Statws dinas i Wrecsam yn sbarduno prisiau tai uwch?

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Wrecsam yn un o wyth tref i gael statws dinesig fel rhan o ddathliadau Jiwbilî Platinwm y Frenhines

Fe allai prisiau tai yn Wrecsam gynyddu hyd at £20,000 wedi i'r ardal ennill statws dinas.

Dyna honiad y wefan dai Boomin, sy'n honni bod ardaloedd sydd wedi ennill statws dinas ers 2000 wedi gweld cynnydd o 12% ar gyfartaledd.

Fis Mai fe lwyddodd Wrecsam i sicrhau statws dinas, a fydd yn hwb anferthol i'r economi lleol, yn ôl y cyngor.

Ond mae eraill yn poeni y bydd yn achosi argyfwng dai tebyg i'r un sydd eisoes yn effeithio ardaloedd eraill o'r DU.

'Ddim yn deg'

Dywedodd un o drigolion Wrecsam wrth Newyddion S4C: "Fydd 'na lot o bobl yn yr ardal ella sydd yn methu prynu tŷ, ac ella yn gorfod symud.

"Mae hwn eisoes yn broblem mewn llefydd eraill yng Nghymru, ond 'dan ni ddim isho fo fod yn broblem yma yn Wrecsam hefyd."

Cafodd y teimladau yma eu hadleisio ar y stryd fawr yn Wrecsam hefyd.

"'Di o'm yn deg. Mae pobl 'di cael eu magu yma, mae pobl eisiau aros yma, a does 'na'm gobaith iddyn nhw gael morgais na dim byd," meddai un wrth Newyddion S4C.

Disgrifiad o’r llun,

Owain Llywelyn, sy'n llefarydd ar ran Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig Cymru

Yn ôl Owain Llywelyn, sy'n llefarydd ar ran Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig Cymru, mae'n "anorfod" y bydd prisiau tai yn codi.

"Bydd prisiau tai yn codi yn Wrecsam o leia' ryw 5-6% yn fwy na'r cyfartaledd ar draws Cymru," meddai.

"A dwi'n bod yn geidwadol yn dweud hynny."

Mae'r adroddiad ar wefan Boomin yn amlinellu'r cysylltiad rhwng statws tai a'r cynnydd mewn prisiau tai yn glir.

Ar ôl dadansoddiad o ddata prisiau tai mewn trefi ledled Prydain sydd wedi ennill statws dinas ers troad y ganrif, eu canfyddiadau oedd:

  • Ar gyfartaledd cododd prisiau tai 12% o fewn y flwyddyn gyntaf ar ôl cael y statws;

  • Casnewydd brofodd y cynnydd mwyaf o fewn 12 mis o gael statws dinas yn 2002, gyda phrisiau tai yn cynyddu 29% ar draws y ddinas;

  • Preston a Brighton ddaeth nesaf gyda chynnydd o 26% ac 19%;

  • Os ydy'r farchnad dai yn Wrecsam yn dilyn yr un patrwm, fe allai prisiau gynyddu yno o dros £20,000 o fewn y flwyddyn nesaf.

Pynciau cysylltiedig