Y deifiwr o Ben Llŷn sy'n chwilio am siarcod Cymru

  • Cyhoeddwyd
Jake DaviesFfynhonnell y llun, JD Davies
Disgrifiad o’r llun,

Jake Davies

"Os wyt ti'n cael moment efo siarc yng Nghymru. Mwynhewch o, mae o'n anhygoel. Does dim byd i boeni amdano."

Dyna neges Jake Davies, deifiwr sgwba a chydlynydd prosiect SIARC sy'n hel data am y siarcod sydd i'w canfod ym moroedd Cymru.

Mae arfordir Cymru yn hafan i dros 35 math o siarcod gan gynnwys rhai prinnaf y byd.

Jake fu'n addysgu Cymru Fyw am deulu o bysgod sy'n hŷn na choed a deinosoriaid a sy'n nofio yn nyfroedd Cymru ers miliynau o flynyddoedd.

Y Maelgi

Un o'r siarcod prinnaf a geir yn nyfroedd Cymru a sydd mewn Perygl Difrifol yw'r Maelgi. Cymru yw un o'r unig fannau yng ngogledd-orllewin Ewrop lle mae'r maelgi wedi'i weld yn rheolaidd dros y degawd diwethaf.

Maent i'w gweld yn aml o amgylch yr Ynysoedd Dedwydd oddi ar arfordir gogledd-orllewin Affrica, a thrwy gysylltiad gyda phrosiect diogelu maelgwn yn yr Ynysoedd Dedwydd, y daeth Jake i ymddiddori yn y maelgi yng Nghymru.

Ffynhonnell y llun, JD Scuba
Disgrifiad o’r llun,

Maelgi / Squatina squatina ym Mae Tremadog (tynnwyd ym Medi 2021)

Eglura: "Ro'n i ar leoliad gwaith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl graddio mewn Bioleg Morol, a wnes i ddechrau gwneud ymchwil ar y maelgi. Trwy hynny wnes i ddod ar draws Joanna Barker, wnaeth ddehrau'r prosiect i ddiogelu maelgwn yn y Canary Islands.

Disgrifiad o’r llun,

Arfordir Tenerife, un o'r Ynysoedd Dedwydd. Cynllun gwarchod maelgwn yr Ynysoedd Dedwydd wnaeth ysbrydoli Maelgi Cymru

"Mae'r Canary Islands yn lle hollol unigryw gan fod yna faelgwn ymhob man yna. Wedyn yn 2018 mi gafon ni arian gan Lywodraeth Cymru a'r Loteri i gychwyn prosiect Maelgi Cymru.

Bwriad Maelgi Cymru ydi diogelu maelgwn Cymru drwy hel data, addysgu pysgotwyr a chymunedau arfordirol Cymru am un o siarcod prinnaf y byd. Yn dilyn llwyddiant y cynllun, sefydlwyd prosiect SIARC Cymru nôl yn Chwefror 2022 er mwyn hel data am fathau eraill o siarcod oddi ar arfordir Cymru.

Ffynhonnell y llun, Dai Jones (chwith) a Charlie Bartlett (dde)
Disgrifiad o’r llun,

Maelgwn wedi eu dal oddi ar arfordir Cymru yn y 60au a'r 70au, gan gynnwys un oddi ar draeth Abersoch, Gwynedd. Mae'n anghyfreithlon i bysgota neu dargedu'r Maelgi yn fwriadol erbyn hyn ac mae cosbau llym

Eglura Jake: "'Dan i rŵan yn edrych ar y maelgi a thri math arall o siarcod gan gynnwys Ci pigog (spurdog), Morgath ddu (stingray) a Ci glas (tope).

"Mae rhain i gyd yn siarcod syn byw wrth ymyl y gwaelod neu ar wely'r môr, a 'dan ni wedi dewis hel data am rhain oherwydd dydan ni ddim yn gwybod lot amdanyn nhw.

Ffynhonnell y llun, JD Scuba
Disgrifiad o’r llun,

Maelgi yn cuddio yn y tywod ym Mae Tremadog (tynnwyd ym Medi 2021)

"Yn enwedig Maelgwn a'r Morgath ddu - mae maelgwn yn un o'r siarcod fwyaf prin yn y byd a 'dan ni'n ffodus i'w cael nhw yn fan'ma yng Nghymru.

"A mae'r Morgath Ddu ar restr coch yr IUCN ac ar lefel Data Deficient ym fan'ma sy'n golygu nad oes yna ddigon o ddata ar gael i benderfynu os ydyn nhw mewn peryg, be ydy eu poblogaeth ac yn y blaen.

"Trwy gasglu data 'dan i'n gwybod mwy amdanyn nhw yn ein moroedd."

Gwneud bywoliaeth o'r môr yn y gwaed

Wedi ei fagu ym Mynytho a Nefyn ym Mhen Llŷn a'i dad yn bysgotwr, mae heli'r môr yn ei waed ac mae Jake yn ymfalchio mai bro ei febyd, Pen Llŷn a'r Sarnau yw'r ardal mae'n gyfrifol amdani.

Eglura: "O ddydd i ddydd, dwi'n gweithio'n agos iawn efo pysgotwyr, rhai ar gychod masnachol, pleser a siarter yn gadael iddyn nhw wybod be i 'neud os ydyn nhw'n dal un o'r siarcod - er enghraifft os wyt ti'n dal maelgi mae gynnon ni ganllaw ar sut i'w roi nôl mewn a be' i wneud wedyn.

"Rhan arall o'r gwaith ydy cael camerâu a'u rhoi nhw yn y dŵr am awr efo abwyd ynddo fo wedyn 'dan ni'n gweld pa siarcod a pha bysgod sy'n dod at hwnna.

Ffynhonnell y llun, JD Davies
Disgrifiad o’r llun,

Jake Davies

"Dwi'n 'neud hwnna yn Bae Ceredigion, Pen Llŷn a'r Sarnau mewn Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae'n gyffrous i neud hynna dafliad carreg o lle dwi'n byw.

"I neud hynna'n fwy cyffrous 'dan i'n defnyddio'r footage yna ai roi o ar blatfform arlein o'r enw Instant Wild sy'n cael ei redeg gan Zoological Society of London. Gall pobl wedyn fewngofnodi a gweld pa bysgod, siarcod, a rhywogaethau eraill sydd yna. Mae o'n ffordd dda o gysylltu pobl efo bywyd môr.

Tynnu'r llun cyntaf erioed o Faelgi oddi ar arfordir Cymru

Gychwyn Medi 2021, cafodd Jake brofiad gwefreiddiol tra'n deifio sgwba ym Mae Tremadog. Tra ar "ddeif arferol" llwyddodd i weld a thynnu llun o faelgi. Dyma'r llun cyntaf erioed o faelgi oddi ar arfordir Cymru a gweddill Prydain.

Ffynhonnell y llun, JD Scuba
Disgrifiad o’r llun,

Maelgi Bae Tremadog - tynnwyd ym mis Medi 2021

Meddai: "O'n i'n ffodus o fod ar ddeif normal a jest gweld un, reit lawr y lôn o lle dwi'n byw a lle wnes i dyfu fyny. Roedd o braidd yn epic ac yn brofiad eitha' mental!

"Dydyn nhw ddim yn beryglus o gwbl. Wnaeth y Maelgi ddim symud o gwbl wrth fy ngweld i - nes i nofio drosto cyn sylwi ar y siâp a ffeindio Maelgi."

Ambell ffaith am y Maelgi gan Jake:

  • Mae'r Maelgi'n unigryw am eu bod nhw'n fflat, ac yn eistedd ar y gwaelod feln'ma.

