Siwan Lillicrap i arwain Cymru yng Nghwpan y Byd

  • Cyhoeddwyd
Siwan LillicrapFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Siwan Lillicrap wedi bod ar y fainc ar gyfer y ddwy gêm ddiwethaf i Gymru

Mae carfan merched Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd wedi cael ei gyhoeddi, gyda'r wythwr Siwan Lillicrap yn gapten.

Y canolwr Hannah Jones fu'n arwain Cymru yn y ddwy gêm ddiwethaf yn erbyn Canada a Lloegr, gyda Lillicrap ar y fainc ar gyfer y ddwy.

Jones fydd is-gapten y garfan o 32 o chwaraewyr sydd wedi'i ddewis gan y prif hyfforddwr Ioan Cunningham.

Bydd Cymru yn dechrau'r gystadleuaeth yn Seland Newydd yn erbyn Yr Alban ar 9 Hydref.

Yna fe fyddan nhw'n herio Seland Newydd ar eu tomen eu hunain, cyn eu gêm olaf yn y grŵp yn erbyn Awstralia ar 22 Hydref.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Jones fydd is-gapten y garfan o 32 o chwaraewyr

Bydd y gemau'n cael eu chwarae dros nos neu'n gynnar iawn yn y bore amser Cymru.

12 tîm sydd yn y gystadleuaeth, gyda'r ddau uchaf yn y tri grŵp a dau o'r timau yn y trydydd safle yn gwneud yr wyth olaf.

Bydd 19 o'r 32 sydd yn y garfan yn ymddangos yng Nghwpan y Byd am y tro cyntaf, ond mae digon o brofiad hefyd, gyda Sioned Harries, Elinor Snowsill a Caryl Thomas eisoes wedi chwarae mewn tair o'r pencampwriaethau.

Y garfan yn llawn

Blaenwyr: Alisha Butchers, Alex Callender, Gwen Crabb, Georgia Evans, Kat Evans, Abbie Fleming, Cerys Hale, Sioned Harries, Cara Hope, Natalia John, Kelsey Jones, Bethan Lewis, Gwenllian Pyrs, Donna Rose, Siwan Lillicrap (capt), Carys Phillips, Caryl Thomas, Sisilia Tuipulotu.

Olwyr: Keira Bevan, Lleucu George, Hannah Jones, Jasmine Joyce, Kerin Lake, Lisa Neumann, Ffion Lewis, Lowri Norkett, Kayleigh Powell, Elinor Snowsill, Niamh Terry, Megan Webb, Robyn Wilkins, Carys Williams-Morris.