Gwennan Harries: Llwyddiant Lloegr yn hwb i fenywod Cymru

  • Cyhoeddwyd
cymru lloegrFfynhonnell y llun, Getty Images

Ar ddydd Gwener 2 Medi mae ymgyrch tîm pêl-droed merched Cymru yn parhau i gyrraedd Cwpan y Byd 2023. Dwy gêm sydd ar ôl o'r rowndiau rhagbrofol gyda garfan Gemma Grainger yn gwybod y bydd buddugoliaeth yn erbyn Groeg a Slofenia yn sicrhau lle yn y gemau ail-gyfle.

Yn dilyn llwyddiant Lloegr yn enill Pencampwriaeth Euro 2022, mae llawer yn credu y gallai Cymru fanteisio ar y sylw newydd i bêl-droed menywod yn wrth geisio cyrraedd Cwpan y Byd flwyddyn nesaf yn Awstralia a Seland Newydd.

Mae Gwennan Harries yn gyn-chwaraewr rhyngwladol, yn ohebydd radio a theledu, ac yn athrawes addysg gorfforol sy'n gyfarwydd iawn â gêm y merched ar lawr gwlad yng Nghymru.

All llwyddiant Lloegr ddylanwadu ar Gymru? "Yn sicr" meddai Gwennan, "ac ma' fe wedi yn y gorffennol - fe wnaeth Gemau Olympaidd yn 2012 lot i godi proffil gêm y merched.

"Mae Lloegr wedi cael llwyddiannau yn y pencampwriaethau mawr ers Cwpan y Byd Canada 2015 ble wnaethon nhw gyrraedd y rownd gyn-derfynol, a wedyn pencampwriaethau Ewrop a ddilynodd, rownd gyn-derfynol eto yn y Cwpan y Byd yn Ffrainc, ac yna wrth gwrs ennill yr Euros eleni."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Carfan Lloegr yn dathlu ennill Pencampwriaeth Euro 2022, 31 Gorffennaf.

Mae Gwennan yn meddwl bod buddugoliaeth Lloegr yn erbyn Yr Almaen yr haf 'ma wedi agor y drws i gynulleidfa newydd i bêl-droed menywod.

"Mae'r sylw yna wedi cael ei roi ar draws Lloegr, ond hefyd Cymru, ac mae hynny'n bwysig er mwyn codi'r proffil a statws y gêm. Yn amlwg mae merched Cymru'n siomedig doedden nhw ddim yn rhan o'r Euros sydd newydd fod, ac mae nhw eisiau cael y cyfle i ddangos eu gallu ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesa' o ferched a bechgyn yng Nghymru.

"Da ni methu gor-ddweud gymaint o effaith mae llwyddiant a datblygiad y gêm yn Lloegr wedi ei gael ac am gael ar bêl-droed merched ym Mhrydain yn gyffredinol, achos mae llwyddiant wastad yn denu mwy o sylw a fuddsoddiad sydd ond am helpu'r gêm.

"Yng nghynghrair Lloegr mae gymaint o chwaraewyr sydd 'di cael llwyddiant dros Ewrop gyfan, ac mae'r gynghrair yn mynd o nerth i nerth. Mae'r ffaith bod gymaint o chwaraewyr o Gymru yn y Super League neu yn y gynghrair odanodd (y Bencampwriaeth) yn dangos y safon sydd gennym ni. Yn amlwg pan mae 'na lwyddiant mae 'na fyw o buzz a torfeydd mwy, felly fydd hynny'n helpu chwaraewyr Cymru.

Cyrraedd y gemau ail-gyfle

Felly, beth yw'r tebygolrwydd y bydd Cymru'n cyrraedd y gemau ail-gyfle? Mae Gwennan yn ffyddiog: "Mae 'na gyfle wirioneddol y tro 'ma, sai'n credu bod ni wedi bod mewn sefyllfa fel hyn ble mae popeth o'n plaid ni, ac ry'n ni'n edrych mor gryf"

"Ni ond angen pedwar pwynt yn y ddwy gêm olaf (i gyrraedd y gemau ail-gyfle) ac felly mae popeth yn ein dwylo ni. Dwi'n hyderus y bydden ni'n creu hanes, a dwi'n credu bod y garfan yn hyderus hefyd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd 5,500 o dorf ym Mharc y Scarlets. Llanelli, pan chwaraeodd Cymru yn erbyn Ffrainc ar 8 Ebrill, 2022.

