Virginia Crosbie: 'Colled wedi fy ngwneud yn gryf'
- Cyhoeddwyd
"Mae pobl bob amser yn dweud wrtha i fod yn rhaid i mi fod yn wydn iawn a dydw i ddim. Rwy'n gryf."
Mae Virginia Crosbie, AS Ceidwadol Ynys Môn ers 2019, wedi delio gyda lot yn ei bywyd.
Wrth siarad â phodlediad BBC Walescast, dywedodd ei bod yn "hapus iawn i siarad" am ei phrofiadau personol.
"Oherwydd fy mod i eisiau i bobl feddwl, 'wyddoch chi beth, os all Virginia ddod yn Aelod Seneddol, yna gall unrhyw un'," meddai.
Damwain car a cholli babi
Yn 18 mlwydd oed, roedd hi "bron â marw" mewn "damwain car ofnadwy" yn Nhwrci.
Fe wnaeth hynny olygu bod angen "llawer o lawdriniaeth" ar ei hwyneb, gyda'r un ddiwethaf "tua thair blynedd yn ôl".
"Roedd yn anodd iawn dechrau yn y brifysgol, gorfod cael cymaint o lawdriniaeth," meddai Ms Crosbie.
"Roedd hanner fy mhen yn foel, ac rydych chi'n ceisio gwneud argraff ar bobl, rydych chi'n ceisio gwneud ffrindiau newydd."
Flynyddoedd lawer yn ddiweddarach, yn gweithio i HSBC, byddai'n teithio ar draws y byd, "weithiau i Awstralia am 12 awr".
Ond roedd hi'n feichiog ar y pryd gyda'i hail blentyn, ac roedd y "meddygon yn bryderus iawn am guriad calon" y babi.
"Felly, cerddais mewn i'r gwaith ac fe wnes i ymddiswyddo achos roedd e mor bwysig i mi fy mod i'n cadw'r babi hwnnw," meddai.
"Ac yna, yn anffodus, ychydig ddyddiau'n ddiweddarach collais y babi, felly roedd yn gyfnod anodd iawn i ni."
Uchelgais fel cyflwynydd
Mae profiad personol hefyd wedi arwain Ms Crosbie i ymgyrchu ar faterion iechyd meddwl - rhywbeth a ddywedodd sy'n "agos iawn at fy nghalon".
Yn 2018 bu farw ei brawd, Simon, drwy hunanladdiad, yn 52 oed.
Dywedodd Ms Crosbie: "Roedden ni'n agos iawn, iawn at ein gilydd.
"Fe soniais amdano yn fy araith gyntaf [yn Nhŷ'r Cyffredin] a dywedais nad oedd un o'r bobl y byddwn i'n dymuno yn gwrando ar fy araith yno."
Nid oedd cynllun hir dymor ganddi i ddod yn Aelod Seneddol, meddai.
"Wnaethon ni ddim siarad am wleidyddiaeth gartref," eglurodd. "Felly roedd yn syndod mawr i fy ffrindiau a fy nheulu fy mod i wedi sefyll."
Yn ei harddegau, y cynllun gwreiddiol oedd dod yn gyflwynydd teledu.
Ysgrifennodd at sawl rhaglen deledu, gan gynnwys y gyfres blant hirsefydlog ar y BBC, Animal Magic, gan obeithio am gyfle.
Fe ddywedon nhw ei bod hi'n "llawer rhy ifanc" ond fe allen nhw wneud gyda rhywfaint o help gyda'r dolffiniaid, y morloi, a'r morlewod.
"Maen nhw'n dweud i beidio gweithio gydag anifeiliaid a phlant, ond fe wnes i oroesi, a dwi'n meddwl ei fod wedi rhoi sylfaen dda iawn i mi o ran sut i ddelio â Thŷ'r Cyffredin," meddai'n gellweirus.
Chwalu 'Wal Goch' Llafur
Ond prin iawn oedd y paratoi ar gyfer sefyll ar Ynys Môn yn 2019, ar ôl iddi gael ei dewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr ar y funud olaf.
Virginia Crosbie oedd cadeirydd Ceidwadwyr Kensington, Chelsea a Fulham ar y pryd, ac mae'n cofio derbyn yr alwad yn gofyn iddi sefyll ar yr ynys.
