Carchar Berwyn: Trais, gofal iechyd a diffyg staff yn bryder

  • Cyhoeddwyd
BerwynFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Carchar Berwyn ger Wrecsam ei agor yn 2017

Mae angen gwelliannau pellach yng Ngharchar Berwyn yn Wrecsam, bum mlynedd ers ei agor yn 2017, yn ôl yr Arolygaeth Carchardai.

Mae adroddiad newydd yn nodi 11 pwynt lle mae angen gwelliannau gan ddweud bod lefelau trais yn y carchar dal yn rhy uchel.

Carchar Berwyn ydy un o garchardai mwyaf gwledydd Prydain, gan gartrefu tua 1,835 o garcharorion pan gynhaliodd yr Arolygaeth Carchardai ymchwiliad ym mis Mai 2022.

Er y feirniadaeth, mae'r adroddiad yn nodi bod yr arweinyddiaeth yn gadarn a bod lefelau trais a hunan-niweidio wedi gostwng ers 2019.

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o faterion sydd angen eu blaenoriaethu gan nodi:

  • Mae cleifion yn y carchar yn gorfod aros yn rhy hir i gael mynychu clinig, gyda rhai yn gorfod aros 12 mis;

  • Dydy "llawer gormod" o garcharorion ddim yn cael digon o amser i wneud gweithgareddau, a dim digon o amser y tu allan i'w celloedd;

  • Nodir nad oes digon o lefydd ar gael ar gyfer cymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol a gwaith;

  • Mae presenoldeb carcharorion mewn gweithgareddau addysg, hyfforddiant a gwaith yn sâl - yn aml dim ond 60% o garcharorion sy'n bresennol mewn gweithgareddau sydd wedi'u trefnu ar eu cyfer;

  • Mae diffyg staff yn effeithio ar y gallu i gyflawni rhai gwasanaethau fel rhan o'r gwaith i weddnewid ymddygiad carcharorion.

Ymhlith y materion eraill sy'n cael eu hamlygu yn yr adroddiad mae lefelau trais ac hunan-anafu - nodir bod y lefelau dal yn rhy uchel.

Mae'r adroddiad yn dweud bod nifer o garcharorion wedi eu cymryd oddi ar feddyginiaethau gwrth-seicotig neu feddyginiaethau i drin salwch meddwl a bod eu cyflyrau wedi dirywio yn sgil hynny.

Dydy'r system cofnodi cwynion carcharorion ddim yn llawn effeithiol, meddai'r ddogfen, ac mae'r system i fonitro galwadau ffôn a llythyrau "yn llanast".

Nodir hefyd nad oes digon o garcharorion yn deall pam eu bod nhw wedi cael eu clustnodi ar gyfer gweithgareddau addysg, hyfforddiant a gwaith a bod nifer a safon sesiynau rheoli gyda charcharorion ddim yn ddigon da.

Rheolaeth yn 'ddigonol'

Er bod lle i wella eto, mae'r adroddiad yn dweud bod arweinyddiaeth y carchar yn effeithiol, bod lefelau trais ac hunan-anafu yn gostwng o'i gymharu â phan gynhaliwyd archwiliad blaenorol yn 2019.

Maen nhw'n dweud hefyd bod Carchar Berwyn yn garchar sy'n cael ei redeg mewn ffordd "ddigonol" gydag arweinyddiaeth "gadarn".

Yn sgil hynny, dywed yr arolygaeth bod ganddynt ffydd yn nyfodol y carchar a'r gobaith ydy y bydd yr 11 pwynt o bryderon a godwyd yn fodd i gefnogi rheolwyr i symud ymlaen.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai: "Mae trais ac hunan-niweidio wedi gostwng yng Ngharchar Berwyn ac rydyn ni'n cynyddu niferoedd staff drwy gynllun arloesol sy'n anelu at recriwtio graddedigion i'r gwasanaeth.

"Rydym yn hyderus y bydd rhagor o waith adfer yn digwydd nawr bod cyfyngiadau oedd yn cadw staff a charcharorion yn ddiogel yn ystod y pandemig wedi llacio."