Reslo: Llyfr yn cyflwyno Orig Williams i genhedlaeth newydd o blant
- Cyhoeddwyd
Wrth i Gaerdydd gynnal sioe mwyaf byd reslo WWE yn y DU ers 30 mlynedd ddydd Sadwrn, mae llyfr newydd yn cael ei lawnsio sy'n cyflwyno reslwr enwocaf Cymru i genhedlaeth newydd o blant.
Tair mlynedd ar ddeg ers ei farwolaeth mae mwstash enfawr a leotard coch Orig Williams yn cael eu hanfarwoli fel rhan o gyfres Enwogion o Fri (Welsh Wonders yn Saesneg) gan wasg Llyfrau Broga.
Mae sbloets o sioe Clash in the Castle yn Stadiwm Principality ar 3 Medi yn gweddu i'r dim i fywyd lliwgar Orig Williams, y perfformiwr o Ysbyty Ifan oedd yn cael ei adnabod wrth yr enw llwyfan El Bandito.
Arwr chwedlonol
Mae'r ddau sydd wedi creu'r llyfr Bywyd Beiddgar Orig Williams yn ffans enfawr o reslo a chomics ac wedi cydweithio ar sawl prosiectau cartŵn, ffilm ac animeiddio: Ioan Morris sydd wedi ysgrifennu'r stori a Josh Hicks sydd wedi ei ddarlunio.
Mae ffurf cartwnaidd y lluniau yn gweddu yn berffaith i gymeriad chwedlonol El Bandito meddai Ioan, sy'n cofio cael ei swyno gan fyd reslo gyntaf pan welod Hulk Hogan ar y teledu yn fachgen bach yn Aberhonddu.
"Fi'n credu bod steil Josh yn berffaith am fod [Orig] yn teimlo fel mythical hero a mae'n siwtio y ffurf yna, does dim rhaid i chi neud lot fawr i neud iddo fe edrych fel rhywun o'r Mabinogion neu rhywbeth fel'na… mae'r mwstash mawr gyda fe, mae'r chest mawr yn sefyll mas, mae bach o twinkle yn ei lygad e...
"Y peth diddorol i fi oedd cyfieithu y straeon yma am Orig i ffurf addas i blant; a mae rhai ohonyn nhw yn eitha' rough and tumble, i fod yn delicate am y peth!
"Ond mae plant yn hoffi dipyn bach o naughtiness - maen nhw'n hoffi bod pobl sydd wedi tyfu lan ddim yn byhafio eu hunain trwy'r amser… so dyle fe fod yn gymeriad diddorol i blant hyd yn oed os nad ydyn nhw'n gwybod cweit y context.
"Ni di cymryd yr agwedd tipyn bach o 'print the legend' achos mae hwnna'n rhan o reslo ei hunan; y syniad bod chi ddim cweit yn gwybod be sy'n wir a be sy'n ffug.
Sin reslo Cymraeg yr 80au
Bu farw Orig Williams yn 2009 wedi gyrfa ryfeddol mewn reslo, fel perfformiwr a hyrwyddwr, ar deledu Cymraeg ac fel awdur colofn bapur newydd. Fe gyhoeddodd hunangofiant o'r enw Cario'r Ddraig hefyd.
Fel Ioan, roedd Josh Hicks yn ffan mawr o reslo pan oedd yn ifanc, ond doedd ganddo ddim syniad pwy oedd Orig Williams bryd hynny.
"Wrth imi ymddiddori mwy a mwy mewn reslo wnes i ddarganfod fod yna sin reslo Prydeinig annibynnol eitha' mawr a'i fod o'n un o fawrion y byd yna," meddai Josh, sy'n wreiddiol o Faesycwmer ger Caerffili.
"Achos mod i ddim yn siaradwr Cymraeg, felly ddim yn gwybod dim am Reslo ar S4C, roedd yn ddiddorol ffeindio fod yna reslo Cymraeg yn yr wythdegau a'r nawdegau. Mi wnaeth gweld fideos o hynny chwythu 'mhen i a dyna lle wnes i weld ei waith gynta'.
"Ac i wybod mod i'n fyw bryd hynny, ac erioed wedi ei weld!
Delwedd El Bandito
"Mae ganddo'r mwstash enfawr yma, mae ganddo ddelwedd reit arbennig: mae na dal waith i'w wneud i gael y tebygrwydd yn iawn, ond mae'r mwstash yna yn help mawr!
"Mae'n enwog am ei leotard coch felly dwi bob amser yn ei bortreadu mewn coch yn y llyfr a cheisio ei wneud yn eiconig a larger than life.
"Mae'n ddyn oedd yn edrych yn Gymreig iawn mi fedrwch chi ddweud yn syth ei fod yn Gymro o'i wyneb!"
Ar wahân i'w ddelwedd drawiadol a'i waith ar S4C, rhan fawr o'i eitfeddiaeth meddai Josh ydy fel hyfforddwr a mentor i reslwyr ifanc aeth ymlaen i hyfforddi eraill.
Fe weithiodd ym Mhacistan a'r Unol Daleithiau a gyda reslwyr o Japan a Mecsico hefyd.
Roedd hefyd yn allweddol o ran cyflwyno reslwyr benywaidd yn y DU, merched oedd cyn hynny ddim yn cael gwaith fel reslwyr, ychwanegodd.
"Cafodd y dylanwad mwyaf, yn fy marn i, yn ei waith yn helpu talent newydd i dyfu," meddai Josh, "rydyn ni'n ceisio dal hynny yn y llyfr, mae na ddarn sy'n dangos Orig yn hyfforddi ei fyfyrwyr ac yn sôn am ei eitfeddiaeth - beth wnaeth o yn y cylch bocsio, ond beth wnaeth o i fyd reslo y tu allan i'r cylch hefyd."
Mae Josh eisoes wedi bod yn cyhoeddi llyfrau comic o'r enw Glorious Wrestling Alliance ers rhai blynyddoedd ac fe ddarganfyddodd bod ganddo fo a Ioan yr un diddordeb mewn reslo pan wnaethon nhw gyfarfod i ddechrau i drafod comics.
Ysbrydoliaeth i blant
Bwriad y gyfres Enwogion o Fri, sy'n cynnwys cyfrolau am Cranogwen, Gwen John a Shirley Bassey, yw cyflwyno bywydau ysbrydoledig unigolion o Gymru i blant ifanc.
I Ioan mae stori Orig Williams yn wers wych i annog plant i fentro: "Mae stori bywyd Orig yn un anturiaethus, nath e jyst penderfynu 'Dwi'n mynd i chwarae pêl-droed', wedyn nath e benderfynu 'Reit fi'n mynd i fynd mewn i reslo'. A jyst achos ei hyder e ac achos oedd e'n angerddol, bod e 'di cael y llwyddiant yma mewn chwaraeon a reslo; a dwi'n credu bod yna wers i blant sy'n darllen y llyfr yma bod rywun wedi jyst penderfynu mynd i wneud y stwff yma.
"Oedd e jyst wedi mynd mas a neud e - so mae hwnna'n wers dda dwi'n credu."
Atgyfodwyd y diddordeb yn y perfformiwr carismataidd ar adeg dengmlwyddiant ei farwolaeth yn 2019 gydag arddangosfa ryngweithiol yn Eisteddfod Llanrwst a thaith ac albwm gysyniadol gan Gai Toms.
Roedd taith yr albwm, Orig, yn cynnwys perfformiadau egnïol mewn leotards a masgiau gyda merch Orig, Tara Bethan, sydd bellach yn perfformio fel Tara Bandito, yn rhan o'r band.
Hefyd o ddiddordeb: