Prifysgol Llambed a chwmni Aldi yn datgelu menter newydd

  • Cyhoeddwyd
Stryd Fawr LlambedFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Stryd fawr Llambed - y gobaith yw y bydd y syniad yn denu mwy o bobl i siopa'n lleol

Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cydweithio gyda chwmni archfarchnad Aldi i greu menter fwyd newydd yn Llanbedr Pont Steffan, allai greu tua 40 o swyddi.

Dim ond megis dechrau y mae'r trafodaethau, ond mae'r cynlluniau'n ymwneud â chreu academi bwyd a menter wledig ar ran o feysydd chwarae'r brifysgol yn y dref, gyda'r gobaith y bydd yn rhoi hwb i economi'r dref.

Byddai pentref bwyd - Canolfan Tir Glas - yn cynnwys archfarchnad Aldi ynghyd â chlwstwr o gabanau bwyd i hyrwyddo cynnyrch lleol ac annog meicrofusnesau bwyd.

Byddai'r prosiect yn cymryd tua 30% o'r meysydd chwarae ym Mhontfaen, ond dywed y brifysgol y byddent yn cadw gweddill y tir i fyfyrwyr a'r gymuned leol ar gyfer gweithgareddau hamdden.

Dywedodd llefarydd ar ran y brifysgol y byddai'r fenter yn creu 40 o swyddi fyddai'n talu "cyflogau cystadleuol o fewn y diwydiant o oddeutu £9.40 yr awr o leiaf" os fydd yn cael ei gwireddu.

Hybu siopa'n lleol

Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Profost y Campws yn Llambed, bod y brifysgol wedi buddsoddi dros £10m yn isadeiledd y campws, "a bydd yn parhau i wneud hynny yng nghyswllt prosiectau penodol megis mentrau Canolfan Tir Glas a'r pentref bwyd a fydd yn caniatáu i'r campws dyfu yn y dyfodol".

"Er mwyn i Lambed oroesi mae'n rhaid iddi newid a manteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai ddod i'w rhan. Nid yw'r status quo yn opsiwn."

Ffynhonnell y llun, PCDDS

Yn ôl Rob Jones, Cyfarwyddwr Eiddo Rhanbarthol Aldi, mae nifer o bobl yr ardal yn teithio i Gaerfyrddin a thu hwnt i siopa ar hyn o bryd.

"Felly bydd hyn yn welliant sylweddol o ran amserau teithio, a hefyd yn annog rhagor o bobl i aros yn lleol i siopa trwy deithiau cysylltiedig i'r pentref bwyd a siopau eraill yn y dref," meddai.

"Mae'n dal i fod yn gynnar yn y broses, fodd bynnag rydym yn edrych ymlaen at gydweithio'n agos â'r brifysgol i sicrhau bod buddion ein cynigion ar y cyd - megis mwy o ddewis o siopau yn lleol, nifer sylweddol o swyddi sy'n talu'n dda, a buddion economaidd y buddsoddiad hwn sy'n werth miliynau o bunnoedd - yn bwydo i mewn i weledigaeth ehangach y brifysgol.

"Byddwn yn cynnal rhaglen lawn o ymgynghori cyhoeddus maes o law i ddarparu rhagor o wybodaeth a cheisio adborth lleol ar y cynlluniau."

Daeth y syniad am bentref bwyd yn dilyn trafodaethau diweddar rhwng nifer o gyrff ar ddyfodol y dref trwy fenter o'r enw Trawsnewid Llambed.