Radio Cymru: Cael gwared â Stiwdio yn 'annealladwy o hurt'
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad BBC Radio Cymru i gael gwared ar unig raglen benodol yr orsaf i'r celfyddydau yn "annealladwy o hurt", yn ôl cyfarwyddwr theatr sydd â thros 40 mlynedd o brofiad.
Bydd rhaglen Stiwdio yn dod i ben wrth i amserlen newydd gael ei chyflwyno fis nesaf.
Mae BBC Cymru'n dweud eu bod nhw'n "gwbl ymroddedig i roi sylw haeddiannol i'r celfyddydau yng Nghymru".
Eto i gyd, roedd cyfarwyddwr artistig Cwmni Theatr Arad Goch, Jeremy Turner, yn gwbl ddiflewyn ar dafod wrth roi'i feirniadaeth i raglen Newyddion S4C.
"Mae'r celfyddydau o bob math yn creu ymateb ac yn ennyn dadl weithiau, neu sgwrs, ac mae'n bwysig bod y celfyddydau a'r bobl sy'n creu'r celfyddydau yn cael eu trafod, a bod y gwaith yn cael ei drafod," meddai.
"O glywed bod Radio Cymru'n bwriadu torri'r unig raglen Gymraeg sy'n trafod y celfyddydau'n benodol, mae'n benderfyniad trist iawn dwi'n credu ac yn fy nhyb i yn benderfyniad annealladwy o hurt."
Un o ddarlledwyr mwyaf profiadol Radio Cymru, Nia Roberts, ydy cyflwynydd Stiwdio, ac mae'n gwbl amlwg nad ydy hi'n hapus â'r penderfyniad chwaith.
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Ar ei chyfrif trydar dywedodd ei bod yn "synnu at BBC Cymru'n cael gwared ar yr unig raglen gelfyddydol Gymraeg".
Ychwanegodd ei bod wedi "siomi bod 30 mlynedd o wasanaeth i BBC Radio Cymru'n dod i ben efo ôl-nodyn tila" gan gyfeirio at y cyhoeddiad am yr amserlen newydd gyda'r hwyr.
Dywedodd BBC Cymru na fyddai'n bosib cynnig cyfweliad i Newyddion S4C ond mi ddywedon nhw mewn datganiad fod "BBC Radio Cymru yn gyfan gwbl ymroddedig i roi sylw haeddiannol i'r celfyddydau yng Nghymru".
"Mae'n gwneud hyn ar draws ystod o raglenni, gan gynnwys oriau lawer o ddarlledu bob wythnos - o raglenni fel Aled Hughes, Bore Cothi i Dei Tomos a Dros Ginio - i enwi ond rhai o raglenni Radio Cymru sy'n rhoi llwyfan i'r celfyddydau drwy gyfrwng y Gymraeg.
"Ein bwriad yn y cyfnod nesaf yw ehangu'r ddarpariaeth gelfyddydol a chaiff y cynlluniau hynny eu cyhoeddi maes o law."
Un arall sy'n anfodlon â'r bwriad i ddod â rhaglen Stiwdio i ben ydy cyfarwyddwr artistig Theatr Bara Caws, Betsan Llwyd.
"Pan glywson ni roedd hi'n siomedigaeth fawr i ni... dipyn o sioc," meddai.
"Mae'r rhaglen wedi bod yn gonglfaen mewn ffordd, yn rhan o'n busnes ni, felly'n siomedig iawn.
"I'r celfyddydau'n ehangach dwi'n credu bod hi'n rhaglen sy'n rhoi sylw i bob celfyddyd, bob maes celfyddydol.
"Wrth gwrs yn y maes theatr y mae gen i fwyaf o ddiddordeb ynddo fo, ond 'dan ni'n ymwybodol iawn bod y rhaglen yn ymwneud â llyfrau, amgueddfeydd, celf weledol, celf gain - bob math o betha' - a dwi'n credu bod yr ystod eang y mae Stiwdio'n rhoi sylw teilwng iddyn nhw yn anferth ac yn glodwiw iawn.
"Mae 'di bod yn arf marchnata gwych i ni... mae 'na lot fawr o bobl yn gwrando ar raglen Stiwdio ac wedyn yn prynu tocynnau yn sgil clywed am yr arlwy sydd yn digwydd."
Ychwanegodd ei bod yn meddwl y byddai carfannau gwahanol o'r sector gyfan yn llunio llythyrau ar y cyd, gan alw ar BBC Radio Cymru i warchod y ddarpariaeth ar gyfer y celfyddydau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Awst 2022
- Cyhoeddwyd19 Awst 2022
- Cyhoeddwyd3 Awst 2022