Y llywodraeth yn prynu fferm i 'ehangu busnes' y Dyn Gwyrdd
- Cyhoeddwyd
Roedd rhaid i Ŵyl y Dyn Gwyrdd ddibynnu ar Lywodraeth Cymru i brynu fferm ar eu rhan am nad oedd digon o arian i'w phrynu eu hunain, yn ôl swyddogion y llywodraeth.
Ym mis Mawrth gwariodd y llywodraeth £4.25m ar brynu fferm Gilestone ger Tal-y-bont ar Wysg, Powys, gyda'r nod o ddatblygu ac ehangu busnes y Dyn Gwyrdd.
Cafodd cynllun busnes amlinellol ei gyflwyno yn Hydref 2021, a chynllun llawn ddiwedd Mehefin eleni.
Yn ystod cyfarfod pwyllgor y Senedd ddydd Iau, dywedodd gwas sifil fod y diwydiant adloniant wedi cael ei daro'n galed gan Covid a'i bod yn "anhygoel o heriol i godi arian ar y farchnad breifat".
Ond mae'r Ceidwadwyr Cymreig a Phlaid Cymru wedi beirniadu'r llywodraeth am brynu'r fferm cyn derbyn cynllun busnes llawn.
Mae'r Prif Weinidog Mark Drakeford eisoes wedi amddiffyn y penderfyniad i brynu fferm Gilestone ar gyfer yr ŵyl heb y cynllun busnes.
Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn un o'r pump gŵyl annibynnol mawr sy'n cael eu cynnal tu allan yn flynyddol yn y DU.
Ers 20 mlynedd, mae wedi ei chynnal ar stad Glanwysg ym Mhowys.
Mae'n denu dros 25,000 o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn cynhyrchu tua £10m y flwyddyn i economi'r ardal.
Mae disgwyl i'r ŵyl barhau i gael ei chynnal ar y safle arferol gyda phryniant y fferm yn galluogi'r "busnes i addasu gyda safleoedd eraill i leoli'r nifer cynyddol o fusnesau cysylltiedig sy'n ymwneud â'r brand".
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod trefnwyr yr ŵyl wedi cyflwyno "amlinelliad o gynllun busnes" yn Hydref 2021 a rhoi gwybod i'r llywodraeth bod potensial i fferm Gilestone fynd ar werth yn Chwefror 2022.
Fe dalodd Llywodraeth Cymru £4.25m ar gyfer y fferm 241 erw ym mis Mawrth eleni gan "nad oedd y Dyn Gwyrdd yn berchen ar yr adnoddau i'w ariannu".
Wrth rannu tystiolaeth, dywedodd y llywodraeth iddi dalu £100,000 yn llai na gwerth y fferm ar y farchnad, a gafodd ei asesu a'i brisio gan gwmni Knight Frank.
Mae'r cwmni wedi cadarnhau'r pris ar ôl i BBC Cymru holi.
Mae'r safle wedi ei roi ar les i'r perchennog blaenorol tan ddiwedd Hydref 2022 ar "rent isel".
Mewn cyfarfod ddydd Iau gofynnodd AS Plaid Cymru, Rhys ab Owen i swyddogion y llywodraeth os oedd hi'n "arferol i wario dros £4m cyn gweld cynllun busnes manwl?"
Mewn ymateb dywedodd Andrew Slade, cyfarwyddwr cyffredinol adran economi'r llywodraeth, bod "achos amlinellol" yn hanfodol, ond ei bod yn "berffaith bosibl, dichonadwy, cyfreithiol a phriodol" i lywodraeth brynu eiddo os oeddynt yn credu y byddai hynny'n helpu i gyflawni ei amcanion polisi.
"Nid dyma'r tro cyntaf yr ydym wedi gwneud rhywbeth fel hyn," meddai.
Eglurodd mai pwrpas y pryniant oedd datblygu busnes y Dyn Gwyrdd ymhellach, yn cynnwys gwaith datblygu cynaliadwy, gweithgareddau amaethyddol, ac "ystod o bethau eraill fyddai'n caniatáu cadw'r fenter yng Nghymru".
Yn ôl y llywodraeth, ei gweledigaeth yw "sicrhau dyfodol yr ŵyl yng Nghymru" gan fod sawl corfforaeth wedi dangos diddordeb mewn prynu'r brand.
Gofynnodd yr AS Llafur, Mike Hedges, pam nad oedd Y Dyn Gwyrdd wedi prynu'r fferm eu hunain.
Atebodd Mr Slade mai diffyg arian oedd yn gyfrifol, ond: "Os yw ein diwydrwydd yn canfod, yn annisgwyl, bod gan y Dyn Gwyrdd y gallu i ariannu hyn oll a hynny ar ei ben ei hun, yna nid oes angen i Lywodraeth Cymru fod ynghlwm â hyn."
Ystyried cynllun y trefnwyr yw'r cam nesaf gan swyddogion nawr - sy'n cynnwys cyfeiriadau at ffermio cynaliadwy, plannu coed a thwristiaeth.
Fe gyflwynodd Fiona Stewart, sy'n berchen ac yn rhedeg Gŵyl y Dyn Gwyrdd, gynllun busnes llawn i Lywodraeth Cymru ar 29 Mehefin 2022.
Ychwanegodd Llywodraeth Cymru yn ei thystiolaeth mai "nod y cynllun yw cyflwyno'r rhesymeg a'r sail" ynghylch ehangu'r gweithgareddau sy'n ymwneud â "bwyd a diod, twristiaeth, a sut mae ariannu, gweithredu ac ehangu'r elfen amaethyddol".
"Mae'r Dyn Gwyrdd wedi sicrhau y bydd y tir yn parhau i gael ei ffermio a bod gwybodaeth am y cynlluniau rhain wedi eu cynnwys yn y cynllun busnes llawn," dywedodd.
Mae Llywodraeth Cymru yn "asesu'r cynllun yn llawn" ar hyn o bryd, meddai yn ei thystiolaeth.
Os caiff y cynllun ei wrthod, mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu gwerthu neu rentu fferm Gilestone.
'Arllwys arian y trethdalwr'
Fe gwestiynodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd, Andrew RT Davies, o ble ddaeth "y miliynau o bunnoedd yn ychwanegol" ar werth fferm Gilestone.
Dywedodd mai gwerth y fferm ddwy flynedd cyn ei brynu, yn ôl cwmni McCartney, oedd £3.25m.
"Bydd nifer o bobl yn cwestiynu ai dyma'r meysydd y dylai Llywodraeth Cymru fod yn arllwys arian y trethdalwr iddynt."
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar amaeth, Mabon ap Gwynfor: "Mae'n ymddangos bod cynllun busnes yn cael ei greu yn ôl-weithredol i gyd-fynd â phrynu'r tir. Mae hyn yn gwbl groes i'r hyn y mae'n rhaid i eraill ei wneud wrth wneud cais am gymorth gan y llywodraeth.
"Ar ôl bod yn ymwneud â phrosiectau sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus yn y gorffennol, dwi'n gwybod yn iawn sut y mae angen i sefydliadau ddarparu cynllun y gellir ei brisio'n llawn ac y gellir ei gyfiawnhau cyn y bydd cyrff ariannu cyhoeddus yn ystyried y cais."
Dywedodd fod pwrpas y pryniant yn dal yn "aneglur" a bod angen "tryloywder llwyr".
Mae Fiona Stewart wedi cael cais am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Mai 2022
- Cyhoeddwyd19 Awst 2021