CBAC: 'Bydd canlyniadau Safon Uwch yn deg eleni'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Mae Heti a Tomos o Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yn credu fod eu blwyddyn ysgol nhw dan anfantais

Roedd arholiadau Safon Uwch yng Nghymru yn deg eleni, yn ôl y prif fwrdd arholi, wrth i filoedd o ddisgyblion baratoi i dderbyn eu canlyniadau'r wythnos hon.

Dywedodd prif weithredwr CBAC Ian Morgan ei fod yn "hollol hyderus" y bydd myfyrwyr yn cael yr hyn maen nhw'n ei haeddu.

Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi ddydd Iau ar ôl yr arholiadau haf allanol cyntaf am dair blynedd.

Cafodd arholiadau eu canslo yn 2020 a 2021 oherwydd Covid, gyda'r graddau yn cael eu dyfarnu gan athrawon.

Mae Cymwysterau Cymru'n dweud eu bod yn disgwyl i'r canlyniadau fod yn is na 2021, ond yn uwch na'r arholiadau diwethaf a gafodd eu cynnal yn 2019.

Be' allwn ni ei ddisgwyl?

Fe arweiniodd graddau gan athrawon at raddau uwch, felly'r nod gyda'r drefn eleni yw pontio canlyniadau 2021 gyda'r hyn ddigwyddodd dair blynedd yn ôl.

Yn 2021 roedd bron i hanner y graddau yn A neu A* - 48.3% o'i gymharu â 27% yn 2019.

Mae Mr Morgan wedi cydnabod bod rhai dysgwyr wedi cael eu "herio'n fwy" eleni, ond yn credu mai arholiadau yw'r drefn fwyaf teg.

Dywedodd: "O ran tegwch y canlyniadau rwy'n hollol hyderus bod dysgwyr yn cael y cyfle gorau trwy wneud arholiadau i sicrhau eu bod yn gallu dangos beth maen nhw'n gwybod a'r hyn maen nhw'n ddeall, yr hyn maen nhw'n gallu gwneud, ac y bydd y graddau yn adlewyrchu hynny yn y canlyniadau."

Ian Morgan
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ian Morgan yn "hollol hyderus" y bydd myfyrwyr yn cael yr hyn maen nhw'n haeddu

Mae undebau addysg wedi tynnu sylw at yr heriau fu'n wynebu staff a myfyrwyr yn ystod y cyfnod arholiadau oherwydd achosion o Covid-19.

Cafodd pryderon hefyd eu codi gan athrawon, rhieni a disgyblion am rai papurau arholi.

Yr honiad oedd bod yna gwestiynau wedi'u gosod nad oedd o fewn y cynnwys arholiadau, ond mae CBAC yn gwadu bod yna unrhyw gwestiynau tu hwnt i'r disgwyl.

Mae Cymwysterau Cymru wedi dweud mewn erthygl, dolen allanol "oni bai am gwpl o bumps, sy'n anffodus yn anochel mewn system mor gymhleth ag arholiadau cyhoeddus, mae pethau wedi mynd yn gymharol dda".

Mae CBAC yn "hyderus a chyfforddus" gyda'r cymwysterau, yn ôl Mr Morgan.

"Yn amlwg mewn rhai meysydd mae rhai am fod yn gysyniadau anodd ac yn bynciau anodd," meddai.

"Er mwyn sicrhau eich bod yn gallu cael ffiniau graddau dosranedig a chanlyniadau o gymhwyster mae angen cwestiynau heriol yno."

'Nes i stryglo lot'

Mae Heti a Tomos, 18, yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin.

Heti a Tomos, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i Heti a Tomos sefyll arholiadau ers blwyddyn 10

Yn ôl Tomos, mae eu blwyddyn nhw wedi bod o dan ychydig o "anfantais" oherwydd yr amgylchiadau.

"Sai'n credu bod neb yn gwybod beth i ddisgwyl achos ein bod ni wedi cael profiad mor wahanol," meddai.

"S'dim y profiad gyda ni o eistedd lawr am ddwy awr a sgwennu."

Dywedodd Heti bod sefyll arholiadau heb brofiad o wneud hynny ers rhai blynyddoedd yn "annheg".

"Nes i stryglo lot," meddai. "Ond oedd rhaid fi jyst pwsho trwodd a neud e."

Ychwanegodd: "Fi'n credu y bydd y marciau yn lot is na fel arfer."

Nia Goode, Llywydd UCAC
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw Nia Goode yn credu fod disgyblion Cymru wedi cael tegwch oherwydd effeithiau Covid

Yn ôl Nia Goode, llywydd undeb dysgu UCAC, dydi disgyblion ar draws Cymru heb gael tegwch oherwydd effeithiau gwahanol Covid ar ysgolion.

"Mae'r disgyblion yma wedi mynd drwy lawer a dyma'r tro cyntaf iddyn nhw brofi arholiad a gallu profi i allu ymdopi mewn sefyllfa arholiad," meddai.

Ychwanegodd "Mae hwn am effeithio ar eu dyfodol nhw. Maen nhw am fod yn genhedlaeth Covid.

"O ran tegwch iddyn nhw a'u dyfodol a'u gyrfaoedd nhw dwi'n gobeithio y bydden nhw yn teimlo bod nhw ddim wedi cael cam."

Gareth Evans, cyfarwyddwr polisi addysg ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Gareth Evans fod graddoli yn "fwy hael" eleni

Yn ôl academydd blaenllaw, cafodd "nifer o gonsesiynau" eu gwneud eleni i sicrhau bod disgyblion ddim dan anfantais.

"Mae'r cynnwys wedi cael ei leihau yn sylweddol mewn rhai pynciau ac mae disgyblion wedi cael eu hysbysu o flaen llaw beth oedd mewn rhai arholiadau," meddai Gareth Evans, cyfarwyddwr polisi addysg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

"Yn ogystal, bydd y graddoli yn llawer mwy hael eleni o'i gymharu â blynyddoedd eraill i gymryd i ystyriaeth bod Covid unwaith eto wedi codi ei ben o bryd i'w gilydd a bod hynny wedi amharu ar y disgyblion."