Canrif o ymgyrchu ers Apêl Heddwch Menywod Cymru 1924

  • Cyhoeddwyd
Y ddeiseb
Disgrifiad o’r llun,

Llofnododd 390,000 o ferched Cymru y ddeiseb yn y 1920au

Wrth ddathlu canmlwyddiant Apêl Heddwch Menywod Cymru, mae "angen rhywbeth fel hyn nawr mwy nag erioed," yn ôl un o'r ymgyrchwyr.

Yn 1923, fe wnaeth dros 390,000 o fenywod yng Nghymru arwyddo apêl i bwyso ar America i ymuno yn y frwydr yn erbyn rhyfel a Chynghrair y Cenhedloedd.

Roedd hynny'n dilyn blynyddoedd o frwydro yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

I nodi canmlwyddiant Apêl Heddwch Menywod Cymru, mae mudiad Heddwch Nain/Mamgu yn dathlu drwy ailgyflwyno'r gist a oedd yn dal y llofnodion yn America a'i ddychwelyd i Gymru.

Wrth ddathlu, bydd mwy o bwyslais ar y pynciau sydd o bwys i fenywod heddiw.

Deiseb saith milltir o hyd

Roedd y ddeiseb orffenedig a gafodd ei harwyddo gan yr holl filoedd o fenywod Cymru bron i ganrif yn ôl, yn pwyso ar America i ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf ac i uno yn yr ymgyrch yn erbyn rhyfel, yn saith milltir o hyd.

Cyflwynwyd cist oedd yn dal y llofnodion i America yn 1924, ond erbyn heddiw, ac i ddathlu'r bartneriaeth rhwng Cymru ac America, mae'r gist yn dychwelyd i Gymru o Amgueddfa Smithsonian, Washington DC.

Ffurfiwyd Heddwch Nain/Mamgu ar ôl ailddarganfod yr hanes ac i frwydro am fyd heb ryfel.

Ffynhonnell y llun, Heddwch Nain/Mamgu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y mudiad Heddwch Nain/Mamgu gwrdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol i baratoi'r dathliad

Aelod o'r mudiad, a'r grŵp llywio yw Awel Irene a ddywedodd: "Tybed os ydy nain fi, nain yn byw yn Parc yn Y Bala - tybed os wnaeth hi arwyddo'r ddeiseb?"

Mae Awel yn edrych ymlaen at weld yr enwau yn y gist a'i ail gyflwyno i ferched Cymru.

Dywedodd: "Fe fydd yn mynd o gwmpas Cymru gan gyflwyno'r syniad yma o'r ddeiseb i wahanol gynulleidfaoedd."

Mae'r mudiad wedi sicrhau partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru, Academi Heddwch, Llyfrgell Genedlaethol, Amgueddfa Cymru, Archif Menywod Cymru a mwy er mwyn lledaenu eu neges.

'Angen bod yn gyfoes'

Er mwyn dathlu'r apêl a'r bartneriaeth, mae pobl yn ailedrych ar yr apêl wreiddiol yn America a Chymru yn ogystal.

Yn ôl Awel Irene, mae'r apêl yn mynd i gael ei hail-greu a'i hailgyflwyno i Gymru a bydd yn rhaid "bod yn gyfoes".

"Yn yr apêl wreiddiol, do'dd o ddim just yn sôn am fyd di-rhyfel. O'dd o'n sôn am y ffaith fod merched yn cael eu caethweisio, bod yn rhan o'r fasnach rywiol.

"Roedd merched yn poeni am gyffuriau, a'r effeithiau hyn ar gymdeithas 100 mlynedd yn ôl ac felly rydyn ni angen bod yn gyfoes i weld beth ydy'r pynciau sydd yn poeni pobl heddiw."

Ffynhonnell y llun, Heddwch Nain/Mamgu
Disgrifiad o’r llun,

Brwydro am heddwch byd-eang y mae'r mudiad Heddwch Nain/Mamgu

Ychwanegodd: "Mae Cymru yn ddiweddar wedi datgan eu cefnogaeth dros gael gwared ag arfau niwclear.

"Mae yna ffordd ymlaen fel bod Llywodraeth Cymru yn gallu arwain y ffordd ochr yn ochr gyda mudiadau eraill."

Cydweithio rhwng gwledydd

Er mwyn atgyfnerthu'u neges o heddwch a chynaliadwyedd, maent yn cofio ac yn dathlu'r ymgyrch dros heddwch gan fenywod ar draws y byd.

Mae'r mudiad yn cydweithio gyda gwledydd ar draws y byd ac mae Awel Irene yn mynychu academi heddwch yn Kerala, De India i weithio gyda merched sydd wedi dioddef o drais yn y cartref ac i ledaenu'r neges o heddwch byd-eang.

Pynciau cysylltiedig