Adroddiad: 'Angen trefnu mwy o eisteddfodau lleol'
- Cyhoeddwyd
Mae angen trefnu eisteddfodau lleol mewn ardaloedd lle does 'na ddim gŵyl ar hyn o bryd.
Dyna neges Cymdeithas Eisteddfodau Cymru wrth iddyn nhw gyflwyno eu hadroddiad blynyddol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron.
Er gwaetha' heriau'r pandemig, mae'r gymdeithas yn dweud bod pethau'n argoeli'n dda o ran nifer yr eisteddfodau fydd yn cael eu cynnal ledled Cymru rhwng nawr a diwedd y flwyddyn.
"O'r 35 i 40 oedden ni'n disgwyl, dwi'n meddwl bod rhywbeth fel 70% ohonyn nhw'n mynd i gael eu cynnal o fis medi tan fis Rhagfyr," meddai swyddog datblygu Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, Aled Wyn Phillips.
"Mewn cymhariaeth â lle o'n ni blwyddyn yn ôl, pan oedd dim un ohonyn nhw yn medru cael eu cynnal heblaw am ambell i ymgais ddigidol."
Gobaith cadeirydd y gymdeithas yw ehangu nifer yr eisteddfodau fydd yn cael eu cynnal yn y dyfodol.
"Dwi'n hunan wedi rhoi sialens i ambell ardal i ddechrau eisteddfodau," meddai Megan Jones-Roberts.
"O'n i'n siarad yn ein stondin ni â rhywun oedd yn byw ym Machynlleth, a wedi rhoi'r syniad iddyn nhw.
"'Jiw, pam lai' medden nhw, felly byddwn ni'n gweithio gyda nhw i gychwyn steddfod mewn ardaloedd lle nad oes steddfod yn barod."
Mae'n bwysig, meddai, i drwytho pobl ifanc yn enwedig yn y traddodiad eisteddfodol fel eu bod yn datblygu'n ddiweddarach yn gystadleuwyr yn Eisteddfod yr Urdd a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Mae'r sefyllfa yn amrywio o ardal i ardal, meddai, gyda rhai llefydd fel Ceredigion yn gryf iawn o ran eisteddfodau lleol, ond mae 'na fylchau amlwg hefyd.
"Ni'n meddwl am Gaerfyrddin... mae 'na steddfodau yn Sir Gaerfyrddin, ond ddim yng Nghaerfyrddin ei hunan," meddai Ms Jones-Roberts.
"Da ni'n meddwl am Gaernarfon - does dim steddfod yng Nghaernarfon... na'r Bala.
"Fi'n siŵr 'sa ni'n rhoi fwy o bwysau arnyn nhw, bydde 'na steddfodau yn cychwyn yn yr ardaloedd hyn."
Cynulleidfa newydd
Mae'r gymdeithas hefyd yn dweud eu bod wedi'u calonogi gan ymdrechion rhai eisteddfodau i ddefnyddio'r we i ehangu apêl eu gŵyl.
Un o'r rhai sydd eisoes wedi gwneud hynny yw Eisteddfod Môn, gafodd ei chynnal ym Mro Esceifiog ym mis Mai 2022.
Cafodd yr ŵyl ei ffrydio ar Facebook, gyda'r trefnwyr yn dweud bod rhyw 5,000 wedi bod yn gwylio.
"Oedden ni ddim yn siŵr iawn be' oedden ni am wneud o gwmpas mis Mawrth," meddai ysgrifennydd Llys Eisteddfod Môn, Llifon Jones.
"Oedden ni'n mynd i fynd yn hybrid neu yn gwbl ddigidol?
"Wedyn mi ddaeth y cyhoeddiad - mynd yn hybrid wnaethon ni a dwi'n meddwl bod o wedi gweithio, ac mi oedd yr ymateb a'r sylwadau gan bobl yn gadarnhaol iawn."
'Deheuad i 'neud e'
Mae Eisteddfod Môn yn bwriadu ffrydio'u gŵyl y flwyddyn nesa' hefyd.
"O'dd o'n fuddsoddiad dwi'n meddwl wnaeth weithio - fel pwyllgor doeddan ni ddim yn difaru o gwbl," meddai Mr Jones.
Mae Cymdeithas Eisteddfodau Cymru yn dweud y gall hwn fod yn batrwm i eisteddfodau eraill ei ddilyn.
Dywedodd Aled Wyn Phillips: "Mae ambell i gymdeithas lle mae pobl falle yn mynd yn hŷn, ddim yn gallu mynd mas gymaint ag oedden nhw - os oes ffordd i ymestyn y gynulleidfa tu hwnt i furiau pedair wal o bosib, mae'n opsiwn i rai.
"Dwi'n meddwl o'r trafodaethau ni'n cael yn ystod yr wythnos hyd yma, yn amlwg mae 'na ddeheuad gan rai pobl i 'neud e."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2021
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd24 Ebrill 2021