Gemau'r Gymanwlad: Aled Sion Davies yn sicrhau aur arall
- Cyhoeddwyd
![Aled Siôn Davies](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/D3CE/production/_125322245_gettyimages-452833988.jpg)
Dydy Aled Siôn Davies heb gynrychioli Cymru yn y Gymanwlad ers 2014, am nad oedd ei gystadleuaeth yn rhan o'r rhaglen yn 2018
Mae'r athletwr Paralympaidd Aled Sion Davies wedi sicrhau pedwerydd medal aur Cymru o Gemau'r Gymanwlad.
Llwyddodd i ennill y cystadleuaeth taflu pwysau F42-44/61-64 i ddynion gyda thafliad o 51.39m, gyda'i gyd-Gymro Harrison Walsh hefyd yn sicrhau'r fedal efydd.
Mae llwyddiant y ddau yn golygu fod Cymru bellach wedi ennill 16 medal, wedi i Joel Makin sicrhau arian yn y sboncen.
![Joel Makin](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/A289/production/_126190614_gettyimages-1412543293.jpg)
Llwyddodd Joel Makin i sicrhau pedwerydd medal arian Cymru o'r gemau
Collodd Makin yn y gêm derfynol i Paul Coll o Seland Newydd yng nghystadleuaeth unigol y dynion.
Yn gynharach yn y dydd llwyddodd Natalie Powell hefyd i ennill arian yn y jiwdo wedi iddi gael ei threchu gan Emma Reid o Loegr yn rownd derfynol y categori -78kg.
Dyma'r eildro iddi ennill medal yn y gystadleuaeth yng Ngemau'r Gymanwlad, wedi iddi ennill yr aur wyth mlynedd yn ôl yn Glasgow.
Mae Cymru wedi ennill 16 medal yng ngemau Birmingham hyd yma - pedair medal aur, tri arian ac naw efydd.
![Natalie Powell](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/F0A9/production/_126190616_gettyimages-1331205671.jpg)
Dyma'r eildro i Natalie Powell ennill medal yng Ngemau'r Gymanwlad
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Awst 2022
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022
- Cyhoeddwyd1 Awst 2022