Tywydd poeth yn creu problemau ond rhai yn elwa

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Tân gwair yn lledaenu mewn cae ger Tyddewi. Fideo: Harrison Price

Mae'r tywydd poeth yn dal i achosi problemau ar hyd Cymru gyda thanau gwair a sychder dros rannau o'r wlad.

Mae rhannau dwyreiniol o Gymru'n wynebu rhybudd ambr am wres eithriadol o ddydd Iau tan nos Sul.

Er, mae tymhereddau uchel wedi eu cofnodi dros bob rhan o Gymru ddydd Sadwrn - gan gynnwys 33°C ym Mhorthmadog a 32°C yng Nghaerdydd a Llanbedr Pont Steffan.

Oherwydd y gwres, mae rhai gemau chwaraeon wedi cael eu canslo.

Ond mae rhai busnesau yn y gogledd yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi'r tywydd braf i ddenu cwsmeriaid wedi dwy flynedd anodd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gwasanaeth Tân ac Achub yn ceisio diffodd tân gwair mawr ger Tyddewi

Yn Nhyddewi, mae'r gwasanaeth Tân ac Achub yn ceisio diffodd tân gwair sy'n lledaenu ar hyd bum cae brynhawn Sadwrn.

Dywedodd y Gwasanaeth bod criwiau o Dyddewi, Hwlffordd, Abergwaun ac Aberdaugleddau wedi cael eu hanfon, a rhagor ar y ffordd.

Mae heol y A487 ger maes carafanau Hendre Eynon ynghau yn Nhyddewi oherwydd y tân a rhybudd gan yr heddlu i bobl osgoi'r ardal gan fod sawl ffordd arall wedi gorfod cau hefyd.

Yn Sir Fynwy, fe ddywedodd y Gwasanaeth Tân ac Achub iddyn nhw gael galwad brys toc cyn 05:00 fore Sadwrn o dân gwair ym mhentref Y Dyfawden.

Fe rybuddiodd Dŵr Cymru ddydd Gwener bod galw am ddŵr wedi codi 20% yn ystod y gwres a rhybuddiodd rheolwr gyfarwyddwr eu gwasanaethau y dylai pobl osgoi ei ddefnyddio heb fod angen.

Canslo gemau chwaraeon

Mae rhai gemau chwaraeon wedi eu canslo dros y penwythnos, gan gynnwys gêm gyfeillgar rhwng Clwb Rygbi Cymry Caerdydd a Bridgend Sports RFC oherwydd "tywydd twym a thir caled".

Dywedodd cadeirydd y clwb, Rhys ap William: "Nid yn unig y tymheredd sy'n mynd i fod yn broblem i'n chwaraewyr ni a chwaraewyr Bridgend Sports, ond y tir.

"Mae mor, mor galed mas 'na so o'n ni fel dau glwb yn tybio y bydde fe'n 'neud lot mwy o synnwyr i ohirio'r gêm, yn anffodus."

Ni fydd y gem rhwng Clwb Rygbi Llanilltud fawr a Bridgend Ravens yn mynd yn ei blaen oherwydd y gwers a phryder am "les chwaraewyr".

Mae cyngor i chwaraewyr proffesiynol i gael seibiant i hydradu yn ystod gemau ddydd Sadwrm.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Clwb Rygbi Cymry Caerdydd

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Clwb Rygbi Cymry Caerdydd

Ond i berchnogion busnes, mae'r tywydd braf yn golygu cyfnod prysur a chyfle i adfer wedi cyfnod anodd.

Dywedodd Anwen Haf, perchennog caffi Braf yn Ninas Dinlle, ei bod wedi cael "wythnos anhygoel".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Anwen yn falch bod y tywydd braf wedi denu cwsmeriaid lleol i'w chaffi yn Ninas Dinlle

"Mae'r tywydd di bod yn anhygoel ac yr wythnos orau 'dan ni wedi ei gael," dywedodd.

"Ma' 'di 'neud byd o wahaniaeth - oeddan ni rili angen o."

"'Dan ni 'di cael lot o fyny a lawr ers agor [y llynedd], lot o staff wedi bod efo covid, lot o ganslo, so dwi'n teimlo bod wythnos fel 'ma - mai'n haul ar ddiwedd y twnnel".

Ychwanegodd pa mor bwysig yw denu cwsmeriaid lleol, a'u bod wedi gweld mwy o bobl leol yn sgil y tywydd braf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eleri Davies yn teimlo'n "lwcus iawn" o gael byw yn lleol i Ddinas Dinlle yn y tywydd braf

Roedd Eleri Davies yn un o'r cwmseriaid lleol ddydd Sadwrn. Dywedodd ei bod yn "lwcus iawn" o gael byw ger Dinas Dinlle.

"Mae'r tywydd yn grêt, mae gynnon ni adnoaddau lleol a 'dan ni'n licio cefnogi busnesau lleol so dwi'n dod yma unwaith yr wythnos.

"Ma'n braf cael y cyfle i ddod allan, i gymdeithasu, i weld ffrindiau dwi heb weld ers talwm. 'Dan ni'n lwcus i fyw yma yng ngogledd Cymru."

Wrth i bobl fwynhau'r gwres, mae cyngor i yfed dŵr, aros yn y cysgod a chyfyngu ar ymarfer corff.

Stormydd i ddod

Mae'r rhybudd melyn am law trwm a mellt wedi ei ehangu i ddydd Llun a dydd Mawrth erbyn hyn.

Dywedodd Swyddfa'r Met y gallai achosi llifogydd, gwyntoedd cryfion a pheth oedi i wasanaethau tren a bws.

Mae'r rhybudd yn dod i rym am 10:00 fore Llun.

Pynciau cysylltiedig