"Mae'r gêm yn erbyn Groeg mor bwysig fel allen ni fynd mewn i'r gêm olaf yn erbyn Slofenia efo popeth yn ein dwylo ni. Mae'n bach o cliché i ddweud 'cymryd un gêm ar y tro' ond dyna sydd rhaid gwneud yma, achos os enillwn ni yn Groeg mi fydde pwynt yn ddigon yn y gem olaf. Bydde'n rhaid i Slofenia fynd amdani wedyn, sy'n chwarae i'n dwylo ni achos dwi'n credu bod gennym ni y cyflymder i wrth-ymosod a sgorio.

"Mae Slofenia wedi gwella yn aruthrol dros y blynyddoedd d'wetha - roedden nhw'n agos iawn i gael canlyniad i ffwrdd yn Ffrainc, gyda Ffrainc angen gôl o gic o'r smotyn i ennill.

"Bydden nhw ddim yn gemau hawdd ond dwi'n credu bod gennym ni ddigon o safon i gyrraedd y gemau ail-gyfle."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeoedd Gwennan Harries dros Gymru 56 gwaith rhwng 2006 ac 2012, gan sgorio 18 gôl.

Y gêm gystadleuol ddiwethaf i garfan Gemma Grainger oedd y fuddugoliaeth o dair gôl i ddim yn erbyn Kazakstan yn Astana ym mis Ebrill, ac fe gafwyd gêm ddi-sgôr yn erbyn Seland Newydd mis Mehefin.

'Disgwyliadau'n codi'

Gyda llwyddiant daw disgwyliadau uwch, ac mae Gwennan yn credu bod gwelliannau Cymru dros y blynyddoedd diweddar yn golygu bod disgwyl bellach i Gymru gyrraedd y gemau ail-gyfle.

"Mae'r disgwyliadau wedi codi, a dyna pam ni yw'r ffefrynnau i gyrraedd y gemau ail-gyfle. Rwy'n credu os fydden ni ddim yn cyrraedd fe fydd o'n ofnadwy o rwystredig a siomedig, o ystyried y safon sydd yn y garfan bresennol i gymharu a Slofenia a Groeg, gyda phob parch i nhw.

"Mae'r ffordd mae'r gemau ail-gyfle yn cael ei strwythuro yn gêm y merched yn gymhleth, ac mi fydd y timau yn cael eu rhestru fel detholion felly dyna pam mae'n bosib i ni drio cael dwy fuddugoliaeth yn y gemau sydd ar ôl."

Y nifer o chwaraewyr

Dros y blynyddoedd diweddar mae Gwennan wedi gweld tŵf enfawr yn y niferoedd o ferched sy'n chwarae yng Nghymru.

"Mae gymaint mwy gyda diddordeb yn y gêm. Fel athrawes Addysg Gorfforol dwi'n gweld y diddordeb i ddod i glybiau yn tyfu, ond hefyd mae'r nifer o ferched ifanc sy'n rhan o glybiau tu allan i'r ysgol yn cynyddu yn aruthrol."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gemma Grainger wedi bod wrth y llyw gyda Chymru ers Ebrill 2021.

"Mae Cymdeithas Bêl-Droed Cymru wedi gosod targed o gael 20,000 o chwaraewyr wedi'w cofrestru a chlybiau merched erbyn 2026, wel mae dros 12,000 yn barod. Yn amlwg gyda llwyddiant Lloegr dros yr haf a pwsh i gemau'r Cymru sy'n dod lan a'r gemau yn cael ei darlledu ar y teledu, bydd y niferoedd ond yn cynyddu unwaith eto."

Beth fyddai cyrraedd Cwpan y Byd yn ei olygu i Gymru? "Sai'n credu allai ddisgrifio fe i fod onest. Pan o'n i'n chwarae o'n i byth yn disgwyl gweld beth dwi 'di gweld yr haf 'ma, ym Mhrydain, yn Lloegr.

"Mae gennym ni lai o chwaraewyr na'r gwledydd mawr, ond mae'r safon o chwaraewyr sydd gennym ni yn dda iawn. Os fydden nhw'n gallu cael y sylw sy'n dod o gael llwyddiant, bydd mwy o fuddsoddiad yn cael ei roi i'r gem ar bobl lefel, o clybiau ar lawr gwlad i'r chwaraewyr elit. Fe all fod yn rywbeth hanesyddol i Gymru, ac yn drobwynt i'r gêm yma."

Hefyd o ddiddordeb: