Oriel: Gŵyl y Dyn Gwyrdd dros y blynyddoedd
- Cyhoeddwyd

Y Dyn Gwyrdd
Wedi ei nythu mewn dyffryn gwyrdd ym mryniau'r Bannau Brycheiniog mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nghrughywel yn dychwelyd am yr ugeinfed tro y penwythnos yma.
Ar ei phen-blwydd yn ugain mae'r ŵyl sy'n dod â 25,000 o bobl ynghyd bob blwyddyn yn denu rhai o enwau mwyaf y byd cerddoriaeth gyda'r lein-yp yn cynnwys Kraftwerk, Michael Kiwanuka, Bicep a Beach House eleni.
Fe ddechreuodd Y Dyn Gwyrdd fel gŵyl un dydd i 300 o bobl yn wreiddiol ac mae hi wedi esblygu yn aruthrol ers hynny gan ei bod bellach yn un o wyliau annibynnol mwyaf Prydain.
Dyma gipolwg ar y blynyddoedd a fu.

Dyddiau cynnar y Mountain Stage, 2007

Euros Childs, 2007

9 Bach, 2007

Gruff Rhys, 2007

Dawnsio tan yr oriau mân

Y Dyn Gwyrdd yn ei gadair, 2010

Meilyr Jones o'r grŵp Racehorses, 2010

James Blake yn ei ddyddiau cynnar, 2011

Yfed, bwtya, darllen ac ymlacio... mae rhywbeth i bawb yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd

The Horrors, 2013

Y Dyn Gwyrdd â cholur am ei wyneb, 2014

Gormod o sŵn neu ddim digon o sŵn tybed?

Yr arwr o Garnant, John Cale

Traddodiad blynyddol yr ŵyl o roi'r Dyn Gwyrdd ar dân ar y nos Sul olaf, 2014

Richard Dawson, 2015

Mae digon o goed i bawb ymlacio

Aldous Harding, 2017

PJ Harvey, 2018

Swigod

Michael Kiwanuka, sy'n cloi'r ŵyl eleni, nôl yn 2017

Sgwrsio ger yr afon

Y Dyn Gwyrdd, 2018

Django Django, 2021

Y dorf yn mwynhau, 2021

Y dorf llawn cynnwrf wrth wylio Shame ar lwyfan Farout, 2021

Pobl neu anifeiliaid?!

Caribou, 2021

Llosgi'r Dyn Gwyrdd ar noson olaf yr ŵyl
Hefyd o ddiddordeb: