Cyhoeddi cynlluniau ar gyfer gwahardd bagiau siopa untro
- Cyhoeddwyd
Bydd cynlluniau ar gyfer gwahardd bagiau siopa untro a gwellt yfed plastig yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi gan y Gweinidog Newid Hinsawdd ddydd Mawrth.
Bydd Julie James yn cadarnhau bwriad yn y Senedd i wahardd platiau untro plastig, cyllyll a ffyrc, trowyr (stirrers) a ffyn cotwm (cotton buds) hefyd.
Dywedodd fod yn rhaid i Gymru "osgoi gadael etifeddiaeth wenwynig" i genedlaethau'r dyfodol.
Mae gweddill y Deyrnas Unedig eisoes yn gwahardd gwellt plastig, ffyn cotwm a throwyr, ond does dim un o'r pedair gwlad wedi atal gwerthu bagiau plastig untro eto.
Dywed Llywodraeth Cymru bod deddfwriaeth ôl-Brexit wedi cymhlethu cyflwyno'r ddeddf newydd oedd i fod i ddod i rym yn 2021 yn wreiddiol.
Byddai'r gyfraith Gymreig newydd yn ei gwneud yn drosedd i gyflenwi neu gynnig cyflenwi'r hyn y mae gweinidogion yn ei alw'n "blastigau untro a diangen".
Bydd y mesur drafft, a fydd nawr yn cychwyn ar y broses graffu seneddol ofynnol cyn y gall ddod yn gyfraith, hefyd yn rhoi pwerau i gynghorau lleol orfodi'r gwaharddiad ar eitemau plastig untro gan gynnwys:
cyllyll a ffyrc, platiau a throwyr;
gwellt yfed (gydag eithriad ar gyfer anghenion meddygol neu ofal);
ffyn cotwm;
ffyn balŵn;
cynwysyddion tecawê polystyren, cwpanau a chaeadau;
bagiau siopa plastig tenau untro.
Daw'r rhestr yn dilyn ymgynghoriad yn 2020 ac mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod yna ddewisiadau di-blastig neu rai y gellir eu hailddefnyddio yn lle'r holl gynhyrchion.
Byddai fferyllwyr yn cael gwerthu gwellt at ddibenion meddygol a gofal.
Fe allai unrhyw un arall sy'n darparu'r eitemau dan sylw wynebu dirwy, ac fe fyddai gan gynghorau hawl i gynnal cyrchoedd ar safleoedd busnesau.
Fe fydd y newidiadau cyfreithiol yn caniatáu i weinidogion ychwanegu a dileu eitemau i'r rhestr o bethau sydd wedi eu gwahardd, os yw'r newidiadau'n cael cymeradwyaeth Senedd Cymru.
Ym mis Mehefin, fe ddywedodd Julie James wrth bwyllgor newid hinsawdd y Senedd ei bod yn ystyried gwahardd cadachau gwlyb (wet wipes) plastig hefyd.
Ond dyw'r mesur drafft ddim yn cyfeirio at rheiny o gwbl, sy'n awgrym y bydd gwaharddiad arnyn nhw'n cael ei ystyried yn y dyfodol.
"Mae cynhyrchion plastig untro yn aml i'w gweld yn sbwriel ar ein strydoedd, ein parciau a'n moroedd," meddai Ms James.
"Nid yn unig maen nhw'n hyll, ond maen nhw'n cael effaith ddinistriol ar ein bywyd gwyllt a'n hamgylchedd.
"Gydag ymdrech Tîm Cymru, mae'n rhaid i ni ddweud 'na' wrth y diwylliant eitem untro, fel rydym yn osgoi gadael etifeddiaeth wenwynig o blastig i genedlaethau'r dyfodol ddelio ag ef."
Cymru oedd y rhan gyntaf o'r DU i'w gwneud yn ofynnol i fanwerthwyr godi tâl am fagiau siopa untro yn 2011. Rhaid rhoi'r tâl o 5c i elusen.
'Llusgo traed'
Ym ymateb i'r cyhoeddiad dywedodd llefarydd ar ran y corff sy'n cynrychioli 22 awdurdod lleol Cymru, Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru, eu bod yn cefnogi'r egwyddor o leihau'r defnydd o blastig.
"Mae cynghorau'n cydnabod y niwed i'r amgylchedd a achosir gan sbwriel o'r eitemau bob dydd hyn, felly rydym yn gefnogol i'r nod o leihau eu defnydd a lliniaru'r niwed hwnnw yn enwedig i'r amgylchedd morol trwy wahardd eu defnydd. Mae llwybr tebyg yn cael ei ddilyn yn yr Alban a Lloegr."
"Dylai unrhyw waith gorfodi fod yn gymesur ac yn effeithiol a chanolbwyntio ar ymgysylltu ac addysg yn y lle cyntaf. Bydd hyn yn gofyn am adnoddau ychwanegol i'w cyflawni'n briodol y bydd CLlLC yn tynnu sylw'r Senedd atynt fel rhan o'r adolygiad o'r Bil.
"Yn y tymor hir, fel arfer bydd gorfodaeth yn digwydd pan fydd y cyngor yn derbyn cwyn y mae angen ymchwilio iddi."
Ond cyhuddwyd Lywodraeth Cymru o "lusgo eu traed" gan lefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar newid hinsawdd.
Dywedodd Janet Finch-Saunders AS: "Mae hyn yn nodweddiadol o Lafur - yn hwyr eto ac yn mynd ar ôl penawdau.
"Mae'r gwaharddiad ar werthu plastigion untro eisoes wedi'i weithredu yn Lloegr a'r Alban, tra bod gweinidogion Llafur newydd benderfynu dechrau pasio deddfwriaeth.
"Pryd fydd gweinidogion Llafur yn rhoi'r gorau i lusgo'u traed ar faterion amgylcheddol ac yn wynebu'r ffaith bod eu hoedi yn niweidio Cymru?"
Oes angen mynd gam ymhellach?
Yn ôl yr ymgynghorydd amgylcheddol Rebecca Colley-Jones, mae'n rhaid ystyried a yw gwahardd plastigion un defnydd ynddo'i hun yn mynd yn ddigon pell, ynteu a "ddylen nhw edrych yn fwy manwl ar betha' un defnydd yn gyffredinol".
Mae yna beryg, meddai, i rai daflu cyllyll a ffyrc bambŵ neu bren i'r bin ar ôl eu defnyddio unwaith, am fod newid diwylliant a pherswadio'r cyhoedd i gario pethau fel cwpanau, cyllyll a ffyrc efo nhw ym mhobman yn anoddach i'w wireddu na gwaharddiad.
Dywedodd ar raglen Dros Frecwast bod pobl "wedi dechra' arfer mynd â cwpan coffi efo nhw" cyn y pandemig, ac mai dim ond nawr mae hi'n "gweld bod pobl yn dechra' mynd yn ôl i'r behaviours yna".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2021
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd16 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2019