Agor cwest wedi marwolaeth Anna Llewelyn Roberts o Bwllheli

  • Cyhoeddwyd
Anna Roberts a'i theuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Anna Roberts (dde) gyda'i phartner Iwan a'u merch Erin

Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth mam ifanc o Bwllheli, Gwynedd, ar 20 Awst.

Bu farw Anna Llewelyn Roberts, 27, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a cherddwr ar lôn yr A499 ger y Ffôr, yn oriau mân y bore.

Fe gafodd Ms Roberts ei disgrifio fel "person arbennig iawn" gan ei theulu mewn teyrnged wedi'r gwrthdrawiad.

Clywodd gwrandawiad agoriadol y cwest yng Nghaernarfon ddydd Mawrth fod Heddlu Gogledd Cymru wedi derbyn galwad gan y Gwasanaeth Ambiwlans, a bod Ms Roberts wedi marw yn y fan a'r lle.

Cafodd post mortem fforensig ei gynnal gan nodi achos marwolaeth cychwynnol fel "nifer o anafiadau".

Mewn datganiad wedi'r gwrthdrawiad fe ddisgrifiodd teulu Ms Roberts fel "ffrind arbennig iawn".

"Roedd Anna yn gymar, mam, merch, chwaer, wyres a ffrind arbennig iawn," meddai.

"Yn llawn balchder am ei merch fach Erin a'i bywyd yn troelli o'i hamgylch.

"Ei hannwyl gariad Iwan, ei theulu a'i chydweithwyr yn Rondo Media oedd popeth iddi.

"Nid oes unrhyw eiriau nac emosiwn i gyfleu ein colled, ni fydd ein bywydau fyth yr un fath heb Anna."

Fe gafodd y cwest ei ohirio wrth i'r ymchwiliad barhau.

Pynciau cysylltiedig