Gwynedd: 'Dylai cynghorwyr allu mynegi heb bryder'
- Cyhoeddwyd
Mae Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd wedi dweud y dylai pob cynghorydd allu "teimlo'n ddiogel" a "gallu mynegi eu hunain heb bryder" wedi i'r heddlu gael eu galw i gyfarfod tanbaid.
Bu'n rhaid gohirio cyfarfod o'r cyngor ddydd Iau am gyfnod wedi i aelodau o'r cyhoedd herio cynghorwyr o'r oriel gyhoeddus yn ystod trafodaeth ar addysg rhyw.
Penderfynodd cadeirydd y cyngor sir, Medwyn Hughes, weithredu wedi i'r cyhoedd gael sawl rhybudd i dawelu ac fe gafodd yr heddlu eu galw i ddarparu cymorth.
Yn ystod y cyfarfod dywedodd sawl cynghorydd fod pamffledi wedi eu dosbarthu o fewn y sir a oedd yn cynnwys "llenyddiaeth camarweiniol iawn" ynglŷn a'r cwricwlwm newydd.
Mae'r pamffledi yn honni y gallai'r polisi addysg rhyw newydd "gyflwyno plant ifanc i amrywiaeth o syniadau rhywiol".
Ond wrth ymateb dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, fod yr honiadau yn "ddi-sail" ac yn "hynod beryglus".
Cyfarfod arbennig
Gan honni bod y mater yn "pery pryder mawr i ni a'n hetholwyr", ac "o natur na ellir ei anwybyddu" roedd cyfarfod arbennig prynhawn Iau wedi ei alw gan bump cynghorydd annibynnol sef Louise Hughes, Eryl Jones-Williams, Angela Russell, Gruff Williams a Rob Triggs.
Gan bwysleisio'r angen i'r cyngor ystyried "y canlyniadau posibl i'n plant" a'r honiad o "weithredu cwricwlwm a allai fod yn anghyfreithlon" cafodd y cyfarfod ei gynnal wedi pryderon am y polisi newydd fydd yn cael ei gyflwyno o fis Medi.
Mae'r Uchel Lys eisoes wedi rhoi'r hawl i grŵp sy'n gwrthwynebu i herio'r cynlluniau yn y llysoedd.
Mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan grŵp Public Child Protection Wales, gyda phamffledi wedi eu dosbarthu mewn sawl rhan o Gymru yn honni y gallai'r cwricwlwm gyflwyno plant ifanc i syniadau "cwbl anaddas".
Ond mae Llywodraeth Cymru yn pwysleisio y bydd disgyblion yn dysgu am bynciau sy'n addas ar gyfer eu hoedran.
Wrth wneud cais am drafodaeth bellach ar y polisi gan bwyllgor craffu'r cyngor, dywedodd y Cynghorydd Louise Hughes "nad oedd wedi gallu cysgu" ers dysgu am y drefn newydd, ond ei bod eisiau "sgwrs agored".
Yn ystod ei hanerchiad, oedd yn cynnwys disgrifiadau o weithredoedd rhywiol ac organau cenhedlu, gofynnwyd sawl tro iddi ailgyfeirio ei sylwadau a dywedodd y cadeirydd bod ei sylwadau yn "anaddas".
'Llenyddiaeth camarweiniol'
Bu'n rhaid i'r cadeirydd roi sawl cerydd i aelodau o'r cyhoedd am dorri ar draws y cynghorwyr rheiny oedd yn siarad o blaid y polisi.
Dywedodd y Cynghorydd Dewi Jones ei fod wedi "dychryn" gan "lenyddiaeth camarweiniol iawn" a oedd wedi ei ddosbarthu dros y dyddiau diwethaf yn ei ward yng Nghaernarfon.
"Rhai pobl sy'n dadlau yn erbyn. Ydyn nhw wedi darllen y ddogfen hon? Sw ni'n hoffi iddyn nhw ddangos i mi lle mae'r geiriau, sw ni'm yn teimlo'n gyfforddus yn eu dweud yn y siambr, yn y ddogfen yma," meddai.
Yng nghanol ei araith fe ohiriwyd y cyfarfod am dros 15 munud wedi i'r cadeirydd ddatgan nad oedd rhai pobl yn yr oriel gyhoeddus yn "parchu'r drafodaeth" ac fe ofynnodd i rai adael y siambr o ganlyniad.
Wedi ail-ddechrau'r cyfarfod dywedodd y Prif Weithredwr, Dafydd Gibbard, ei fod yn "hynod siomedig" gyda'r hyn ddigwyddodd, er yn cydnabod y "teimladau cryf iawn" ar y ddwy ochr.
