Pam bod angen bathodyn 'siarad Cymraeg'?
- Cyhoeddwyd
Mae'r swigen siarad oren wedi dod yn un o logos pwysicaf yr iaith Gymraeg.
Y bwriad yw nodi eich bod yn gallu siarad Cymraeg wrth siarad â rhywun mewn siop neu wasanaeth.
Ond pam bod siaradwyr Cymraeg angen gweld bathodyn i gychwyn sgwrs yn eu hiaith?
Dr Awel Vaughan Evans, Uwch Ddarlithydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor fu'n egluro pam fod y "bathodyn iaith yn gweithio" ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru.
Siaradwyr Cymraeg yn ddi-hyder
Yn ôl Awel, diffyg hyder sy'n achosi i siaradwyr Cymraeg gychwyn sgyrsiau'n Saesneg.
Eglura: "Achos bod ni'n siarad iaith leiafrifol a siarad iaith arall lle mae pawb fwy neu lai yn ei siarad sef Saesneg 'dan ni fwy neu lai efo'r tuedd yma i fynd yn syth at y Saesneg, oherwydd dydi'r hyder ddim yna - dydan ni ddim yn meddwl fod gymaint o bobl a hynna yn siarad Cymraeg.
"Mae o'n grêt gweld bod y bathodynnau yma yn ysgogi ac yn gam cynta, ac arwain at godi hyder pobl yn gyffredinol a chael pobl allan o'r feddylfryd yna o feddwl, 'os dwi'n siarad Cymraeg, ella neith pobl ddim dalld fi'.
"Os 'dan i'n dangos i bobl bod ni'n siarad Cymraeg drwy fathodyn neu beth bynnag, 'dan ni'n fwy tebygol wedyn o ddweud, 'O ti'n gwbod be, mae pobl yn dalld y Gymraeg, yn siarad y Gymraeg a dwi am siarad o fel iaith gynta.'"
Hyder i gychwyn sgwrs yn Gymraeg
"Mae gweld y bathodyn yn rhoi sicrwydd yn fwy na ddim byd. Mae hyder yn wahanol i bawb.
"Ella bod un person yn mynd i'r siop a meddwl, 'Dwi'n mynd i siarad Cymraeg unrhyw bryd', tra bod rhywun arall yn teimlo, 'Dwi'm yn siŵr iawn, ella wna i, ella ddim.'
"I'r person di-hyder, mae'r bathodyn yn giw gweledol sy'n gwneud i chi deimlo'n saff, 'Os wna i siarad Cymraeg yn fan'ma, mae'r person am siarad Cymraeg yn ôl efo fi felly does 'na ddim y teimlad od yna o ba iaith fydd rhywun yn siarad yn ôl."
'Y bathodyn iaith yn gweithio'
Dros bymtheg mlynedd ers i Fwrdd yr Iaith Gymraeg gyflwyno'r bathodyn sydd bellach dan ofal Comisiynydd y Gymraeg a'u cynllun Iaith Gwaith, mae Awel wedi bod yn gwneud ymchwil annibynnol diweddar i weld a ydi'r bathodyn bach oren wir yn gweithio.
Roedd ei hymchwil yn profi os oedd pobl yn dechrau sgwrs yn Gymraeg mewn sefyllfaoedd lle roedd y bathodyn iaith yn bresennol neu'n absennol.
Ei chanfyddiad oedd bod pobl yn fwy tebygol o ddewis Cymraeg fel iaith i'w siarad pan mae'r bathodyn iaith yn bresennol. Hefyd roedd pobl yn gwneud penderfyniad iaith (h.y. dewis i siarad yn Gymraeg neu'n Saesneg) yn gynt ar ôl gweld y logo.
'Does dim rhaid cael bathodyn i gychwyn sgwrs yn Gymraeg'
Er i'w hymchwil gadarnhau bod y bathodyn iaith yn ysgogi pobl i gychwyn sgyrsiau'n Gymraeg, mae ei chanfyddiad o Wynedd, un o gadarnleoedd y Gymraeg yn galonogol iddi hefyd.
Eglura: "Be sy'n ddiddorol ydy ddaru ni 'neud yr ymchwil yng Ngwynedd lle mae yna gyfran uchel iawn o siaradwyr Cymraeg. Be sy'n braf ydi hyd yn oed pan nad oedd yna giwiau iaith, dim bathodyn na ddim byd, 50% o'r amser roedd pobl dal yn siarad Cymraeg.
"Mae hynna yn dangos nad ydan ni angen bathodyn i siarad Cymraeg, mae hynna yn bwynt pwysig dwi'n meddwl.
"Dwi'n ama y bysa'r ganran yna yn mynd reit lawr mewn ardal lle nad ydy'r Gymraeg mor amlwg, a phobl ddim yn meddwl fod gymaint o bobl yn siarad Cymraeg.
"'Dan ni methu gwneud i rhywun deimlo'n fwy hyderus ond mi fedrwn ni dargedu ffactorau allanol er mwyn creu cyd-destun sy'n annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg. Dyna pam fod y bathodyn iaith yn bwysig o hyd."
Hefyd o ddiddordeb: