'Braint' croesawu arch y Frenhines i Neuadd Westminster

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Bu'r Arglwydd John Morris yn hel atgofion am Frenhines Elizabeth II yn dilyn ei marwolaeth

"Braint" yw cael derbyn corff y Frenhines Elizabeth II yn swyddogol i Neuadd Westminster, yn ôl y cyn-Dwrnai Cyffredinol yr Arglwydd John Morris.

Roedd yn un o nifer o aelodau Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin yno, a dywedodd y bydd hefyd yn mynd i ail ran angladd y Frenhines hefyd.

Ar ôl teithio o'r Alban i Lundain nos Fawrth, fe wnaeth yr arch adael Palas Buckingham i deithio i Neuadd Westminster brynhawn Mercher.

Bydd corff y Frenhines yn gorffwys yn gyhoeddus yno am bedwar diwrnod tan yr angladd ddydd Llun.

Fe wnaeth yr Arglwydd Morris gwrdd â'r Frenhines sawl gwaith, a dywedodd bod ganddi'r ddawn o fod yn "ffurfiol ac anffurfiol".

Roedd yn cofio un achlysur wrth deithio ar awyren o Gaernarfon i Lundain tra'n eistedd drws nesaf i'r Frenhines.

"Fe holodd hi fi'n fanwl ac yn gwrtais am y tri chwater awr y parodd y siwrnai am fy mholisïau," eglurodd yr Arglwydd Morris.

"Roedd ganddi ddiddordeb byw yn beth oedd yn digwydd o'i chwmpas."

Ef oedd hefyd yn goruchwylio dathliadau Jiwbilî Arian y Frenhines yng Nghymru.

"Rwy'n meddwl mai'r amser gorau gafodd hi oedd awr fach dawel yng Ngerddi Bodnant yng nghanol y blodau heb neb i darfu arni," dywedodd.

Mae'n cofio'r Frenhines Elizabeth II fel rhywun oedd yn "agos iawn atoch chi".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr Arglwydd John Morris (canol) a'r Frenhines wrth agor y Cynulliad yn swyddogol ar 26 Mai 1999

Un peth pwysig iawn, yn ôl yr Arglwydd Morris, oedd y ffaith ei bod yn dod i bob eisteddiad o'r Senedd yn San Steffan ar ôl etholiad.

Roedd hyn yn rhoi "statws state opening i'r Senedd", meddai, gan ychwanegu ei fod hefyd wedi ei blesio a'i galonogi gan areithiau cyntaf y Brenin Charles yn dilyn marwolaeth ei fam.

"Rwy' wedi sylwi hefyd fod y Brenin Charles wedi sôn yn ei areithiau am bwysigrwydd y trefniant cyfansoddiadol yma ac roeddwn i yn falch iawn i glywed hynny," meddai.

Ffynhonnell y llun, HENRY NICHOLLS
Disgrifiad o’r llun,

Roedd aelodau'r Teulu Brenhinol yn cerdded y tu ôl arch y Frenhines wrth deithio o Balas Buckingham i Neuadd Westminster

Disgrifiad o’r llun,

Yn eu plith oedd Tywysog Cymru a'i frawd y Tywysog Harry

Ddydd Mercher fe wnaeth arch y Frenhines adael Palas Buckingham i deithio i Neuadd Westminster.

Cafodd yr arch ei chludo yno gyda'r Brenin a rhai aelodau o'r Teulu Brenhinol, gan gynnwys Tywysog Cymru, yn cerdded tu ôl iddi.

Cafodd gynnau eu tanio yn Hyde Park trwy gydol y daith.

Bydd pobl yn gallu dod i weld yr arch mewn mannau gwylio seremonïol ar hyd y daith.

Yn ystod cyfnod o orffwys cyhoeddus y Frenhines yn Neuadd Westminster bydd aelodau'r cyhoedd yn gallu ymweld 24 awr y dydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Turner-Smith yn bwriadu ymweld â'r arch yn Neuadd Westminster ddydd Iau

Mae John Turner-Smith o Landybie, ond sydd bellach yn byw yn Llundain, yn un sydd yn bwriadu ymweld â'r arch i dalu teyrnged i'r Frenhines.

"Fi 'di clywed wrth gwrs bod mynd i fod ciwio am oriau i weld yr arch," dywedodd.

"Dwi'n mynd i ddechrau ciwio rywbryd fore dydd Iau dwi'n meddwl, 05:00 dwi'n bwriadu bod 'na gyda fy fflasg o goffi a brechdanau cyn i fi fynd i'r gwaith."

Dywedodd bod ei weithle wedi rhoi'r hawl iddo a'i gydweithwyr fynd i weld yr arch a thalu teyrnged os ydynt yn dymuno.