Caergybi i gael £700,000 i wella diogelwch strydoedd

  • Cyhoeddwyd
Canol Caergybi

Bydd bron i £700,000 yn cael ei fuddsoddi yng Nghaergybi dros y misoedd nesaf er mwyn gwella diogelwch ar strydoedd y dref.

Daw'r buddsoddiad fel rhan o gynllun ehangach y Swyddfa Gartref gwerth £75m i ddiogelu ac atal troseddau mewn trefi yng Nghymru a Lloegr.

Fe fydd y cyllid yn cael ei dargedu ar strydoedd penodol yng nghanol Caergybi sydd wedi profi trosedd cyson neu gynyddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae disgwyl mwy o gamerâu cylch cyfyng a goleuadau stryd gwell.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru a Chyngor Môn eu bod yn croesawu'r cyllid, gan ddweud y bydd yn gwneud gwahaniaeth i ddiogelwch yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd 21 o gamerâu teledu cylch cyfyng newydd yn cael eu gosod ar strydoedd Caergybi

Ar draws y gogledd mae £1.5m yn cael ei fuddsoddi, gyda £692,149 yn dod i Gaergybi a'r gweddill yn cael ei wario yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy.

Mae'r ardaloedd dan sylw wedi profi troseddau fel byrgleriaeth ddomestig, lladradau, dwyn, troseddau cerbydau, ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais yn erbyn merched mewn mannau cyhoeddus.

Yn ôl Prif Arolygydd Ynys Môn, Gethin Jones fe fydd y mesurau newydd yn gwneud gwahaniaeth mawr.

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Caergybi ddim gwaeth nag ardaloedd eraill, medd Prif Arolygydd Ynys Môn, Gethin Jones, er y cyllid ychwanegol

"Mi fydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i wella ansawdd bywydau trigolion Caergybi ac i wneud strydoedd Caergybi yn saffach," meddai.

"Mae Caergybi fel bob tref arall yng ngogledd Cymru - mae 'na ychydig o broblemau gwrthgymdeithasol a thrais yn digwydd ond dim gwaeth na nunlle arall.

"'Dan ni eisiau rhoi mwy o adnoddau i bobl ifanc yr ardal hefyd a sicrhau bod llai o droseddu yn gallu digwydd."

Dros y misoedd nesaf felly mi fydd y pres yn cael ei wario ar nifer o brosiectau cymunedol gan gynnwys gwella goleuadau stryd o amgylch canol y dref.

Mi fydd yna 21 o gamerâu teledu cylch cyfyng newydd, bydd mesurau diogelwch 250 o gartrefi yn cael eu gwella gan ddarparu pecynnau diogelwch, a bydd yna fwy o fuddsoddiad mewn gwasanaethau ieuenctid y dref.

Mae'r Cynghorydd Alun Mummery, deilydd portffolio Tai a Diogelwch Cymunedol Cyngor Môn, yn ffyddiog y bydd y mesurau newydd yn "gam mawr" i'r cyfeiriad cywir.

"Mae'r cychwyn mwyaf efo'r goleuadau strydoedd - dyna ydi un o bwrpasau mwyaf y peth sef i ddileu trais o'r strydoedd," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cynghorydd Alun Mummery yn edrych ymlaen at weld faint o wahaniaeth fydd yna yn sgil yr arian a'r mesurau diogelwch newydd

"Mae 'na gymaint o bethau yn y pecyn - 'dan ni'n croesawu yr arian sydd yna i drio dileu trais, ond gwaetha'r modd bod Caergybi wedi dod yn deilwng i gael rhan o'r arian yma."

Yn ôl y cynghorydd, mae lefelau troseddau yn y dref "yn bryder" ond mae'n mynnu nad yw'n waeth nag ardaloedd tebyg mewn rhannau eraill o Gymru.

Ychwanegodd ei fod yn edrych mlaen at weld gwahaniaeth dros y misoedd nesaf.

Mi fydd swyddogion hefyd yn cynyddu patrolau gweledol amlwg er mwyn helpu mynd i'r afael â throseddau yn erbyn merched mewn mannau cyhoeddus ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Disgrifiad o’r llun,

Bydd y camau diogelwch newydd yn rhoi mwy o sicrwydd i ferched yn arbennig, medd Daron Marged Owen

Yn ôl Daron Marged Owen, Rheolwr Diogelwch Cymunedol cynghorau Gwynedd a Môn, fe ddangosodd ymgynghoriad cyhoeddus yr angen i wneud mwy i sicrhau bod merched yn benodol yn teimlo'n gyfforddus yr y dref gyda nifer wedi cwyno am strydoedd tywyll.

"Mae hynny wedi ymddangos [yn yr ymgynghoriad], sef bod merched yn enwedig yn teimlo'n anniogel, yn enwedig mewn ardaloedd o Gaergybi," meddai.

"'Dan ni wir am fynd i'r afael â hyn i wneud yn siŵr bod pawb yn teimlo'n saff yn eu cymuned."

Ychwanegodd Ms Owen fod y gwaith o fynd ati i roi'r cynlluniau ar waith ar fin dechrau gan ddweud bydd yr holl gyllid yn cael ei fuddsoddi erbyn Medi 2024.