasgaeth newydd yn Ewrop y mae'n rhaid ei drechu," meddai.

Fe wnaeth ei sylwadau cyn ymuno â rali yng Nghaerdydd i ddangos cefnogaeth i Wcráin.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yna o gwmpas 100 o bobl yn y rali brynhawn Sul

"Roedd cefnder fy nghyfnither yn beilot hofrenyddion," meddai. "Cafodd ei saethu gan roced Rwsiaidd. Roedd yn 24 oed.

"Bu farw yn ystod mis cyntaf yr anghydfod, ynghyd â sawl un arall. Roedd yn ystod brwydr y Môr Du i dros Snake Island, ardal sydd bellach yn chwedlonol.

"Mae un un o arwyr Wcráin. Roedd y pentref cyfan yn ei angladd."

'Undod'

"Mae fy nghalon yn gwaedu dros aelodau'r teulu sydd nawr yn byw'r bywyd yma, yn arbennig rheiny yn nwyrain Wcráin," meddai yn gynharach wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales

Yn hwyr nos nos Sadwrn fe alwodd arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky ar drigolion i adael rhannau o ddwyrain Donetsk yn y gobaith o sicrhau bod cyn lleied o bobl â phosib yn cael eu lladd yno wrth i filwyr Rwsia nesáu.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Llun a gafodd ei dynnu ddydd Gwener yn ninas Kramatorsk, yn ardal Donetsk, gan y Donetsk Regional Military Administration o gartref a gafodd ei ddinistrio gan daflegrau

Mae yna "undod" o blith pobl Wcráin, medd Mr Antoniw, oherwydd "does dim dewis, does dim trafodaethau".

Dywedodd: "Ro'n i yn Kyiv tan ddiwrnod cyn i'r ymosodiad ddechrau yn Wcráin. Nes i lwyddo i gwrdd â rhai o fy mherthnasau am ychydig oriau.

"Ond wrth gwrs mae yna berthnasau eraill sy'n gwasanaethu gyda'r fyddin yn y dwyrain - rydym wedi colli un aelod o'r teulu yn barod.

"Mae yna wybodaeth gyson, ailadroddus yn ddyddiol am weithredoedd anfad, artaith, gwersylloedd carchar, sgwadiau llofruddio."

Disgrifiad o’r llun,

Daryna gyda'i mab ifanc yn y rali yng Nghaerdydd - bu farw ei thad yn Wcráin yn yr wythnos ddiwethaf ac mae ei gŵr yn dal yn y wlad

Mae'r AS newydd ddychwelyd o Wcráin ble y bu'n helpu dosbarthu nwyddau a gafodd eu cyfrannu gan undebau llafur yng Nghymru.

Roedd aelodau undebau glöwyr yn Wcráin yn gofyn am gerbydau i gludo pobl i rengoedd blaen y brwydro.

Dywedodd Mr Antoniw eu bod wedi cludo "maint anferthol o gyflenwadau meddygol", gan gynnwys rhwymynnau tynhau.

"Dyw cyflenwadau nwy ddim yn bodoli mwyach yn Donetsk," meddai. "Byddan nhw'n wynebu gaeaf oer iawn, iawn.

"Ar lefel emosiynol, mae'n anodd iawn i'w weld."

Pynciau cysylltiedig