Tri yn gwadu dwyn arian o gyfrif banc dyn bregus

  • Cyhoeddwyd
Ruta Stankeviciene (chwith), Jokubas Stankevicius (canol) a Normunds Freibergs (dde)
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruta Stankeviciene (chwith), Jokubas Stankevicius (canol) a Normunds Freibergs (dde) yn gwadu cyhuddiadau o gaethwasiaeth fodern

Mae llys wedi clywed bod tri o bobl sy'n wynebu cyhuddiadau caethwasiaeth fodern wedi tynnu arian o gyfrif banc dyn bregus heb ganiatâd.

Roedd Rolands Kazoks, sy'n 31 oed ac yn dod o Latfia, yn gweithio mewn ffatri brosesu cig rhwng Awst a Hydref 2018.

Clywodd y rheithgor bod ei gyflog yn aml yn cael ei gymryd gan y diffynyddion Ruta Stankeviciene a Jokubas Stankevicius, munudau yn unig wedi iddo gael ei dalu i mewn.

Mae'r pâr priod yn honni fod gan Mr Kavock ofn mynd i nôl yr arian ar ei ben ei hun - gyda Mr Stankevicus yn dweud eu bod nhw wastad yn mynd i nôl yr arian gyda'i gilydd.

Mae Normunds Freibergs, 40, Jokubas Stankevicius, 59, a Ruta Stankeviciene, 57 - ill tri o Gasnewydd - yn wynebu cyhuddiad o orfodi person i gyflawni llafur gorfodol.

Maen nhw'n gwadu'r cyhuddiadau.

Mae Mr Freibergs hefyd yn gwadu trefnu neu hwyluso teithio person arall gyda golwg ar gamfanteisio, a gweithredu fel gangfeistr heb drwydded.

'Rhydd i adael'

Y gred yw bod Mr Kazock wedi ennill tua £10,000 yn ystod ei gyfnod yng Nghasnewydd, ond yn gynharach, fe glywodd y llys fod cydweithwyr yn y ffatri yn bryderus pan ddaeth i'w waith yn gwisgo sandalau yn y gaeaf.

Dywedodd Mrs Stankeviciene wrth ymchwilwyr ei bod hi yn ôl arian ar ei gyfer ar ôl iddo orffen gweithio shifftiau hwyr, er i'r ymchwilwyr nodi nad oedd yn gweithio shifftiau o'r fath.

Mae hi'n gwadu ei fod wedi cael ei drin yn wael, gan ei ddisgrifio fel "aelod o'r teulu".

"Does dim gwirionedd yn yr hyn y mae e'n ei ddweud. Doedd e ddim yn gaethwas, roedd e'n rhydd i adael ar unrhyw bryd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r achos yn cael ei gynnal yn Llys y Goron Casnewydd

Dywedodd Rolands Kazoks ei fod wedi dechrau byw gyda'r pâr yn eu cartref yng Nghasnewydd yn Hydref 2017, ar ôl symud o'r Almaen.

Daeth ymchwilwyr i wybod fod gan Mr Freiburgs hefyd fynediad at gyfrif banc y gŵr ifanc o Latfia.

Ond gwadu cymryd ei arian wnaeth Mr Stankevicius: "Roedd e'n gofyn i mi dynnu'r arian allan, roedd e'n sefyll wrth fy ochr. Roeddwn i'n edrych ar ei ôl."

Er hynny, dyw lluniau camerâu cylch cyfyng ddim yn dangos unrhyw achlysuron lle'r oedd y ddau yn ôl arian ar y cyd.

Clywodd y llys am rai achosion pan gafodd hyd at £250 ei dynnu allan gan Mr Stankevicius neu Mrs Stankeviciene.

Ar achosion eraill roedd yr arian yn cael ei drosglwyddo i gyfrif Mr Stankevicus.

Mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig