Ryan Giggs: Darllen 'llythyr ffarwel' cyn-gariad i'r llys
- Cyhoeddwyd
Ysgrifennodd Kate Greville lythyr "hwyl fawr olaf" at Ryan Giggs dridiau cyn yr honnir iddo ymosod arni, mae rheithgor wedi clywed.
Mae'r llythyr yn manylu ar ei anffyddlondeb honedig gydag o leiaf wyth o ferched.
Darllenodd yr amddiffyniad y llythyr, a ddechreuodd: "Rwy'n gwybod fwy neu lai popeth wyt ti wedi bod yn ei wneud gyda merched eraill y tu ôl fy nghefn ers y diwrnod wnes i dy gyfarfod."
Mae cyn-seren Cymru a Manchester United yn gwadu rheoli Kate Greville drwy orfodaeth ac ymosod arni.
Mae Mr Giggs, 48, hefyd yn gwadu ymosod ar chwaer iau Ms Greville, Emma, 26, yn ei gartref yn Worsley, Manceinion, ar 1 Tachwedd 2020.
'Celwyddgi a thwyllwr cyfresol'
Yn y llythyr disgrifiodd Ms Greville cyn-reolwr Cymru, fel "celwyddgi a thwyllwr cyfresol", gan ddweud wrtho: "Roeddwn i wastad yn gwybod na ddylen i fod wedi ymddiried ynot ti."
Ychwanegodd: "Rwy'n gwybod nawr dy fod di'n dweud yr un pethau wrth lawer o ferched. Dydw i ddim byd arbennig, dim ond fi oedd yr un na wnest ti ei gadael i gael bywyd hapus."
Roedd y llythyr yn honni bod gan y "merched eraill" "wŷr a phlant".
Aeth ymlaen i ddweud: "Rwy'n gwybod fod ti a Helen wedi cael perthynas lawn tra dy fod yn cysgu gyda mi.
"Fe ddwedaist ti wrthi dy fod yn ei charu ac eisiau cael teulu."
Dywedodd y llythyr a ddarllenwyd i'r llys fod "Helen" wedi "cyfarfod â'r plant" a'i bod hi a Mr Giggs "mewn cysylltiad cyson, hyd yn oed nawr".
Aeth ymlaen i ddweud: "Roeddet ti a Zara hefyd mewn perthynas lawn am bron i flwyddyn," gan ychwanegu bod Mr Giggs "wedi cael ei ddyn yn Harrods i anfon pâr o esgidiau a ffrog ati".
"Rwy'n gwybod am Natalie a Suzie, heb sôn am Kelly. Rwy'n gwybod am y merched wyt ti'n eu cyfarfod yn y Stafford."
Roedd y llythyr hefyd yn manylu ar ddigwyddiad honedig o Mr Giggs yn "cael rhyw gyda rhywun arall" pan oedd i fod i 'nôl Ms Greville.
Cyhuddodd Ms Greville y cyn-bêldroediwr a dynes o'r enw Steph o gael "carwriaeth lawn yn 2014" a "barhaodd drwy'r amser roeddet ti'n fy ngweld i".
"Fyddi di byth yn dweud celwydd wrtha i nac yn twyllo arna i eto," aeth y llythyr ymlaen i ddweud.
Dywedodd cyn-bartner Mr Giggs ei bod yn bwriadu cadw'r ci bach yr oedden nhw wedi'i brynu, gan ddweud: "Rwy'n meddwl ar ôl popeth wyt ti wedi fy rhoi trwyddo fy mod yn haeddu cael rhywbeth da o'r berthynas."
Dywedodd ei bod "wedi darganfod o'r diwedd fy mod wedi cwympo mewn cariad â pherson nad oedd hyd yn oed yn bodoli," gan ychwanegu ei bod yn "drist na allet ti fyth fod yn onest â mi am unrhyw beth."
"Roeddet ti bob amser yn dweud wrtha i dy fod eisiau bod yn hapus, ond rydyn ni'r merched yn gallu dweud bob amser pan mae dyn yn dweud celwydd ac yn twyllo.
"Ychydig bach o gyngor: Os wyt eisiau bod yn hapus gyda rhywun, bydda'n onest. Paid â thwyllo.
"Dwi'n credu dy fod yn caru Helen ac yn dal i garu Helen ond fe wnes di dwyllo arni gyda mi."
Yn ddiweddarach ddydd Gwener, wedi ei alw fel tyst i'r amddiffyniad, dywedodd cyn-reolwr Mr Giggs fod ganddo "anian wych".
Aeth Syr Alex Ferguson ymlaen i ddweud mai Mr Giggs oedd "heb amheuaeth yr esiampl orau oedd gennym yn y clwb" a bod "pawb yn edrych ar Ryan Giggs fel y rhif un".
"I gael gyrfa cyhyd ag y cafodd ef mewn sefyllfa anodd, o ran egni, fe gyflawnodd bopeth yr oeddem erioed wedi dymuno iddo."
'Record wych'
Gofynnodd cyfreithiwr Mr Giggs i Syr Alex a oedd yn ymwybodol os oedd gan Mr Giggs gariadon yn ystod ei yrfa.
Dywedodd Syr Alex: "Pan oeddem yn cael ciniawau ar ddiwedd y tymor byddai'n dod â ffrind gydag ef."
Ychwanegodd fod Mr Giggs yn chwarae i Manchester United o fod yn 17 oed nes oedd yn 41 oed a bod ganddo "record wych".
Dywedodd Syr Alex wrth y llys: "Fe gafodd e ben miniog fy nhafod ond roeddwn i'n gwybod y gallai ei gymryd, roedd yn ddigon cryf.
"Byddai pawb arall yn yr ystafell newid yn meddwl: 'Os gall Ryan Giggs ei gymryd, fe allwn ni gyd ei gymryd'."
Mae'r achos yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2022
- Cyhoeddwyd18 Awst 2022
- Cyhoeddwyd16 Awst 2022
- Cyhoeddwyd15 Awst 2022