Diogelu dyfodol melin wlân hanesyddol yn Nyffryn Teifi

  • Cyhoeddwyd
Peiriannau yn y felin
Disgrifiad o’r llun,

Sefydlwyd Melin Teifi yn 1982

Mae dyfodol melin wlân hanesyddol yn Nyffryn Teifi yn ddiogel ar ôl cael ei phrynu gan Amgueddfa Cymru.

Roedd pryder am ddyfodol Melin Teifi ar ôl i'r perchnogion sôn eu bod nhw'n ystyried ymddeol.

Ond bellach mae'r amgueddfa yn dweud y bydd y felin yn rhan bwysig o Amgueddfa Wlân Cymru, ac yn le i ddatblygu sgiliau a chrefftwyr newydd yn y diwydiant.

Er hynny, dywedodd un o'r sylfaenwyr, Raymond Jones ei fod am gadw'r cysylltiad gyda'r felin: "Fi yn bwriadu cadw yn law mewn, dwi ddim ishe bennu yn gyfangwbl. Mae e yn fy ngwaed i."

'Rhan bwysig o'n bywydau'

Fe gafodd Melin Teifi ei sefydlu gan Raymond a Diane Jones yn 1982; mae'r ddau nawr yn eu 70au.

Roedden nhw wedi bwrw eu prentisiaeth ar ôl gadael ysgol, yn hen felin wlân y Cambrian ar y safle.

Ond pan gaeodd hwnnw, aeth y ddau ati yn syth i agor melin eu hunain: "Mae hwn yn rhan bwysig o'n bywydau ni ein dau ers blynydde mawr, mae e yn ein gwaed ni.

"Pan gaeodd y Cambrian doedd unman gyda ni i fynd, a doedden ni ddim yn gwybod be' arall i 'neud ar wahân i weithio gyda gwlân", meddai Diane.

Disgrifiad o’r llun,

Sefydlwyd Melin Teifi yn 1982 gan Raymond a Diane Jones

Mae'n cofio sut y gwnaeth hi ddechrau yn y diwydiant bron i 60 mlynedd yn ôl.

"Fi oedd yr un oedd yn dod mewn yn y bore i'r hen ffatri wlân ac yn cynnau tân i'r merched gwnïo pan fydde nhw'n dod mewn fel bod y lle yn dwym neis iddyn nhw.

"Ac wedyn fe es i 'mlaen i neud blancedi a'r stitching.

"Dyw'r gwaith ddim 'di newid fawr ddim dros y blynydde, mae rhai commissions yn dod mewn a phatrymau newydd ond mae'r gwaith traddodiadol yn bwysig i ni... yr hen batrymau Cymraeg.

"Mae'n neis nawr bod rhywun yn cymryd y felin drosodd. Ni wedi gweithio yn galed yma trwy amseroedd da a drwg."

'Mae'r felin mewn dwylo da'

Mae Raymond ei gŵr yn teimlo rhyddhad nawr bod dyfodol y felin yn sicr: "Rwy'n teimlo bo' fi yn gwbod be' sy' i ddigwydd o nawr 'mlân, ac mae'r felin mewn dwylo da.

"Yn y cwpl blynydde diwetha' rwy' 'di bod yn becso am y felin, y peirianne a phobl sy'n gweithio gyda ni a hefyd ein cwsmeriaid.

"Ond nawr rwy'n teimlo rhyddhad achos ry' ni ein dau wedi bod yn gweithio yn y diwydiant gwlân fan hyn ers 1964."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Raymond Jones wedi bod yn gweithio yn y diwydiant gwlân am bron i 60 mlynedd

Pan gaeodd y Cambrian, roedd Raymond yn meddwl ei fod yn bwysig i "gadw cynnyrch y felin i fynd sef gwlanen a blancedi, siolau magu, ac wedyn y tapestri".

"Gadwo ni 'neud pethe fel 'na ac roedd hynna'n bwysig i fi."

Mae'r cwmni bach wedi sefydlu perthynas gyda chynllunwyr trwy amseroedd o galedi.

"Ar un amser roedd hi yn galed iawn yn yr '80au gyda ffatrïoedd yn cau ac fe gymero ni lot o waith comisiwn 'mlan i gadw ni fynd, ac mae'r cysylltiad yna gyda chynllunwyr wedi parhau.

"Fi yn bwriadu cadw yn law mewn, dwi ddim ishe bennu yn gyfan gwbl. Mae e yn fy ngwaed i."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ruddwen yn teithio i'r felin i gael deunydd er mwyn gwneud gwisgoedd Cymreig

Mae Ruddwen Mainwaring wedi teithio i'r felin gyda'i merch o Bontarddulais i brynu gwlân i wneud gwisg Gymreig i'w gor-wyrion.

"Rwy' wedi prynu defnydd ar gyfer sgert a betgwn a phiner, ac mae'r safon fan hyn yn arbennig", meddai.

"Rwy' 'di gneud sawl un o rhain dros y blynydde, wastod yr un patrwm ac mae'r traddodiadol yn bwysig iawn i fi!"

Defnyddio 'adnoddau naturiol Cymru'

Edrych i'r dyfodol mae rheolwr yr amgueddfa wlân, Ann Whittall, sy' wrth ei bodd ar ôl i Amgueddfa Cymru brynu'r felin.

"Mae'n hollol bwysig i ni fan hyn yn Nyffryn Teifi ein bod ni'n cadw y cynhyrchwyr gwlanen traddodiadol a'r tapestris i fynd.

"Ond hefyd ar yr un pryd mae'n gyfle gwych i gynllunwyr Cymru os ydyn nhw am ddysgu sut mae defnyddio'r peiriannau a chynllunio patrymau a chynllunie newydd, bydd y cyfle yma iddyn nhw."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Ann Whittall bod prynu'r felin yn "siawns i sichrau ein bod ni yn gwarchod a diogelu sgiliau i'r dyfodol"

Mae hi'n bendant bod lle a galw o hyd am gynnyrch y diwydiant gwlân: "Ry' ni i gyd yn fwy ymwybodol o'n dillad o lle maen nhw yn dod a sut maen nhw yn cael eu gwneud.

"Mae yna alw am edrych ar ein hadnoddau naturiol yng Nghymru a gwneud mwy o ddefnydd o wlân Cymru. Felly mae yna gyfle gwych fan hyn."

Mae pennod newydd yn dechrau yn hanes cynhyrchu gwlân yng Nghymru, a diwydiant sy' wedi bod yn rhan o wead Dyffryn Teifi ers canrifoedd.

Pynciau cysylltiedig