"A wyddoch chi beth? Dim ond am eiliad fach nes i feddwl," meddai.
"Mae fy nhaid yn dod o Gymru, aeth fy nhad i'r ysgol yn Nhrefynwy, ac roedd yn bwysig iawn i mi gynrychioli Cymru… ac roeddwn i'n credu ei fod yn bosib ennill y sedd."
Roedd Ynys Môn yn un o chwe sedd Gymreig a gipiodd y Torïaid oddi ar Lafur yn yr etholiad hwnnw, wrth i'r blaid gofnodi ei chanlyniad gorau yng Nghymru ers 1983.
Ond lai na thair blynedd ar ôl ennill mwyafrif o 80 sedd i'r Ceidwadwyr, mae Boris Johnson yn paratoi i adael Downing Street.
Virginia Crosbie oedd yr AS Ceidwadol Cymreig cyntaf i alw arno'n gyhoeddus i ymddiswyddo.
"Roedd yn siomi pob un ohonom ni, a rhai ohonom mewn seddi heriol iawn, iawn," esboniodd.
Yn y frwydr i ddod yn arweinydd nesaf y Ceidwadwyr ac yn brif weinidog, mae Ms Crosbie wedi penderfynu cefnogi'r Ysgrifennydd Tramor Liz Truss yn hytrach na'r cyn-Ganghellor Rishi Sunak.
"Dwi'n meddwl mai'r hyn rydyn ni'n mynd i'w weld gyda phwy bynnag yw ein prif weinidog newydd ym mis Medi yw'r angen i ganolbwyntio ar ddod â'r blaid at ei gilydd," meddai.
Niwed Brexit i Gaergybi?
Wedi ymgartrefu gyda'i gŵr a'i thri phlentyn ym Môn, mae Virginia Crosbie yn ceisio dysgu Cymraeg - "rhaid cyfaddef, mae'n her go iawn" - ac yn gwbl ymroddedig i amddiffyn y sedd yn yr etholiad nesaf.
Mae'n amlwg o'n sgwrs sut mae hi'n bwriadu cadw Ynys Môn yn las - ffocws ar ddod â swyddi i'r ynys.
Gyda hynny mewn golwg, gorsaf ynni niwclear newydd sydd ar frig ei rhestr o ddymuniadau.
Oes ganddi ymrwymiad pendant y bydd y prif weinidog nesaf yn sicrhau safle newydd ar Wylfa?
"Does gen i ddim pêl grisial ond rydw i'n gwneud popeth o fewn fy ngallu i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cael Wylfa wedi'i wireddu," meddai.
Dechrau'r flwyddyn dywedodd Stena Line, sy'n gweithredu porthladd Caergybi, eu bod wedi gweld cwymp o 30% mewn traffig o ganlyniad i'r cytundeb Brexit newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Ydy hi'n credu bod y cytundeb yn niweidio'r porthladd?
"Rwy'n meddwl mai'r realiti yw, pleidleisiodd y DU gyfan i adael a chredaf fod angen i ni weithio gyda'n gilydd," meddai Virginia Crosbie.
Ar ôl cael ei phwyso am ateb, mae'n ychwanegu: "Rwy'n meddwl fy mod i'r fath o berson sy'n edrych i'r dyfodol, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i ni wneud iddo weithio."
Efallai mai cwestiwn anoddach fyth yw iddi enwi ei hoff le ar yr ynys.
"Mae hwnna'n gwestiwn mor annheg! Dwi'n mynd i ypsetio cymaint o bobl!"
Yn y diwedd, mae hi'n dewis tafarn leol ger cartref y teulu - ac ar ôl sgwrs awr o hyd ar ddiwrnod chwyslyd o boeth, mae'n swnio cystal ag unrhyw le.
Os ydych yn dioddef gofid neu anobaith, mae manylion cymorth a chefnogaeth ar gael ar dudalen BBC Action Line.
Gallwch wylio'r cyfweliad ar Walescast ar BBC One Wales am 22:40 ddydd Mercher 17 Awst, neu wrando arno ar BBC Sounds.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd30 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2022