Cronfa goffa Robin yn helpu degau o athletwyr
- Cyhoeddwyd
"Mae'n golygu lot i ni fel teulu achos pan 'da chi'n colli rhywun 'da chi isho cadw ei enw fo ar yr aelwyd."
Dyna eiriau Gareth Evans - tad Robin Llyr Evans - am waith yr elusen a gafodd ei sefydlu bedair blynedd yn ôl er cof am ei fab i helpu pobl ifanc addawol ddatblygu eu gyrfaoedd yn y byd chwaraeon.
Bu farw Robin - fu'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Botwnnog ym Mhen Llŷn - bron i saith mlynedd yn ôl pan ond yn 20 oed wedi damwain mewn stadiwm newydd sbon yn Wuhan, China.
Yno roedd yn gweithio i'r cwmni technoleg chwaraeon Hawkeye ac yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth tenis yn y ddinas pan ddigwyddodd y ddamwain.
Roedd Mr Evans, oedd wedi astudio ym Mhrifysgol Loughborough, yn chwaraewr rygbi talentog ac yn gyn-gapten tîm ieuenctid Pwllheli.
Yn dilyn ei farwolaeth penderfynodd ei deulu gychwyn elusen er mwyn cofio am ei fywyd - gyda'r bwriad o estyn cymorth ariannol i unigolion o ogledd orllewin Cymru sydd yn anelu yn uchel mewn unrhyw agwedd o chwaraeon.
Yn ystod haf 2018 fe lansiwyd yr elusen "Ymddiriedolaeth Cofio Robin Llyr Evans".
Ymhlith y 60 sydd wedi cael cefnogaeth gan elusen 'Cofio Robin' mae'r nofwraig Medi Harris, Catrin Jones sy'n godwr pwysau, Osian Dwyfor sy'n taflu gordd a'r chwaraewr rygbi Morgan Williams.
Mae'r ymddiridolaeth yn annog ceisiadau am gymorth gan unigolion o Wynedd a Chonwy ar hyn o bryd gyda'r dyddiad cau ddiwedd Medi.
'Help iddod dros y sefyllfa'
"Dwi'n siwr bod tua 60 wedi cael i gyd ers mae'r elusen wedi ei sefydlu ac wrth gwrs ma 'na lwyddiant wedi bod yn y flwyddyn ddiwethaf gyda phedar yng ngemau'r gymanwlad," meddai Gareth Evans wrth siarad ar raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru.
"Roedden ni yn browd iawn fel teulu ein bod ni wedi gweld yr unigolion yma yn dod i'r brig.
"Mae'r gwaith yma wedi'n helpu ni fel teulu a 'da ni wedi bod yn hynod o lwcus i gael tri ymddiriedolwr arall yn rhedeg yr elusen hefo ni a mae hynny wedi bod yn help mawr i ni fel teulu - ac wedi bod yn help i ni ddod dros y sefyllfa."
Am y tro cyntaf eleni mi fydd yna ddigwyddiad i godi arian ar gyfer yr elusen gyda chystadleuaeth golff ddiwedd mis Medi.
"Y bwriad gwreiddiol oedd cofio Robin a chynnal diwrnod golff ar 24 Medi - union saith mlynedd ers i ni golli Robin.
"Ac mi wnaethon ni feddwl codi mil neu ddwy ond mae'r peth wedi mynd yn fwy na hynny ac erbyn hyn mae na dros gant o olffwyr yn cymryd rhan," eglurodd Gareth, wrth gyfeirio at y diwrnod fydd yn cael ei gynnal yng Nghlwb Golff Abersoch.
Bydd y gystadleuaeth yn un agored i aelodau ac ymwelwyr i chwarae fel unigolion neu mewn timau o dri.
Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan Cronfa Robin, dolen allanol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2015
- Cyhoeddwyd26 Medi 2015