Caniatáu trwsio morglawdd hiraf y DU wedi 'erydiad'
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr Ynys Môn wedi cymeradwyo cais i ailwampio a thrwsio morglawdd hiraf y DU mewn ymgais i'w ddiogelu am genedlaethau i ddod.
Mae porthladd a thref Caergybi yn cael eu cysgodi rhag yr elfennau gan y strwythur rhestredig, sy'n 1.7 milltir o hyd.
Ond yn ôl datblygwyr mae'r drefn cynnal a chadw presennol yn "anghynaladwy" ac "nid yw bellach yn cyfateb i gyfradd yr erydiad i'w sylfeini".
Maen nhw'n chwilio am ganiatâd i wneud gwaith sylweddol ar y strwythur gan rybuddio mai dim ond cynllun o'r fath fyddai'n darparu ateb hirdymor ac yn atal y risg o ddifrod pellach dros y 15 mlynedd nesaf.
Byddai unedau arfwisg newydd, neu flociau sy'n cyd-gloi, yn cael eu defnyddio i amddiffyn y morglawdd a'r strwythurau arfordirol rhag effaith parhaus y tonnau.
Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu gan gwmni Stena Line, gyda aelodau o bwyllgor cynllunio'r Cyngor Môn , dolen allanolyn caniatáu'r cais yn ystod eu cyfarfod brynhawn Mercher.
Ond er hynny mae marc cwestiwn yn parhau dros bwy fydd yn talu am unrhyw waith arfaethedig - fyddai'n debyg o gostio miliynau o bunnoedd.
'Hollbwysig i'r economi'
Gyda Chaergybi yn parhau i fod yn dref borthladd pwysig, mae swyddogion cynllunio yn argymell caniatáu'r cynllun.
Mae'r strwythur ei hun a'r goleudy ym mhen y morglawdd yn adeiladau Rhestredig Gradd II.
Yn ôl yr adroddiad fydd yn cael ei gyflwyno yn ystod cyfarfod brynhawn Mercher, mae'r sylfaen rwbel wedi symud ac erydu dros y blynyddoedd oherwydd ergydion sylweddol gan donnau dros gyfnod o amser.
Ond gyda Chaergybi yn prosesu oddeutu dwy filiwn o ymwelwyr blynyddol yn teithio rhwng y DU ac Iwerddon, disgrifir y porthladd fel "hollbwysig i economi Ynys Môn a gogledd Cymru".
"Pe ganiateir i'r Morglawdd ddirywio, yn y pendraw byddai'n cyflwyno effaith niweidiol i'r Porthladd hyd nes y byddai'n anymarferol ei ddefnyddio," meddai'r adroddiad.
"O ystyried yr uchod, credir ei bod yn hollbwysig adnewyddu strwythur y Morglawdd yng nghyd-destun gwarchod dichonolrwydd y porthladd, ac felly cynnal y cysylltiad ag Iwerddon a'r gallu i groesawu llongau mordeithio i'r rhanbarth."
Pwy fydd yn talu?
Ond er y cais cynllunio, mae perchnogion y safle yn dweud nad ydy'r gyllideb wedi ei chadarnhau eto.
Cyn y cyfarfod dywedodd llefarydd ar ran Stena Line, sydd hefyd wedi cyflwyno'r cais cynllunio, bod trafodaethau yn parhau.
Dywedon nhw: "Mae'r morglawdd yn rhan annatod o seilwaith y porthladd ac yn gofeb hanesyddol bwysig, felly mae'n hanfodol ei adfer.
"Os bydd y (cais am) gyllid yn llwyddiannus, rydym yn gobeithio dechrau ar y gwaith yn 2023."
Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru hefyd bod trafodaethau yn parhau gyda'r cwmni a'r awdurdod lleol ar y mater.
Yn ôl deilydd portffolio datblygu economaidd y cyngor, mae'n debyg y byddai angen cyllideb o'r sector breifat a'r pwrs cyhoeddus er mwyn cwblhau'r gwaith, fydd yn debygol o gostio miliynau.
Dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones wrth Cymru Fyw: "Mae'r morglawdd yn seilwaith sylweddol ac mor bwysig ar gyfer yr harbwr a docio fferis i Gaergybi.
"Felly mae'n hollbwysig ei fod yn cael ei uwchraddio a'i wneud yn addas i'r pwrpas am y 100 mlynedd nesaf a sicrhau pwysigrwydd Caergybi ar gyfer economi Ynys Môn a gogledd Cymru.
"Mae yna risg enfawr os na cheith y morglawdd ei drwsio y gall effeithio'n fawr ar ba mor hyfyw ydy'r porthladd ac unrhyw gynlluniau a all fod yn bosibl ar gyfer y dyfodol.
"Mae'n brosiect sylweddol sydd angen arian mawr gan lywodraeth ganolog a'r sector preifat i'w gwblhau, ond mae'n hollbwysig."
Cefnogaeth unfrydol
Yn y cyfarfod brynhawn Mercher fe gymeradwywyd y cais yn unfrydol, er peth pryder fod y strwythur wedi dirywio i'w stad bresennol.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Llewelyn Jones: "Dwi'n croesawu'r gwaith yma ond mae wir yn biti ei fod wedi cyrraedd y ffasiwn stad.
"Mae'r perchnogion yn gwario £150,000 y flwyddyn ar gynnal a chadw, ond mae'r morglawdd yn 150 oed ac yn rhan hanfodol o Gaergybi. Hebddo fo ni fysa gynnon ni y fferis i Iwerddon.
"Dwi ddim yn gwybod pwy fydd yn talu amdano ond mae mewn stad truenus."
Ychwanegodd y Cynghorydd Jeff Evans: "Mae'n anffodus ei fod wedi dirywio fel ac y mae o ond dwi'n croesawu fod rhywun am wneud rhywbeth amdano.
"Mae'n rhan mawr o'n hanes ond mae'n rhaid i ni gael hyn yn iawn a ni allwn aros fawr hirach."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2019
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019