Enillydd Cân i Gymru a chyn-aelod Moniars, Barry Evans wedi marw
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gerddor o Wynedd a fu farw yr wythnos hon.
Roedd Barry Evans, tad i dri o Chwilog, ger Pwllheli, yn fwyaf adnabyddus am ennill cystadleuaeth Cân i Gymru yn 2014.
Ond am sawl blwyddyn roedd hefyd yn perfformio gyda'r grŵp o Fôn, y Moniars, tra hefyd yn gweithio yn y maes gwasanaethau cymdeithasol.
Mewn datganiad, diolchodd teulu Mr Evans, oedd yn 49 oed, am yr holl negeseuon, sy'n "golygu llawer i ni fel teulu".
Maent hefyd wedi "erfyn ar bob unigolyn i siarad allan". "Does 'na ddim un broblem yn ormod ac mae 'na ddatrysiad i bob un!"
Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru bod corff wedi ei ganfod mewn cyfeiriad yn Chwilog fore Llun, ond nad oedden nhw'n trin y farwolaeth fel un amheus.
'Dipyn o ddawn'
Yn ôl Arfon Wyn, prif ganwr y Moniars, roedd Mr Evans yn "ffrind a pherson ffyddlon tu hwnt".
Dywedodd Arfon Wyn fod y band i fod i berfformio yn ystod ei ddathliad pen-blwydd o fewn y pythefnos nesaf.
Ychwanegodd y byddai perfformiad y band yng Nghlwb Bowlio Tregaron nos Fawrth, cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, yn deyrnged i'r cyn-aelod.
"Dwi'n 'nabod Barry ers roedd yn tua 18 oed pan ddoth ar brofiad yn Ysgol Hafod Lon, lle roeddwn yn brifathro ar y pryd", dywedodd Arfon Wyn wrth Cymru Fyw.
"Roedd ganddo dipyn o ddawn wrth weithio gyda phlant 'efo anabledd ac roedd yn dod yn naturiol iawn iddo, roedd o mor dda.
"Aeth o ymlaen i weithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol Gwynedd, wedi gwir ffeindio ei forte.
"Wrth gwrs mi oedd o hefyd yn canu hefo'r Moniars am flynyddoedd lawer, tan yn ddiweddar, ac roedd dal yn perfformio 'efo ni os oedd gigs yn weddol agos i'w gynefin."
"'Oedd Barry yn weithiwr caled ond hefyd yn mwynhau ei gerddoriaeth, gan hefyd ddarparu lot o gymorth i Richard, sef aelod o'r grŵp sy'n ddall.
"Ond er ei holl dalentau, fydda i'n cofio Barry yn bennaf fel ffrind a pherson ffyddlon tu hwnt."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2014