Amddiffyn penderfyniad i ohirio gemau pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Bechgyn yn chwarae pêl-droedFfynhonnell y llun, matimix

Mae pennaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi amddiffyn penderfyniad i ohirio holl gemau'r penwythnos yn dilyn marwolaeth y Frenhines.

Ni chwaraewyd unrhyw gemau dros y Sul er cof am Elizabeth II, gan effeithio ar bob lefel o'r gêm yng Nghymru.

Ond mae rhai wedi cwestiynu gohirio gemau plant a llawr gwlad, er bod sawl gêm rygbi wedi eu chwarae.

Mae prif weithredwr y gymdeithas bêl-droed, Noel Mooney, wedi cadarnhau y bydd gemau'n ailddechrau yng Nghymru ddydd Mawrth.

'Sefyllfa unigryw'

Roedd canllawiau galaru cenedlaethol Llywodraeth y DU yn cynghori nad oedd canslo gemau neu ddigwyddiadau yn orfodol, gan adael y penderfyniad i'r campau eu hunain.

Ond penderfynodd holl gymdeithasau pêl-droed y DU ohirio gemau, er i Gymdeithas Bêl-droed Yr Alban ganiatáu chwarae rhai gemau tu allan i'r prif gynghreiriau proffesiynol.

Yng Nghymru, ni chwaraewyd unrhyw gemau ar unrhyw lefel, o'r Cymru Premier i'r haenau isaf a phêl-droed plant.

Ar Twitter dywedodd cyn-chwaraewr Cymru, Joe Ledley, nad oedd yn "gwneud unrhyw synnwyr", a bod plant angen trefn arferol, ymarfer corff a chymdeithasu.

Ond er gohirio gemau rygbi proffesiynol, aeth eraill yn eu blaenau - gan gynnwys gemau i'r rhai dan 18 oed.

Daeth cadarnhad gan Undeb Rygbi Cymru y byddai gemau'n cael ailddechrau o 12 Medi, gydag awgrym y dylid cynnal dwy funud o dawelwch a bandiau braich du'n cael eu gwisgo.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Mei Emrys

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Mei Emrys

Daeth penderfyniad i ohirio pêl-droed o dan y lach gan sawl cefnogwr yng Nghymru, gyda thrafod brwd ar y gwefannau cymdeithasol.

Ond yn ymateb ar BBC Radio Wales fore Llun cadarnhaodd Mr Mooney y bydd gemau'n ailddechrau o ddydd Mawrth ymlaen.

"Roedd yn sefyllfa unigryw i ni oherwydd nad ydym erioed wedi adnabod brenhines arall, felly roedd yn dir newydd i unrhyw gamp," meddai.

"Gyda phêl-droed, ni yw'r gamp sy'n cael ei chwarae fwyaf yng Nghymru ac rydym yn ymwybodol iawn o'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm â ​​hynny.

"Nid oes unrhyw gamp arall sydd â'r un nifer o gemau neu dimau, a'r holl logisteg wahanol sy'n cyd-fynd â hynny.

"Fore Gwener roedd ganddon ni glybiau oedd yn chwilio am sicrwydd oherwydd eu bod yn teithio nos Wener. Roedden nhw'n edrych am bendantrwydd.

"Wnaethon ni sylweddoli bod yr Uwch Gynghrair a'r Gynghrair Bêl-droed [yn Lloegr] yn cael eu canslo'n gyflym felly roedd yn rhaid i ni wneud penderfyniad ar y pryd."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Noel Mooney ydy prif weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru

Ychwanegodd: "Rydym yn deall yn iawn os oedd yna blant a fyddai wedi hoffi chwarae dros y penwythnos.

"Mae gennym ni slogan 'Gyda'n Gilydd yn Gryfach' a doedden ni ddim yn credu mewn gwahanu pobl.

"Fyddai o ddim wedi bod yn deg pe byddech chi'n 19 oed y gallech chi chwarae ond os oeddech chi'n 18, ni allech chi, neu i'r gwrthwyneb.

"Doedden ni ddim yn credu yn hynny... fe wnaethon ni benderfyniad pendant fore Gwener."

'Y peth iawn i'w wneud'

Aeth ymlaen i ddweud: "Mae gennym ni tua 40 wythnos o bêl-droed y flwyddyn, ac nid yw'n debyg i gystadleuaeth yr Ironman [yn Sir Benfro] lle mae ganddyn nhw un y flwyddyn, felly dwi'n deall pam aeth hwnnw yn ei flaen.

"Fe wnaethon ni edrych ar ein hamserlen, gallem amsugno penwythnos yn hawdd ac roeddem yn teimlo mai dyna oedd y peth iawn i'w wneud."

Mae Wrecsam, sy'n chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol ym mhyramid Lloegr, eisoes wedi cadarnhau y bydd eu dwy gêm gynghrair yr wythnos hon yn mynd yn eu blaenau.

Mae Cynghrair Bêl-droed Lloegr hefyd wedi cadarnhau y bydd eu gemau nhw yn ailddechrau ddydd Mawrth, gyda Chaerdydd, Abertawe a Chasnewydd yn chwarae'r noson honno.

Bydd rhai timau o Loegr yn chwarae yng nghystadlaethau Ewrop yr wythnos hon, ond ni fydd yn bosib cynnal y gêm rhwng Arsenal a PSV Eindhoven yn Llundain nos Iau oherwydd "diffyg adnoddau'r heddlu" yn sgil marwolaeth Elizabeth II.

Fe fydd Uwchgynghrair Lloegr yn ailddechrau'r penwythnos hwn, ond gyda gemau Lerpwl yn Chelsea a Leeds yn Manchester United wedi'u gohirio "oherwydd digwyddiadau'n ymwneud ag angladd y Frenhines".