Rhaglen ddogfen yn hwb arall i broffil Clwb Pêl-droed Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Ryan Reynolds a Rob McElhenneyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y gyfres, sydd ar gael ar Disney+, yn dilyn Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn bennaf

Bydd rhaglen ddogfen am Glwb Pêl-droed Wrecsam yn dechrau cael ei darlledu ledled y byd dros y diwrnod nesaf.

Bydd 'Welcome to Wrexham' yn dilyn sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn y cyfnod ers iddyn nhw brynu'r clwb Cymreig yn 2021.

Y tymor diwethaf fe gollodd y clwb yn y gemau ail gyfle am y chweched tro, gan ohirio gobeithion hirddisgwyliedig o ddychwelyd i'r Gynghrair Bêl-droed yn Lloegr.

Ond mae'r gefnogaeth yn parhau i dyfu gartref a dramor, gyda'r actorion Reynolds a McElhenney yn helpu i ysgrifennu pennod newydd yn hanes y clwb.

Dechreuodd y gwneuthurwyr hyrwyddo'r gyfres ddogfen i gynulleidfa Americanaidd yr wythnos diwethaf, gyda thaith bws yn Los Angeles.

Bydd y gyfres ar gael ar Disney+ yn y Deyrnas Unedig o oriau mân fore Iau.

'Syrthio mewn cariad'

Mae gwerthiant tocynnau tymor bron deirgwaith yn uwch ers cyn i'r perchnogion newydd gymryd yr awenau.

Roedd y Cae Ras bron yn llawn yn nwy gêm gartref gyntaf Wrecsam y tymor hwn, gyda thorfeydd o 9,897 a 9,863, yn ôl swyddogion.

Dywedodd cyn-gyfarwyddwr y clwb, Spencer Harris, fod Wrecsam yn gymuned sydd wedi arfer brwydro'n erbyn yr elfennau ac un sy'n haeddu llwyddiant.

Fe wnaeth cefnogwyr ei arbed rhag mynd i'r wal yn 2011.

"Y peth rydyn ni'n ei garu yn fwy na dim ydy'r pêl-droed," meddai Mr Harris, a helpodd i selio'r cytundeb gyda Reynolds a McElhenney y llynedd.

Roedd ymhlith byddin o gefnogwyr a sefydlodd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam ar ôl pleidleisio i achub y clwb rhag dymchwel mewn cyfarfod ar 24 Awst 2011.

Dywedodd Mr Harris mai'r "stori wych" oedd bod y perchnogion newydd wedi gweld "potensial" y clwb ac wedi "syrthio mewn cariad".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y cynllun yw adeiladu eisteddle i 5,500 yn y Kop, gan ymestyn capasiti'r stadiwm i 15,000

Mae'r clwb yn bwriadu ailddatblygu rhan o stadiwm y Cae Ras gydag eisteddle i 5,500 o gefnogwyr yn y Kop, er mwyn cynyddu'r capasiti i fwy na 15,000.

Gobaith y cefnogwyr ydy y gallai'r datblygiad arwain at bêl-droed rhyngwladol yn dychwelyd i ogledd Cymru.

Mae gwerthiant tocynnau tymor i fyny 20%, sef 7,118 y tymor hwn, o gymharu â 5,892 ar gyfer 2021-2022 - a dyblodd hynny o 2,609 o docynnau tymor a werthwyd ar gyfer 2019/20.

Oddi cartref, mae'r clwb wedi gweld ei broffil cyfryngau cymdeithasol "yn ffrwydro" ers i enwau Reynolds a McElhenney gael eu cysylltu â'r clwb am y tro cyntaf ym mis Medi 2020.

Mae gan y clwb fwy na 130,000 o ddilynwyr ar ei gyfrif Instagram. Daeth mwy na 16% o'r gynulleidfa o'r Unol Daleithiau y tymor diwethaf, yn ôl data.

Y disgwyl i hynny gynyddu'n sylweddol yn sgil darlledu'r rhaglen ddogfen.