3 Llun: Lluniau pwysicaf bywyd Heledd Roberts

  • Cyhoeddwyd
Heledd RobertsFfynhonnell y llun, Heledd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Heledd Roberts

Mae Heledd Roberts yn actores o Sir Gâr yn wreiddiol. Mae hi erbyn hyn yn un o wynebau cyson ar Rownd A Rownd ac yn chwarae rhan Anest Owen, sy'n rhedeg Yr Iard Gychod yn y sioe sebon.

Dyma ei dewis hi o'i hoff luniau.

Gwirfoddoli yn Nepal

Roedd hwn yn gyfnod heriol i mi'n bersonol ond yn brofiad sydd wedi gadael ei ôl mewn ffordd dda. Roedd cymaint o dlodi yno ond roedd y bobl mor ddiolchgar a lyfli. Ro'n i'n treulio tipyn o amser gyda'r dair yn y llun. Dwi mor falch es i yno i wirfoddoli oherwydd gwnaeth y profiad newid fy mywyd er gwell. Fy ddysgodd y dair yma i mi wir ystyr cariad, dewrder a diolchgarwch.

Ffynhonnell y llun, Heledd Roberts

Podcast Hans a Hels

Dwi'n caru'r llun yma ohona i a'n ffrind gore, Hanna. Ni wedi cael cymaint o brofiadau gyda'n gilydd fel ffrindiau a thrwy berfformio. Yn ystod y cyfnod clo ddechreuon ni bodlediad, Hans a Hels, ble roedd pobl yn gallu siarad am unrhyw beth. Dwi mor ddiolchgar o mhartner in crime!

Disgrifiad o’r llun,

Dwy ffrind; Hanna a Heledd

Dinefwr gyda Mam a Mam-gu

Dyma ble dwi'n mynd pan dwi angen amser i feddwl. Mae e'n lun pwysig i mi yn enwedig gan fod mam a Mam-gu ynddi. Ro'n i'n cwmpo mas eitha' tipyn gyda mam pan o'n i yn fy arddegau ond dwi mor ddiolchgar o'n perthynas erbyn hyn. Mae Mam-gu wedi gorfod wynebu a brwydro'n erbyn cancr yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. Sa i erioed wedi cwrdd â rhywun mor gryf!

Ffynhonnell y llun, Heledd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Mam-gu a Mam ym Mharc Dinefwr

Pynciau cysylltiedig