Dywedodd: "Da ni'n dymuno cael trafodaeth lle mae pawb yn gallu cael eu clywed, da ni'n dymuno hefyd cael trafodaeth lle mae pawb yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu mynegi eu hunain yn agored heb unrhyw bryder o gwbl.
"Os bydd unrhyw dorri ar draws y drafodaeth eto o'r galeri gyhoeddus, bydd yna ddim dewis ond gofyn i'r heddlu ein cynorthwyo i glirio'r galeri i gyd."
Wedi ail-ddechrau'r cyfarfod, pleidleisiodd aelodau o 30 i 19 yn erbyn gwneud cais i gael trafodaeth bellach ar y pwnc gan bwyllgor craffu'r cyngor.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Ymatebodd swyddogion i gais gan Gyngor Gwynedd i fynychu cyfarfod yn dilyn adroddiadau bod grŵp o bobl yn achosi niwsans.
"Ni chymerwyd unrhyw gamau, a gadawodd y grŵp oriel gyhoeddus siambr y cyngor yn dawel pan ddaeth y cyfarfod i ben."
'Diolchgar i'r heddlu'
Ar derfyn y cyfarfod, wrth i'r heddlu a swyddogion y cyngor glirio'r galeri cyhoeddus, fe gadwyd y cynghorwyr yn Siambr Dafydd Orwig am gyfnod.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Yn ystod cyfarfod arbennig o'r Cyngor Llawn yn Siambr Dafydd Orwig ddydd Iau, tarfwyd ar y drafodaeth gan unigolion yn y galeri gyhoeddus. Wedi sawl rhybudd gan gadeirydd y cyfarfod, cafwyd oediad o 15 munud er mwyn tawelu'r siambr.
"Fel mesur rhagofalus fe'i hystyriwyd yn briodol i ofyn am bresenoldeb Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau y gallai gweddill y cyfarfod fynd yn ei flaen yn ddiogel ac mewn cyflwr da. Rydym yn ddiolchgar i'r heddlu am eu cydweithrediad."
Dywedodd deilydd y portffolio addysg, y Cynghorydd Beca Brown, bod y cod newydd "wedi'i ddatblygu gan arbenigwyr" ond fod "grŵp bach o bobl yn rhannu negeseuon camarweiniol a gwybodaeth gan greu ofn a phryder ymhlith rhieni."
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles, nad oes modd trafod y materion cyfreithiol ond "nad oes unrhyw wirionedd o gwbl i'r haeriadau a wneir gan yr unigolion hyn na chan y grŵp hwn yn ei lenyddiaeth".
Ychwanegodd: "Rwy'n annog yr aelodau ac unrhyw un sy'n bryderus am y mater i ddarllen y Cod a'r canllaw statudol i weld drostynt eu hunain mor gamarweiniol a di-sail yw honiadau'r grŵp.
"Fel ag sy'n digwydd yn y Cyfnod Sylfaen ar hyn o bryd, bydd ein dysgwyr ifancaf yn dysgu am gyfeillgarwch a theuluoedd, a byddan nhw'n bendant iawn ddim yn dysgu am berthynas ramantaidd neu rywiol. Gwaherddir hyn gan y Cod. Mae'r gyfraith yn hollol glir: rhaid i'r ACRh a ddysgir fod yn gwbl briodol i ddatblygiad pob plentyn.
"Rwy'n bleidiol iawn i'r broses ddemocrataidd a hawl pobl i brotestio a phwysigrwydd gallu troi at y gyfraith i ddwyn llywodraethau i gyfrif am eu penderfyniadau. Ond mae tactegau ymosodol y grŵp hwn i bwyso ar y bobl sy'n gweithio yn ein Hawdurdodau Lleol a'n hysgolion yn fy arswydo.
"Diben ACRh yw cadw plant yn ddiogel: rhag perthnasoedd a sefyllfaoedd a allai eu niweidio, yn enwedig ar-lein. Mae plant heddiw'n gorfod delio â phwysau nad oeddem ni'n gwybod amdanyn nhw pan oeddem ni'n blant. Ni allwn anwybyddu'r peryglon hyn.
"Mae gwir berygl i'r honiadau a wneir gan y grŵp wneud niwed go iawn i'n plant ifanc wrth i'r grŵp geisio eu rhwystro rhag cael yr addysg hanfodol hon allai eu diogelu yn y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mai 2022
- Cyhoeddwyd21 Ionawr 2020