Ail-fyw cerddoriaeth fyw ar ddiwedd Haf o Gerddoriaeth
- Cyhoeddwyd
Wrth i Haf o Gerddoriaeth ddod i ben daeth llu o artistiaid i berfformio'n fyw ar BBC Radio Cymru - a nawr gallwch ail-fyw'r sesiynau a setiau bandiau ym mhrif wyliau Cymru ar BBC Sounds.
Ar Ddiwrnod Cerddoriaeth Fyw ar 7 Medi roedd artistiaid fel Bwncath, Côr y Penrhyn, Sage Todz, Trystan Llŷr, Eve Goodman a Iona ac Andy yn cael eu darlledu'n fyw ar raglenni'r sianel.
Roedd y cyfan yn ddiweddglo i Haf o Gerddoriaeth, pan gafodd nifer o berfformiadau o wyliau cerddorol Cymru, yn cynnwys Gŵyl Triban, Tafwyl, Sesiwn Fawr Dolgellau a'r Eisteddfod Genedlaethol, eu darlledu gan Radio Cymru.
Mae'r cyfan, yn cynnwys Diwrnod Cerddoriaeth Fyw BBC Cymru, nawr ar gael yma ar BBC Sounds.
Hefyd o ddiddordeb: