Joe Healy yn cael ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn 2022

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Roedd Joe Healy dan deimlad pan gafodd ei enwi'n enillydd Dysgwr y FlwyddynFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Joe Healy dan deimlad pan gafodd ei enwi'n enillydd Dysgwr y Flwyddyn

Mae Joe Healy wedi cael ei enwi yn Ddysgwr y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.

Roedd 18 o bobl wedi ymgeisio eleni, gyda phedwar yn cyrraedd y rhestr fer.

Y tri arall yn y rownd derfynol oedd Stephen Bale o Fagwyr, Ben Ó Ceallaigh o Aberystwyth a Sophie Tuckwood o Hwlffordd.

Ond Joe Healy ddaeth i'r brig, ac fe gafodd ei anrhydeddu mewn seremoni ym Mhafiliwn y Maes yn Nhregaron ddydd Mercher.

Mae Joe yn derbyn tlws arbennig a £300 yn rhoddedig gan Seiri Rhyddion Talaith Gorllewin Cymru, a bydd yn cael ei wahodd i fod yn aelod o'r Orsedd.

Pwy ydy Joe Healy?

O Wimbledon yn ne Llundain y daw yn wreiddiol, ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers degawd.

Fe ddaeth i'r brifddinas i fynd i'r brifysgol, ac yno y mae wedi aros. Fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018.

Mae Joe yn angerddol dros y Gymraeg a Chymru, ac yn awyddus i weld yr iaith yn ffynnu yn y dyfodol. Mae hefyd yn ymddiddori mewn gwleidyddiaeth.

Mae'n parhau i fyw yng Nghaerdydd ac yn defnyddio'r Gymraeg yn ddyddiol ym mhob rhan o'i fywyd.

Mae hefyd wedi mynd ati i gefnogi ei gydweithwyr i ddysgu Cymraeg.

Dewch i adnabod Joe Healy yn well.

Dysgwyr y Flwyddyn 2022: Pwy oedd y tri arall ar y rhestr fer?

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

O'r chwith i'r dde: Stephen Bale, Ben Ó Ceallaigh, Joe Healy a Sophie Tuckwood

Y beirniaid eleni oedd Cyril Jones, Elwyn Hughes a Geraint Lloyd.

Wrth siarad ar y llwyfan cyn enwi'r enillydd, awgrymodd Cyril Jones y dylai trefnwyr y Brifwyl wneud dydd Mercher yr Eisteddfod yn 'ddiwrnod y dysgwyr'.

Anogodd hefyd y Brifwyl i roi "tocyn am ddim i bawb sy'n dysgu Cymraeg" ar y diwrnod hwnnw.

Roedd y beirniaid yn gwbl gytûn fod y safon yn uchel iawn unwaith eto, ac y byddai wedi bod yn hawdd iawn i ddewis wyth i fynd yn eu blaenau i'r rownd derfynol.

Ond gan mai dim ond pedwar sy'n gallu cyrraedd y rhestr, dyma barhau i drafod tan iddyn nhw ddod i benderfyniad.

Bydd y pedwar ar y rhestr fer yn derbyn tanysgrifiad blwyddyn i'r cylchgrawn Golwg, a rhoddion gan fudiad Merched y Wawr.

Pynciau cysylltiedig