Y Tywysog a'r Gymraeg: 'Neb yn disgwyl gwyrthiau'

  • Cyhoeddwyd
Y Tywysog WilliamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog William yw tywysog newydd Cymru yn sgil esgyniad ei dad, Brenin Charles III

Bydd neb yng Nghymru'n "disgwyl gwyrthiau" ac i dywysog newydd Cymru feistroli'r Gymraeg dros nos, yn ôl Prif Weinidog Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford hefyd bod y Tywysog yn "dymuno ymgymryd â'i ddyletswyddau newydd yn raddol".

Mewn ymateb i adroddiadau o brotestiadau posib ddydd Gwener yn ystod ymweliad cyntaf Charles III â Chymru fel brenin, ychwanegodd bod hawl gyfreithiol i bobl wneud hynny ond nad hon yw'r wythnos i gynnal dadleuon ynghylch y frenhiniaeth.

Roedd Mr Drakeford eisoes wedi cadarnhau iddo gael sgwrs ffôn gyda'r Tywysog William wedi cyhoeddiad y Brenin Charles yn ei anerchiad cyntaf i'r genedl, oriau wedi marwolaeth y Frenhines Elizabeth, bod teitl Tywysog Cymru'n trosglwyddo i'w fab.

"Rwy'n meddwl y bydd tywysog newydd Cymru eisiau cymryd amser i sefydlu ei hun yn y rôl yna a phenderfynu ble gallai wneud y cyfraniad mwyaf i greu Cymru lwyddiannus yn y dyfodol," dywedodd Mr Drakeford ddydd Gwener ar raglen Today.

Dywedodd y byddai pobl yn deall ac yn "gwerthfawrogi" unrhyw ddiddordeb gan y Tywysog yn y Gymraeg, ond bod dysgu'r iaith fel oedolyn yn gallu bod yn "her".

"Dydw i ddim yn meddwl y bydd unrhyw un yn disgwyl i unrhyw un ddod yn rhugl yn sydyn yn y Gymraeg," meddai. "Bydd neb yn disgwyl gwyrthiau."

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch protestiadau posib, atebodd Mr Drakeford: "Mae gan bobl hawl gyfreithiol i brotestio ac mae yna amrywiaeth barn.

"Yn bersonol, dydw i ddim yn meddwl taw dyma'r wythnos y mae angen i'r ddadl honno godi.

"Ond mae gan bobl yr hawl yna ac fe fydd yn cael ei ddefnyddio, gyda rheolaeth, ac fe fydd yn droednodyn i ymdeimlad pennaf y dydd."