Wrecsam yn colli 4-5 yn erbyn Grimsby yn y funud ola'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Waynne Phillips: 'Dagrau yn fy llygaid' wedi canlyniad gêm Wrecsam

Fe fydd Wrecsam yn aros yn Nghynghrair Genedlaethol Lloegr wedi iddyn nhw golli yn erbyn Grimsby ym munudau ola' rownd gyn-derfynol gemau'r ail gyfle.

Fe sgoriodd Luke Waterfall i'r ymwelwyr ym munudau olaf yr amser ychwanegol gan sicrhau pump gôl i Grimsby yn erbyn pedair Wrecsam.

Roedd yna gryn densiwn ar y Cae Ras brynhawn Sadwrn gan fod hon yn gêm gwbl allweddol i'r Dreigiau - roedd yn rhaid iddyn nhw ennill os am gael dyrchafiad o Gynghrair Genedlaethol Lloegr.

Grimsby oedd yn chwarae orau ar ddechrau'r gêm yn y Cae Ras - roeddynt yn benderfynol o dewi y deg mil a mwy o gefnogwyr Wrecsam ond yn araf bach daeth mwy o drefn ar chwarae Wrecsam.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Paul Mullin a sgoriodd gôl gyntaf y gêm i Wrecsam

Ar ôl 12 munud fe wnaeth Paul Mullin wibio heibio amddiffynnwr Grimsby cyn iddo gael ei dynnu i lawr yn y blwch cosbi ac roedd hi'n gic o'r smotyn. Mullin oedd yn cymryd y gic a chydag ergyd rymus a darodd ochr isaf y trawst ar ei ffordd i'r rhwyd, rhoddodd y Dreigiau ar y blaen.

Ond tra bod y cefnogwyr cartref yn dathlu'n wyllt, cadwodd Grimsby eu pennau ac o fewn eiliadau roedd hi'n 1-1 gydag ergyd o ugain llath gan John McAtee.

Roedd Wrecsam wedi hynny yn bygwth gôl Grimsby yn gyson ond heb lwyddiant.

Wrth i'r hanner cyntaf dynnu at ei derfyn fe gafodd McAtee ddwy ymdrech arall o bell ar gôl Wrecsam.

Wedi hanner cyntaf cystadleuol iawn roedd y ddau dîm yn gyfartal 1-1.

Sawl gôl arall!

Fe ddechreuodd Grimsby yr ail hanner ar dân gyda McAtee yn cael dwy ymdrech dda yn cael eu harbed gan Christian Dibble yn gôl Wrecsam. Fe ddaeth trydydd cyfle gyda chapten Grimsby, Luke Waterfall, yn rhwydo'r bêl gyda'i ben a rhoi yr ymwelwyr ar y blaen.

Bellach roedd ton o nerfusrwydd ar y Cae Ras ond wedi 63 munud fe ddaeth achubiaeth wedi i Ben Tozer sgorio ar y postyn cefn ac roedd y Dreigiau yn gyfartal.

Ddwy funud yn ddiweddarach roedd Wrecsam yn ôl yn hanner Grimsby a Tozer yn cymryd tafliad o ochr y cae, cafwyd peniad ymlaen gan Palmer a daeth y bêl at Mullin ac roedd Wrecsam ar y blaen (3-2). Roedd dwy funud wedi troi'r gêm wyneb i waered.

Erbyn hyn roedd cefnogwyr y tîm cartref yn gorfoleddu, ond roedd mwy o dioddefaint i ddod. Wedi 72 munud roedd Grimsby yn gyfartal eto (3-3) wrth i Ryan Taylor sgorio gyda pheniad arbennig.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Emmanuel Dieseruvwe yn dathlu

Wedi chwe munud roedd Grimsby ar y blaen wrth i'r eilydd Emmanuel Dieseruvwe sgorio ond doedd y gêm ddim ar ben ac ar ôl 80 munud roedd Wrecsam yn gyfartal eto (4-4) wrth i'r bachgen lleol, Jordan Davies, sgorio.

Gôl yn yr amser ychwanegol

Roedd y timau yn paratoi am giciau o'r smotyn wrth i gyfnod yr amser ychwanegol ddod i ben ond cyn i hynny ddigwydd fe sgoriodd Luke Waterfall gan achosi torcalon i'r Dreigiau.

Y sgôr terfynol Wrecsam 4-5 Grimsby.

Grimsby felly fydd yn chwarae yn y rownd derfynol yn Llundain ar ddydd Sul, 5 Mehefin.