'Preifateiddio' Plas Menai ger Caernarfon yn 'siom'
- Cyhoeddwyd
Mae dau wleidydd o Wynedd wedi mynegi eu "siom" yn sgil cyhoeddiad y bydd canolfan awyr agored Plas Menai ger Caernarfon yn cael ei drosglwyddo i gwmni preifat.
Ym mis Mehefin, fe wadodd Chwaraeon Cymru - perchnogion y safle - y byddai Plas Menai, neu Canolfan Awyr Agored Genedlaethol Cymru, yn cael ei breifateiddio.
Ond, yn dilyn proses o chwilio am "bartner gweithredu" i gymryd rheolaeth o'r safle, mae wedi ei gadarnhau mai cwmni Parkwood Leisure fydd hwnnw.
Dywedodd llefarydd y byddai Parkwood yn rhedeg y ganolfan o ddydd i ddydd am gyfnod o 10 mlynedd o 30 Ionawr, 2023, yn dilyn "proses gaffael helaeth".
Mewn datganiad dywedodd Chwaraeon Cymru mai'r nod yw sicrhau "dyfodol cynaliadwy yn y tymor hir, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i bobl fwynhau'r cyfleuster ac arfordir trawiadol gogledd Cymru".
Ond yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Arfon, mae'r penderfyniad yn "siomedig" o ystyried y gwrthwynebiad sydd wedi bod "ers y cychwyn".
Ychwanegodd Hywel Williams AS mai "hwn oedd y penderfyniad anghywir gan fod y math hwn o fodel busnes bron bob amser yn arwain at lai o atebolrwydd, safonau gwasanaeth a hawliau gweithwyr anghyson".
"Mae cyhoeddiad heddiw [ddydd Mawrth] yn codi sawl pryder a fydd yn rhaid i Parkwood Leisure eu hateb yn llawn."
Fe alwodd am sicrwydd y bydd hawliau gweithwyr yn cael eu diogelu.
Effaith ar ddarpariaeth Gymraeg?
Ychwanegodd aelod Plaid Cymru dros Arfon yn Senedd Cymru, Sian Gwenllian, ei bod hithau hefyd yn "hynod siomedig" am y penderfyniad.
"Dwi'n gobeithio mai nad dechrau ar breifateiddio cyfleusterau hamdden gan Chwaraeon Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yw hyn", meddai.
Wrth alw am ragor o wybodaeth am gynlluniau tymor hir Parkwood Leisure, fe gododd bryderon am yr effaith ar ddarpariaeth y Gymraeg hefyd.
"Oes unrhyw ystyriaeth wedi bod am yr effaith y bydd y preifateiddio hyn yn cael ar y ddarpariaeth a hyrwyddo gwasanaethau iaith Gymraeg o fewn y ganolfan?
"A oes gan y cwmni rheoli bolisi iaith Gymraeg mewn lle - un sydd yn gadarn o ran amddiffyn a hyrwyddo'r iaith mewn amgylchedd gwaith?"
Ychwanegodd, "Mae'n debyg fod angen edrych o ddifri ynglŷn a dyfodol tymor hir Plas Menai a chael cynllun sy'n golygu fod y ganolfan yn cae ei defnyddio ar hyd y flwyddyn, ond does bosib fod ffordd arall o gwmpas hyn?
"Dwi ddim yn derbyn bod rhaid i gwmni preifat ddod i fewn i wneud y gwaith, mi fydda cynllun busnes ar gyfer model gwahanol yn gwbl bosib o dan yr amgylchiadau presennol."
'Arbenigedd ychwanegol'
Mewn datganiad dywedodd Chwaraeon Cymru y byddant yn parhau i fod yn berchen ar yr adeiladau a'r tir.
"Bydd grŵp partneriaeth strategol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru, Parkwood Leisure a staff sy'n gweithio ym Mhlas Menai yn monitro perfformiad y bartneriaeth.
"Yn ogystal â thyfu a gwella'r gwasanaethau presennol mae'n rhaid i'r bartneriaeth ddiogelu telerau ac amodau cyflogaeth staff."
Dywedodd Graham Williams, cyfarwyddwr yn Chwaraeon Cymru: "Mae Parkwood yn amlwg yn deall pa mor bwysig yw Plas Menai i Chwaraeon Cymru ac mae eu hanes o gydweithio i wella a darparu gwasanaethau yng Nghymru a thu hwnt yn nodedig.
"Mae Plas Menai eisoes yn ddarparwr gweithgareddau awyr agored byd-enwog gyda staff balch ac angerddol a does gen i ddim amheuaeth y bydd yr arbenigedd ychwanegol a ddaw gyda Parkwood Leisure yn arwain at fwy o bobl yn mwynhau popeth sydd gan Blas Menai i'w gynnig.
"Rydw i'n gyffrous i weld yr hyn y gallwn ni ei gyflawni gyda'n gilydd."
Ychwanegodd Brian Davies, prif weithredwr dros-dro Chwaraeon Cymru: "Da' ni'n deall fod pryderon am amodau gwaith staff ond hefyd yr iaith, ond be rydan ni wedi'i wneud gyda Parkwood yw sicrhau amodau gwaith y staff, sy'n eitha' unigryw mewn sefyllfa fel hyn.
"Ni'n blês iawn gyda hwnna ac mae'r iaith yn bwysig iawn i Chwaraeon Cymru. Fel corff cyhoeddus mae'n rhaid i ni wneud ein gorau glas dros yr iaith, a fydd hwnna yn y cytundeb gyda Parkwood.
"Bydd yn parhau fel cyfleuster Cymraeg, cenedlaethol pwysig iawn fydd yn ddwyieithog."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2022