Goroeswyr Thalidomide i gael cymorth ariannol gydol oes
- Cyhoeddwyd
Bydd pobl yng Nghymru sydd wedi'u heffeithio gan y cyffur Thalidomide yn cael cymorth ariannol am weddill eu hoes, mae'r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi.
Cafodd miloedd o fabanod ledled y byd eu geni gyda namau difrifol yn eu breichiau ar ôl i famau beichiog gymryd Thalidomide ar gyfer salwch boreol rhwng 1958 a 1961.
Mae tua 30 o oroeswyr Thalidomide yng Nghymru yn cael y grant iechyd, gyda llawer ohonynt bellach yn 60 oed neu'n hŷn.
Cafodd y cyffur ei dynnu oddi ar y farchnad ym mis Rhagfyr 1961.
£8m dros ddegawd
Dywedodd Eluned Morgan: "Rwy'n gobeithio y bydd y cyhoeddiad heddiw yn rhoi sicrwydd i oroeswyr Thalidomide y bydd cymorth ariannol parhaus ar gael iddyn nhw."
Roedd y cytundeb 10 mlynedd presennol ar gyfer grant iechyd yr Ymddiriedolaeth Thalidomide i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2023.
Ers 2013 mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi dros £8m i'r Ymddiriedolaeth Thalidomide i gefnogi goroeswyr.
Mae'r ymddiriedolaeth yn goruchwylio dosbarthiad y grant iechyd i oroeswyr Thalidomide sy'n defnyddio'r arian ar gyfer ystod eang o ddibenion iechyd.
Mae'r rhain yn cynnwys costau sy'n gysylltiedig â rheoli poen, cymorth personol a gofal personol, symudedd ac annibyniaeth a mynediad at ofal iechyd.
Ychwanegodd Ms Morgan: "Mae darparu cymorth gyda'u hanghenion iechyd parhaus a'u hanghenion iechyd yn y dyfodol yn eu galluogi i fod yn annibynnol a sicrhau eu llesiant cyn hired â phosibl.
"Hoffwn ddiolch i'r Ymddiriedolaeth Thalidomide am eu gwaith o ran helpu i oruchwylio'r grant a rhoi cymorth hanfodol i oroeswyr Thalidomide."
Dywedodd Deborah Jack, cyfarwyddwr gweithredol yr Ymddiriedolaeth Thalidomide: "Mae'r rhan fwyaf o'n buddiolwyr nawr yn eu 60au ac mae'r blynyddoedd o ddefnyddio eu cyrff mewn ffyrdd na fwriadwyd wedi cael effaith fawr.
"Mae bron pob un ohonynt yn byw mewn poen cyson ac mae gan y rhan fwyaf ohonynt broblemau iechyd lluosog bellach.
"Mae cost eu hanghenion cymhleth yn sylweddol ac yn cynyddu. Mae llawer ohonynt wedi bod yn bryderus iawn am y posibilrwydd y bydd y cyllid mawr ei angen hwn yn dod i ben, felly mae'r newyddion hwn i'w groesawu."
'Addasu'r corff i ymdopi'
Mae Rosaleen Moriarty Simmons yn un o'r 30 o bobl yng Nghymru gafodd eu heffeithio gan y cyffur Thalidomide, ac yn croesawu'r cyhoeddiad.
"Mae costau bywyd i bobl anabl yn aruthrol, ac mae'r grantiau yma nid yn unig yn gadael i ni brynu pethau fel cadeiriau trydan ond mae'r pethau bychain dwi'n ddibynnol arnyn nhw - fel gwelltyn i yfed - yn costio," meddai.
"Mae angen gwely arbennig, toiledau ac offer meddygol arall, felly mae'r newyddion i'w groesawu. Roedd 'na rai 'di ofni y byddai ond yn cael ei addo am flwyddyn neu ddwy.
"Rydyn ni hefyd angen gofal personol, ac wrth i fi fynd yn hŷn, does gen i ddim breichiau na choesau, bydd angen mwy o ofal arna i ac mae'n bwysig medru cadw gafael ar y gofalwyr gan eu bod nhw mor brin.
"Mae sawl un o'n grŵp ni wedi gorfod defnyddio rhannau o'u cyrff mewn ffyrdd anarferol er mwyn ymdopi, fel defnyddio dannedd i agor a chau poteli ac yn y blaen.
"Mae hyn i gyd yn cael effaith ac erbyn i ni fynd yn hŷn mae angen mwy o ffisiotherapi, er enghraifft nofio i ystwytho'r corff, ac mae hynny yn gost ychwanegol."
Mae Thalidomide yn dal i gael ei ddefnyddio yn y DU i drin rhai mathau o ganser.
Ond mae'n cael ei reoleiddio'n helaeth i sicrhau nad yw'n cael ei gymryd gan gleifion beichiog ac mae'n cael ei ragnodi gan arbenigwyr yn unig.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2016
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2014