Rhyfel Wcráin: 'Dyw’r lluniau ddim fel oedden nhw'
- Cyhoeddwyd
Ar Chwefror 24, 2022, cafodd y byd ei hysgwyd wrth i Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin ddatgan fod y wlad am oresgyn Wcráin.
Trwy luniau a fidoes y cyfryngau profodd pobl ar draws y byd y rhyfel, wnaeth ddechrau yn wreiddiol yn 2014, yn cyrraedd realati newydd, waedlyd.
Union chwe mis yn ddiweddarach ers dechrau'r goresgyniad mae'r rhyfel yn dal i fynd, ond ydych chi wedi bod yn cymryd gymaint o sylw o'r hyn sy'n dal i fynd ymlaen yno? Ydi'r rhyfel yn diflannu i'r cefndir ac a oes perryg iddo gael ei normaleiddio?
Mae Dafydd Rees yn Gyfarwyddwr i gwmni ymgynghori ar y cyfryngau SEC Newgate UK sy'n arbenigo mewn cyfathrebu ar drychinebau.
O weithio fel newyddiadurwr, cynhyrchydd, a golygydd gyda'r BBC, Sky, a Bloomberg mae Dafydd gyda dros 30 mlynedd o brofiad yn adrodd ar ryfeloedd fel Gogledd Iwerddon, Yugoslavia ac Irac.
Yma mae'n ystyried pam fod ein diddordeb at y rhyfel yn prysur ddiflannu.
Y Cyfryngau
Mae sylw wedi bod i straeon personol a straeon ynglŷn â theuluoedd ond beth rydan ni wedi colli yw unrhyw fath o linyn sydd yn gwneud rhyw fath o synnwyr ynglŷn â sut mae'r rhyfel yn mynd.
Ar y cychwyn roedd lot o sôn am amddiffyn Kiyv ac Odessa, neu'r Snake Island. Nawr mae'r rhyfel wedi symud i ardal ddwyreiniol sydd yn ardal lot fwy peryglus i newyddiadurwyr fynd yno.
Un o'r pethau sydd wedi digwydd dros y 30 mlynedd diwethaf yw bod pethau yn mynd yn beryclach. Pan oni'n fengach ac yn mynd i Bosnia neu'n anfon tîm i Irac oeddet ti yn eithaf siŵr na fyddai newyddiadurwyr yn cael eu saethu - mae hwnna nawr wedi newid yn llwyr. Yn arbennig yn Luhansk a Donbas - mae mynd i fanna a gwneud straeon o fanna rwyt ti yn peryglu dy fywyd.
Be rydyn ni'n gweld hefyd ydi'r cyfryngau yn bod yn synhwyrol am y byd mae ynddo yn adrodd.
Fi'n gweithio gyda lot o fudiadau boddhaol ac elusennau sydd yn gweithio dros y byd. Be maen nhw yn dweud wrtha'i yw bod sefyllfa Wcráin yn hollol wahanol.
Mae poblogaeth Wcráin yn 40 miliwn o bobl. Heddi mae un allan o bob 4 - sef 10 miliwn o bobl, wedi symud o'u cartrefi. Ond be sydd wedi digwydd, yn wahanol iawn i'r holl ryfeloedd eraill - yw does dim cant a miloedd o wersylloedd a llwyth o bobl yn bwy o dan tents - dyna be syn gwneud y rhyfel yn hollol wahanol o'r ochr ddyngarol. Mae'r bobl 'ma 'di diflannu mewn i gartrefi pobl yng Ngwlad Pwyl, Romania, Yr Almaen ac maen nhw allan o olwg.
Mae'r gwersylloedd ffoaduriaid yna yn un o symbolau Rhyfel. Ond y tro yma mae 10 miliwn o bobl wedi diflannu, wedi suddo mewn i'r gwledydd o amgylch. Ac mae hwnna yn hollol anhygoel.
Rydyn ni yn rhoi pwyslais ar fywydau, ac yn anffodus dyw bywydau pell i ffwrdd ddim mor bwysig. Mae posib i apelio at ein hochr dyngarol, dim ots o ble wyt ti'n dod. Mae rhaid i'r stori yna gyffwrdd pobl.
Milwrol
Mae'r ail beth yn ymwneud â sut mae'r rhyfel yn mynd rhagddi yn filwrol - does neb yn ennill tir mawr a neb yn colli tir mawr.
Mae beth oedd amcan y rhyfel wedi diflannu braidd achos mae wedi mynd fel y Rhyfel Byd Cyntaf. Beth ddigwyddodd am flynyddoedd oedd bod milwyr ar y ffrynt ac yn y trenches a ddim byd yn digwydd am flynyddoedd.
Mae'r byd rydyn ni ynddo yn dweud mai sefyllfa Wcráin yw y peth mwyaf sydd wedi digwydd i Brydain yn filwrol ers y 1945 - mae'n hawdd iawn dweud hyn a dwi'n cofio pobl yn dweud hyn yn 1991 gyda Bosnia ac yn 2002 gyda Irac.
Ond be syn wahanol yn fan hyn yw mai dyma'r wlad mwyaf milwrol gyda byddin enfawr ac arlywyd fel Putin sydd ddim am stopio.
Economaidd a Gwleidyddol
Ar yr ochr ariannol mae llywodraeth Wcráin nawr yn gwneud e yn glir i bobl fod angen iddyn nhw gael yr arian maen nhw wedi eu gaddo.
Mae llywodraeth Wcráin yn dweud fod angen 9 biliwn o ddoleri y mis jest i gadw'r llywodraeth i fynd. Dyw llywodraethau'r gorllewin heb gyrraedd y pwynt yna o bell ffordd.
Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi anfon arian mawr ond fel fi yn ei deall hi dim ond 1 biliwn sydd wedi dod o'r cyfeiriad yna.
Mae'r Americanwyr wedi rhoi arian sylweddol o ran arfau a hefyd mae Prydain wedi rhoi arfau ond yn bell o beth mae'r arlywydd Wcráin, Volodomyr Zeleskiy eisiau gweld.
Felly mae e'n lot anoddach i bobl fynd i Kiyv a chael llun gyda Zelenskiy achos mae e a'i bobl am ofyn yn syth "ble mae'r arian?"
Mae'r Eidal a'r Almaen yn wynebu penderfyniadau caled iawn hefyd. Mae economi'r Almaen wedi bod ynghlwm mewn perthynas ariannol gyda Rwsia a China am ugain mlynedd. Er enghraifft mae un allan o bob 5 car Volkswagen yn cael ei werthu yn China
Mae colli'r marchnadoedd yna - colli'r busnes yna yn benderfyniad caled iawn yn wleidyddol yn llefydd fel Yr Almaen a hefyd yr Eidal lle mae perthnasedd gyda Rwsia wedi bod yn agos iawn ers degawdau - mae'r blaid Gomiwnyddol wedi bod yn gryf yn yr Eidal ers diwedd yr ail ryfel byd.
Dydyn ni ddim yn gweld e yn y wlad yma a dydyn ni ddim wedi gweld llawer ohono fe yn America. Ond mae amddiffyn Wcráin gyda chostau aruthrol o uchel ac mae'r effaith yna yn dechrau suddo mewn i feddylfryd lot o bobl.
Hefyd o ddiddordeb: