Annog pobl i gymryd gofal wrth ymweld â Llyn Celyn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Olion Capel Celyn yn dod i'r golwg wedi'r sychder.

Mae Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio pobl i fod yn ofalus pan yn ymweld â Llyn Celyn wedi i rywun fynd yn sownd a suddo ym mwd sych gwely'r llyn.

Wedi'r sychder mae hi'n bosib bellach gweld olion pentref Capel Celyn ger Y Bala.

Ond brynhawn Iau bu'n rhaid i swyddogion achub unigolyn wedi iddo fynd i drafferthion.

Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i gymaint o'r pentref ddod i'r golwg

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Gogledd: "Er bod hyn yn rhan bwysig o'n hanes ac yn safle o ddiddordeb i'w weld, rhaid i ni eich atgoffa chi bod cerdded i lawr y gwely llyn sych yn beryglus iawn.

"Mae gwely sych y llyn yn cynnwys mwd meddal a all fod yn fetrau o ddyfnder mewn mannau a gall pobl fynd yn sownd a suddo'n hawdd.

"Triniwch yr ardal yn ofalus iawn a chyda pharch."

Cafodd y pentref ei foddi yn 1965 er mwyn creu cronfa ddŵr ar gyfer dinas Lerpwl.

Dyma'r tro cyntaf i gymaint o'r pentref ddod i'r golwg.

Pynciau cysylltiedig