Dathlu daucanmlwyddiant ers sefydlu Coleg Dewi Sant, Llambed

  • Cyhoeddwyd
Coleg Dewi Sant, LlambedFfynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Sant
Disgrifiad o’r llun,

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant bellach yn un aml-gampws

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn nodi 200 mlynedd ers i'w choleg cyntaf gael ei sefydlu ddydd Gwener.

Ar 12 Awst 1822, gosodwyd y garreg sylfaen ar gyfer Coleg Dewi Sant, Llambed, a hynny gan yr Esgob Thomas Burgess.

Y coleg yn nhref Llambed oedd man geni addysg uwch yng Nghymru.

Dros ddwy ganrif yn ddiweddarach, mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi tyfu'n aruthrol ac mae bellach yn un aml-gampws.

Mae tri o'u phrif gampysau wedi'u lleoli yng Nghymru - Caerfyrddin, Llambed ac Abertawe.

Yn ogystal, mae ganddynt gampysau yn Birmingham a Llundain ynghyd â chanolfannau dysgu yng Nghaerdydd.

Ond campws Llambed sy'n cynnig y profiad fwyaf "cynhenid wahanol", yn ôl y Brifysgol, a hynny oherwydd ei golygfa.

'Profiad newydd mewn hen adeilad'

Bydd digwyddiadau'n cael eu cynnal yn nhref Llambed ddydd Gwener yn seiliedig ar yr hyn ddigwyddodd yno union 200 mlynedd yn ôl.

I gychwyn y diwrnod, bydd gwasanaeth yn cael ei chynnal yn Eglwys San Pedr gyda gorymdaith i ddilyn tuag at gampws Prifysgol Llambed.

Bydd cofeb arbennig a chloch heddwch hefyd yn cael eu dadorchuddio ynghyd â lansio llyfr newydd am hanes y Brifysgol.

Yn ogystal, bydd oriel yn agor i arddangos hanes campws Llambed gan gynnwys y garreg sylfaen honno o 1822.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Sylfaenydd Coleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, Esgob Thomas Burgess

Wrth edrych ymlaen at y dathlu, dywedodd yr Athro Medwin Hughes, DL, Is-ganghellor y brifysgol, y bydd y diwrnod yn "achlysur gorfoleddus".

"Mae'r daucanmlwyddiant yn nodi dwy ganrif o barhad cyfleoedd addysg uwch i bobl Cymru ac yn dathlu cyfraniad ein prifysgolion a'n colegau yn y stori honno," meddai.

Dywedodd yr Athro Densil Morgan fod y dathliadau yn "gam hanesyddol" i Goleg Dewi Sant.

"Dyna'r teitl a roddwyd ar y sefydliad gan ei sylfaenydd, yr Esgob Thomas Burgess yn 1822, a dyna'r teitl a fu arno am tua chanrif a hanner," meddai.

"Roedd Burgess yn dymuno gweld coleg yn ei esgobaeth a fyddai'n hyfforddi offeiriaid, ond tyfodd maes o law i fod yn brifysgol gyflawn gyda rhychwant eang o bynciau yn cael eu dysgu.

"Mae gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant etifeddiaeth hynod gyfoethog, nid yn lleiaf ym maes diwinyddiaeth Gristnogol, a bu ei chyfraniad at fywyd Cymru a'r diwylliant Cymraeg yn sylweddol."

Hel achau

Un fydd yn bresennol yn y gwasanaeth a'r orymdaith yw Ceri Davies o Goedybryn, sydd newydd raddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda Meistr y Llais.

Ynghyd â bod yn gyn-fyfyriwr, mae e hefyd yn ddisgynnydd i brifathro cyntaf y Coleg, sef Llewelyn Lewellin.

"Mae e'n od," meddai. "Mae e fel bod pethau wedi slotio yn eu lle.

"Rodd un member o'r teulu yna ar y dechrau a dwi'n teimlo'n falch iawn bo' fi yna yn y 200th anniversary i ddathlu e."

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ceri Davies yn canu yn y gwasanaeth agoriadol

Ychwanegodd: "Mae e'n foment eithaf prowd i feddwl bod rhywun yn perthyn nôl yn yr achau wedi helpu sefydlu'r Brifysgol hynod o sbesial 'ma sydd wedi bod yn gefn i'r Cymry am y 200 mlynedd ddiwethaf a nawr yn estyn llaw ar draws y byd."

Mae disgwyl i 300 o bobl fynychu'r dathliadau yn Llambed, gan gynnwys Esgob Tyddewi a Gweinidog Addysg a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru, Jeremy Miles.