'Dim arwisgiad tebyg i 1969' - Palas Buckingham

  • Cyhoeddwyd
Y Tywysog William a Catherine yn cwrdd â chynrychiolwyr lleol tu allan i orsaf bad achub Caergybi ddydd Mawrth
Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog William a Catherine yn cwrdd â chynrychiolwyr lleol tu allan i orsaf bad achub Caergybi ddydd Mawrth

Mae Palas Buckingham wedi dweud na fydd arwisgiad tebyg i'r un fuodd yng Nghastell Caernarfon yn 1969 yn dilyn dyfodiad William fel Tywysog Cymru.

Daw'r sylwadau wrth i'r Tywysog William a Catherine ymweld â Chymru am y tro cyntaf yn eu swyddi newydd.

Mae'r ymweliad ddydd Mawrth yn cynnwys teithiau i Gaergybi yn Ynys Môn - lle cafodd y cwpl eu cartref cyntaf - yn ogystal ag Abertawe.

Yn ei araith gyntaf ar ôl dod yn Frenin yn dilyn marwolaeth y Frenhines Elizabeth II, fe gyhoeddodd Charles III y byddai ei fab William yn ei olynu fel Tywysog Cymru.

Mae'r cyhoeddiad wedi achosi dicter ymhlith rhai sy'n galw am ddileu'r teitl, gan ddweud ei fod yn symbol o ormes.

Mae'r Palas yn dweud eu bod yn awyddus i "adeiladu ymddiriedaeth" a chryfhau eu perthynas â chymunedau.

Ffynhonnell y llun, Paul Ellis/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Theo, 4 oed o Gaergybi, ei ddewis i gwrdd â'r cwpwl brenhinol. Dywedodd ei fam Rebecca Crompton eu bod ar y ffordd i'r ysgol pan benderfynon nhw ddod i weld ychydig o "hanes"

Wrth ymateb i gwestiwn am yr arwisgiad, dywedodd y Palas nad oedd "unrhyw gynlluniau ar gyfer arwisgo eto" ac nad oedd "unrhyw gynlluniau ar gyfer unrhyw beth fel oedd gan ei dad".

"Mae nawr yn ymwneud â dyfnhau ymddiriedaeth gyda phobl Cymru a chynrychioli'r Gymru ddeinamig sydd yno heddiw."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y Tywysog Charles ei arwisgo yng Nghastell Caernarfon yn 1969

Mewn pôl piniwn gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, mae'n ymddangos bod cefnogaeth i'r syniad o arwisgiad.

O'r 1,014 a gafodd eu holi roedd:

  • 19% yn cefnogi arwisgiad fel hwnnw a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yn 1969;

  • 30% o blaid arwisgiad gwahanol i'r seremoni hwnnw;

  • 34% yn erbyn cynnal arwisgiad;

  • 17% ddim yn siwr

Mewn ymateb dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig na ddylai'r teitl Tywysog Cymru "fod yn ddadleuol".

"Mae mwyafrif clir o blaid arwisgiad o rhyw fath," meddai Tom Giffard AS, llefarydd y Ceidwadwyr ar Ddiwylliant a Thwristiaeth.

"Mae'r swydd yn ased economaidd, yn enwedig i'r diwydiant twristiaeth," meddai.

"Yn union fel y mae twristiaeth yn y DU yn elwa o filiynau o bunnau y flwyddyn drwy'r Teulu Brenhinol, byddai arwisgiad yn dod â phobl o bell ac agos i fwynhau'r digwyddiad, gan ychwanegu at economi Cymru."

Mewn cyfweliad efo BBC Cymru dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, mai yng Nghymru y dylai'r penderfyniad gael ei wneud.

"Mae nifer ohonom yn teimlo yng nghyd destun y Gymru ddemocrataidd fodern nad oes yna le ar gyfer tywysog. Mae'r ffocws wrth gwrs ar gwestiwn yr arwisgiad achos hwnnw sy'n rhoi gwedd gyfansoddiadol, swyddogol i'r rôl.

"Mae'n rhaid inni gael y drafodaeth, a bydd yna amrediad o farn ar draws y wlad, ond ar ddiwedd y dydd penderfyniad i ni yng Nghymru ddyle fe fod - ydyn ni'n gweld bod angen arwisgiad yn y Gymru gyfoes ddemocrataidd?

"Mae yna egwyddor bwysig yng nghanol hyn, sef mai pobl Cymru ddylai benderfynu ynglŷn ag unrhyw fater cyfansoddiadol sy'n ymwneud â Chymru... mae gyda ni ddemocratiaeth cenedlaethol nawr ac mae'n bwysig mai pobl Cymru, trwy y cynrychiolwyr etholedig, sy'n gwneud y penderfyniad yn y pen draw.