  • Maen nhw'n defnyddio eu hesgyll sy'n eithaf mawr i gymharu a'u cyrff i dyllu i mewn i dywod cyn taflu'r tywod drostyn nhw er mwyn cuddio. Byddan nhw'n cuddio nes i rywbeth ddod dros eu pennau fel gobïod, crancod neu sgwid. Er mwyn dal y bwyd mae eu gennau yn dod allan ychydig bach cyn tynnu'r bwyd i mewn i'w cyrff yn sydyn.

  • Gall unrhyw un weld rhain os yn lwcus! Maen nhw'n gallu bod mewn rhwng metr o ddŵr i 100m. Dros yr haf maen nhw'n dod i mewn i ddŵr basach a chynhesach i ollwng rhai bach neu i fridio.

Ffynhonnell y llun, JD Davies
Disgrifiad o’r llun,

Ci glas / Galeorhinus galeus oddi ar arfordir Pwllheli yn Awst 2019

Mae Jake hefyd wedi llwyddo i dynnu llun o'r Ci glas oddi ar arfordir Pwllheli drwy osod camerâu BRUV sy'n system i dynnu lluniau anghysbell tanddŵr.

  • Mae'r Ci glas yn edrych fel siarc o gymharu â'r siarcod eraill mae prosiect SIARC yn hel data amdanyn nhw.

  • Mae'r Ci glas yn siarc mae pysgotwyr yn ei ddal yn aml a mae biolegwyr morol yn ddibynnol ar bysgotwyr i wybod rhagor am eu bioleg nhw.

  • Mae'r Ci glas yn tueddu i symud o gwmpas mewn heigiau y gellir eu rhannu yn ôl maint a rhyw.

Rhagor o siarcod oddi ar arfordir Cymru

Her nesaf Jake yw casglu rhagor o ddata am y Ci pigog, y Morgath ddu a unrhyw siarcod eraill drwy osod ei gamerâu BRUV tanddŵr neu drwy ddeifio.

Ffynhonnell y llun, Mike Sealey (ar wefan prosiectsiarc.com)
Disgrifiad o’r llun,

Morgath Ddu / Dasyatis pastinaca

  • Yn hanesyddol, credai pobl yng Nghymru fod gan afu'r forgath ddu fuddion meddyginiaethol o'i ferwi!

  • Yn tyfu hyd at 140 cm; yn geni rhwng 4 - 9 o rai bach.

Ffynhonnell y llun, OSPAR OAP
Disgrifiad o’r llun,

Ci pigog / Squalus acanthias

  • Mae gan y Ci pigog bigyn bach gwenwynig ar waelod ei asgell ddorsal er mwyn amddiffyn ei hun.

  • Yn hanesyddol mae'r Ci pigog yn rywogaeth pwysig yng Nghymru. Roedd o'n cael ei bysgota ar raddfa eitha mawr yn yr 1970au mewn llefydd fel Caergybi.

Siarcod Cymru a Newid Hinsawdd

Yn ôl Jake, nid oes digon o ddata eto i wybod os ydy newid hinsawdd yn effeithio ar y nifer o rywogaethau o siarcod sy'n nyfnderoedd arfordirol Cymru.

Ond yr hyn mae'n sicr ohono yw: "Mae siarcod yn y môr i gadw balans. Ti'n gweld mewn llefydd eraill yn y byd, os ti'n tynnu siarcod allan, ti'n cael effaith ar yr ecostystem yna a ti'n cael llai o fioamrywiaeth. Unwaith ti'n cymryd rwbath allan mae o'n effeithio rwbath arall i lawr y gadwyn.

"Be 'dan ni'n ffodus ohono ydy rydan ni dal efo'r rhywogaethau yma oddi ar arfordir Cymru ac mae angen casglu gymaint o wybodaeth â phosib er mwyn ein helpu ni i ddeall os ydi pethau yn newid neu beidio.

"Be sy'n braf ydy bod mwy o opportunistic sightings oherwydd technoleg a chamerâu da. Bythefnos yn ôl roedd na fidio o Siarc Dyrnu (thresher) oddi ar Abergwaun. Mae pethau fel hyn i gyd yn ddata newydd."

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig