3 Llun: Lluniau pwysicaf bywyd Alun Elidyr
- Cyhoeddwyd

Alun Elidyr
Os fyddai rhaid i chi ddewis 3 llun sydd yn cynrychioli eich bywyd chi, pa luniau fydden nhw?
Yr actor, cyflwynydd a'r amaethwr Alun Elidyr sydd yn rhannu ei hoff dri llun.

Llun o Alun fel Hamlet
Ym 1988, yn Steddfod Casnewydd, ond ar lwyfan y Chapter yng Nghaerdydd, mi ges i'r fraint o berfformio Hamlet gyda chwmni Theatrig. Roedd yn oes aur theatr yng Nghymru, ond pan edrychaf yn ôl mae'n teimlo fel bywyd rhywun arall, er i mi gael gyrfa brysur, amrywiol a llwyddiannus fel actor.

Alun gyda'i gyd gneifwyr
Mae diwrnod cneifio'r defaid mynydd yn uchafbwynt o ran cywaith ymysg y gymdogaeth, ac yn y llun o achlysur 2020, darlunnir yr holl elfennau ar gyfer diwrnod llwyddiannus.
Mike Caellwyd symudodd o Fanceinion a dysgodd Gymraeg i'n parchu, Kevin Dolfeili a'i gŵn gwych i hel, Gwion y boi tawel yn y gorlan, Emlyn a'i fab Daf, a Huw Ynyr a'i dad, Huw Al yn gneifiwr o fri, Elan fy merch yn y gwlân a fi efo Gwen yr ast ffyddlon a Catrin tu ôl y lens. Cymuned wledig ar ei orau ar ddiwrnod braf eithriadol ganol Gorffennaf.

Lluniau o Alun a'i dad
Dwi'n genfigennus o blant ffarm sy'n cael y cyfle i gydweithio adre ar y ffarm gyda'u tadau, gan i mi golli dad pan oedd e'n 67 ifanc.
Yng nghornel fy waled dwi wastad yn cario llun ohono, ynghyd a chasgliad o luniau passport ohonof innau'n iau. Mae hanes bywyd a natur fy nhad yn eglur i'w ddarllen ar ei wyneb a minnau mor blaen o'i gymharu!
Mae 'ngwyneb innau'n cario creithiau bywyd erbyn heddiw, ond llun at rywbryd eto ydi hwnnw!