"Cefnlen hyn oll yw'r creisis costau byw, ac fe fydde fe'n sicr yn gwbl amhriodol ar hyn o bryd i gael seremoni rwysgfawr yn cael ei ariannu gan y pwrs cyhoeddus."

Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o'r cyhoedd yn gobeithio cael cyfle i gyfarch y Tywysog William a Catherine y tu allan i orsaf bad achub Caergybi

Dadansoddiad o bwysigrwydd ymweliad y Tywysog gan ohebydd busnes BBC Cymru, Huw Thomas

"Yn fuan iawn..." Dyna oedd geiriau Palas Kensington wrth ddatgan bwriad William i ymweld â'r wlad yn weddol sydyn ar ôl cael ei enwi'n Dywysog Cymru.

Heddiw, ddiwrnod wedi i gyfnod galaru'r Teulu Brenhinol ddod i ben, mae Tywysog a Thywysoges Cymru yma i adnewyddu eu perthynas â'r wlad oedd yn gartref iddyn nhw tra'r oedd William yn hyfforddi i fod yn beilot hofrennydd yn Y Fali.

Dyma gyfle i brofi'r ymateb, ac i ddatgan ymrwymiad i Gymru.

Roedd lleisiau amlwg wedi cyfleu eu gwrthwynebiad yn y diwrnodau ar ôl i'r Frenhines farw. Llofnodwyd deiseb gan ddegau o filoedd o bobl yn mynnu bod teitl Tywysog Cymru yn diflannu, ac fe brotestiodd rhai wrth i'r Brenin ymweld â Chaerdydd.

Ond roedd ymateb y mwyafrif helaeth o'r dorf yn y brifddinas yn debycach i'r ymateb gafodd William a Kate yng Nghymru heddiw. Dim syndod, efallai, wrth ystyried mai William ydy aelod mwyaf poblogaidd y Teulu Brenhinol. Ac mae arolwg barn gan ITV Cymru yn dangos bod 66% yn cefnogi trosglwyddo teitl Tywysog Cymru i William.

Er gwaethaf y polau piniwn, mae'r cwestiwn o gynnal arwisgiad yn bwnc llosg y mae'r palas wedi ceisio taflu dŵr oer arno. Heddiw cafwyd cadarnhad cyhoeddus, am y tro cyntaf, na fydd digwyddiad tebyg i arwisgiad Charles yn 1969.

Gydag ymweliad y Tywysog a'r Dywysoges, a'r ymrwymiad i osgoi sioe yr un fath a '69, fe fydd y palas yn gobeithio y bydd hynny'n ddigon i dawelu'r galwadau am ddadl gyhoeddus ynglŷn â pharhau â rôl Tywysog Cymru.

Beth ddigwyddodd ddydd Mawrth?

Daeth dwsinau o bobl i weld y cwpl wrth iddynt ymweld â gorsaf bad achub Caergybi ddydd Mawrth.

Bu Tywysog a Thywysoges Cymru yn cyfarfod criw a gwirfoddolwyr yno, yn ogystal â phobl leol, gan gynnwys cynrychiolwyr busnesau bach a'r Cadetiaid Môr.

Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Sandra Armstrong o Gaergybi addurn ar ffurf rhosyn i Kate, gan ddweud y bydd hi'n wych fel Tywysoges Cymru, a bod y froets yn symbol o hynny

Disgrifiad o’r llun,

Wendy Thomas, a'i merch Sian Price, a'i phlant Jacob a Belle yn edrych ymlaen i weld y Tywysog a'i wraig yng Nghaergybi

Yn ddiweddarach teithiodd y cwpwl i lawr i Abertawe i weld Eglwys St Thomas ar ei newydd wedd, sy'n gweithredu fel canolbwynt cymunedol ac yn cynnig banc bwyd a chanolfan ddosbarthu ar gyfer eitemau babanod.

Mae Tywysoges Cymru wedi gweithio gyda Baby Banks o'r blaen, ac yn haf 2020 daeth â 19 o frandiau a manwerthwyr o Brydain ynghyd i roi dros 10,000 o eitemau newydd i fwy na 40 o fanciau babanod.

Treuliodd y ddau hefyd beth amser yn cyfarfod ag aelodau o'r cyhoedd a oedd wedi ymgasglu y tu allan i'r eglwys.

Ffynhonnell y llun, Samir Hussein / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Merch fach mewn gwisg Gymreig yn cyflwyno blodau i'r Dywysoges Catherine tu allan i Eglwys St Thomas Abertawe

Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog William a'r Dywysoges Catherine yn sgwrsio gyda rhai o'r bobl oedd wedi dod i'w gweld tua allan i eglwys St Thomas, Abertawe

Pynciau cysylltiedig

Hefyd gan y BBC