Angen gwella porthladd rhag 'colli' fferm wynt newydd
- Cyhoeddwyd
Fe allai Cymru golli allan ar swyddi a buddsoddiad yn y sector ynni gwynt morwrol, am nad yw isadeiladd porthladdoedd y gogledd yn ddigonol.
Yn ôl Jim O'Toole, prif weithredwr Porthladd Mostyn yn Sir y Fflint, lle cafodd tyrbinau safle Gwynt y Môr eu codi a'u cynhyrchu'n rhannol, mae angen buddsoddiad helaeth er mwyn gwella'r safle os am wneud hynny eto gyda safle tyrbinau gwynt newydd Awel y Môr, sydd dan ystyriaeth.
Bydd angen i'r ceiau yn y porthladd allu delio â thyrbinau sy'n pwyso deg gwaith mwy na'r hen rai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gweithio gyda phorthladdoedd i "ddeall eu anghenion penodol".
'Ddim yn addas'
Mae Gweinidog Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, wedi cyfaddef bod angen gwneud mwy i sicrhau y gall Cymru fanteisio ar adnoddau naturiol y wlad.
Mae cynllun Awel y Môr, sy'n cynnwys oddeutu 50 o dyrbinau gwynt oddi ar arfordir y gogledd, wrthi'n cael ei ystyried yn dilyn cais gan gwmni RWE Renewables.
Mae'r cwmni'n dweud y gallai'r cynllun newydd gynhyrchu digon o ynni i bweru rhyw 500,000 o gartrefi Cymru gan byddai'r tyrbinau hyn yn fwy o ran maint ac effeithlonrwydd.
Ond mae 'na boeni nad oes digon o gapasiti ym mhorthladdoedd gogledd Cymru, na chwaith yr isadeiledd er mwyn ymdopi â'r tyrbinau mwy sydd dan ystyriaeth.
Mae'r tyrbinau a gafodd eu codi ar safle Gwynt y Môr yn 150m o hyd, ond mae'r tyrbinau newydd yn ymestyn 332m fry i'r awyr ac yn hytrach na phwyso 300 tunnell yr un, mae nhw'n pwyso 2,750 tunnell.
"Dydi'r porthladd bellach ddim yn addas er mwyn delio â'r fath bwysau, felly mi ydan ni angen porthladd gwbl newydd sydd â'r gallu i ymdopi â phwysau o 3,000 o dunelli," meddai Mr O'Toole.
Mae'n dweud bod angen datblygu'r isadeiledd yma erbyn 2025 er mwyn sicrhau bod modd cadw'r gwaith a swyddi.
"'Dan ni methu ei golli," meddai.
Angen mwy o gydweithio
Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cyfaddef bod angen mwy o gydweithio a buddsoddiad er mwyn diwallu anghenion cynlluniau newydd fel Awel y Môr.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd: "Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda rheolwyr pob un o'n pedwar prif borthladd er mwyn deall eu anghenion penodol."
Yn ôl RWE Renewables, mae'n rhaid gweithio'n gyflym er mwyn cynhyrchu ynni adnewyddadwy.
"Mi fydd y tyrbinau yn Awel y Môr yn fwy na rhai Gwynt y Môr ond mae hynny'n meddwl bod 'na lai ohonyn nhw, mi fyddan nhw'n creu mwy o egni gan eu bod yn uwch ac yn dal mwy o wynt," medd Eleri Wilce, arweinydd tîm cynllunio RWE.
"Mae cost egni yn syrthio oherwydd bod o'n fwy effeithiol.
"'Dan ni'n gallu creu mwy o ynni adnewyddadwy gwyrdd rhad am lai o gost oherwydd bod y tyrbinau'n fwy effeithiol."
Pan gafodd safle Gwynt y Môr ei adeiladu yn y porthladd yn 2015 fe gafodd 450 o bobl eu cyflogi am ddwy flynedd, gyda 140 o'r swyddi hynny wedi eu cadw am 30-35 o flynyddoedd er mwyn cynnal a chadw'r safle.
Mae'r addewid o safle newydd Awel y Môr felly unwaith eto wedi codi gobeithion am ragor o swyddi ar y cynllun, y gadwyn gyflenwi a'r cyfraniad i'r economi leol - rheswm amlwg pam mae bellach galw am uwchraddio adnoddau'r gogledd i gadw'r gwaith.
Ers rhai blynyddoedd mae cwmni Workplace-Worksafe yn Rhuthun wedi bod yn gweithio gyda chwmni RWE Renewables er mwyn creu dillad a chyfarpar i weithwyr ac offer RWE.
Fe ddyfeisiodd Rhian Parry a 12 aelod o'i thîm fag er mwyn diogelu offer i'r cwmni cynhyrchu, gan ddweud bod y sach newydd wedi arbed £24m y flwyddyn i RWE drwy ddiogelu offer.
"I gychwyn oeddan ni'n gwerthu PPE, so dillad efo logos a sbectol i RWE," meddai.
"Maen nhw wir isio gweithio efo busnesau bach lleol, ond mae'n rhaid i chi weithio efo nhw a bod yn agile.
"Mae angen i gwmnïau fel ni fod yn hyderus a mynd am y gwaith - dangos i'r cwmnïau mawr fod rheswm iddyn nhw siopa yn lleol."
Diolch i wyntoedd cryfion ac arfordir agored Cymru mae nifer o gynlluniau un ai ar waith neu dan ymgynghoriad er mwyn sefydlu tyrbinau gwynt newydd - rhai sy'n arnofio - gyda miliynau o bunnoedd ar y gweill.
Ond gyda diffyg isadeiledd mae cwestiynau o hyd a oes digon o fuddsoddiad, cymorth ac awydd i ddatblygu porthladdoedd ac isadeiledd Cymru er mwyn cadw swyddi, a galw felly am ragor o gymorth gan y llywodraethau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Awst 2020
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd19 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2015