Ymestyn cynllun prydau bwyd ysgol yn ystod gwyliau
- Cyhoeddwyd

Fe wnaeth y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles y cyhoeddiad yn siambr Senedd Cymru ddydd Mawrth
Bydd prydau bwyd am ddim yn ystod gwyliau ysgol ar gael i blant sy'n gymwys hyd at ddiwedd hanner tymor mis Chwefror 2023.
Cafodd y ddarpariaeth ar gyfer prydau yn ystod gwyliau ysgol ei gyhoeddi am y tro cyntaf mewn ymateb i'r pandemig yn 2020.
Roedd eisoes wedi'i ymestyn hyd at wyliau'r haf eleni.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Jeremy Miles bod £11m ar gael i'w ymestyn ymhellach tan hanner tymor y gwanwyn nesaf.
Mae'r penderfyniad wedi ei wneud mewn partneriaeth â Phlaid Cymru oherwydd y "costau byw cynyddol", meddai.
Gwnaeth y gweinidog y cyhoeddiad yn siambr y Senedd mewn datganiad ar gyflwyno prydau ysgol am ddim cyffredinol i bob disgybl cynradd, sy'n gynllun ar wahân.
Mae undeb addysg NEU Cymru wedi croesawu'r cyhoeddiad diweddaraf.

Sian Gwenllian AS: 'Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i gefnogi teuluoedd ar hyn o bryd'
Dywedodd Sian Gwenllian, Aelod Dynodedig Plaid Cymru: "Mae'r argyfwng costau byw yn gwaethygu, ac mae teuluoedd yn poeni'n fawr am yr wythnosau a'r misoedd i ddod.
"Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn i gefnogi teuluoedd ar hyn o bryd, yn enwedig y rhai y mae costau cynyddol yn effeithio fwyaf difrifol arnynt.
"Yn ogystal â'n hymrwymiad ar y cyd i sicrhau bod pob plentyn cynradd yn cael pryd ysgol am ddim, bydd y cymorth estynedig yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i deuluoedd incwm isel yn ystod gwyliau'r ysgol.
"Mae'r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cynnig cefnogaeth sy'n fawr ei angen i deuluoedd er mwyn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael y dechrau gorau mewn bywyd."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Medi 2022