Pobl Ynys Môn i gael dweud eu dweud ar sut i wario £23m
- Cyhoeddwyd
Am y tro cyntaf fe fydd y cyhoedd yn cael dweud eu dweud ar sut i wario cronfa £23m mewn un sir yn y gogledd.
Fe sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn 1990 i reoli'r arian a dderbyniodd yr ynys gan gwmni Shell.
Cytunwyd ar y rhodd hwn wedi i'r cwmni ddirwyn gweithgareddau i ben mewn terfynell olew yn Amlwch a'r fferm danciau cysylltiedig yn Rhosgoch.
Cynghorwyr y sir sydd wedi bod yn gyfrifol am weithredu'r ymddiriedolaeth a pha brosiectau i'w cyllido.
Ond nawr, am y tro cyntaf erioed, bydd y drws yn cael ei agor i aelodau'r cyhoedd gael dweud eu dweud.
'Sicrhau gwell amrywiaeth'
Mae'r llog blynyddol o'r arian a dderbyniodd yr ynys wedi ymadawiad y cwmni wedi ariannu nifer o gynlluniau cymunedol ers hynny, gan gynnwys helpu anfon timau i Gemau'r Ynysoedd a chostau rhedeg Oriel Ynys Môn.
Ond tra bod 30 o ymddiriedolwyr wedi bod yn draddodiadol, sef holl gynghorwyr sir yr ynys, o hyn allan bydd nifer y cynghorwyr ar y bwrdd yn cael ei dorri i chwech.
Bydd y chwe sedd sy'n weddill yn cael eu llenwi gan aelodau'r cyhoedd, a fydd hefyd yn eistedd fel ymddiriedolwyr, ac yn gwbl annibynnol o'r cyngor a'r cynghorwyr.
Gyda'r ymddiriedolaeth hefyd wedi ei ail-enwi a bellach yn cael ei adnabod fel Cymdeithas Elusennol Ynys Môn, dywedodd y prif weithredwr newydd, Celyn Menai, mai'r bwriad yw sicrhau gwell amrywiaeth.
"Rydym am recriwtio chwe ymddiriedolwr annibynnol i ymuno â bwrdd yr ymddiriedolwyr," meddai.
"Rhaid i'r rhai sy'n gwneud cais fod â chysylltiadau cryf ag Ynys Môn a rhannu ein hangerdd wrth hyrwyddo buddiannau ei chymunedau a'i phobl."
"Rydym am sicrhau bod y bwrdd yn adlewyrchu'n well amrywiaeth y rhai rydym yn eu cefnogi.
"Gall ymddiriedolwyr annibynnol, penodedig gynnig dyfnder ac ehangder o fewnwelediad, persbectif a phrofiad i'n gwaith."
'Ffodus i'w gael'
Yn 2015, yng ngwyneb pryderon y byddai Ynys Môn yn cael ei huno gyda chynghorau cyfagos, fe gyflwynwyd cymal newydd i gyfansoddiad yr ymddiriedolaeth - fel yr oedd ar y pryd - i warantu bod ond modd gwario'r arian ar brosiectau wedi eu lleoli ym Môn.
Ar y pryd roedd werth £17m ond yn dilyn buddsoddiad pellach a gwerthiant rhai darnau o dir, gan gynnwys depo Shell yn Rhosgoch, mae'r gymdeithas bellach werth dros £23m.
Ymysg rhai prosiectau cyfredol sydd wedi elwa o'r gymdeithas yw Tîm Chwilio ac Achub Môn, amryw glybiau'r Urdd a Ffermwyr Ifanc, gorsafoedd radio a chyfryngau lleol, canolfannau cymunedol a chyfleusterau chwaraeon ac hamdden.
Ond er bod galwadau wedi bod dros y blynyddoedd i wario mwy o'r arian sydd ar gael - yn hytrach na gwario'r llog blynyddol yn unig - dywedodd cadeirydd y gymdeithas wrth Cymru Fyw ei fod yn credu mai rheolaeth gofalus oedd un o'i brif rinweddau.
"Does na'm dwywaith ein bod yn ffodus iawn ar Ynys Môn i gael yr arian yma, ac mae wedi elwa cannoedd o glybiau a phrosiectau dros y blynyddoedd," dywedodd y Cynghorydd Trefor Lloyd Hughes.
"Ond y teimlad oedd bod na le i bobl yr ynys roi eu mewnbwn i'r penderfyniadau hefyd, a bod y gymdeithas braidd yn fawr 'efo 30 neu 35 o gynghorwyr.
"Dwi'n meddwl fod 'na lot o le i longyfarch y rheiny wnaeth benderfynu gosod yr ymddiriedolaeth, dros 30 mlynedd yn ôl erbyn hyn, a mae o wedi'i weithredu'n dda iawn ond dwi'n credu fod hi'n amser am newid a mae hyn yn gam mawr ymlaen a gwahodd syniadau newydd hefyd.
"Dwi'n wybodol fod na sawl un wedi dangos diddordeb yn barod, sy'n argoeli'n dda a bod pobl yn teimlo bod y gymdeithas yn beth da.
"Y peth mwyaf ydy fod y politics wedi'i gadw allan ohono erioed, a dwi'n meddwl mai dyna 'di'r peth gora' i'r dyfodol hefyd."
Y dyddiad cau am geisiadau i fod yn ymddiriedolwr yw dydd Sul, 14 Awst. Mae mwy o fanylion ar gael yma, dolen allanol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2015
- Cyhoeddwyd26 Medi 2020