Gwynedd: Cefnogi cais i ddileu teitl Tywysog Cymru

  • Cyhoeddwyd
Castell CaernarfonFfynhonnell y llun, Getty/Victor Pennington
Disgrifiad o’r llun,

Bydd cynghorwyr Gwynedd yn cyfarfod yng Nghaernarfon brynhawn Iau, dafliad carreg o'r castell lle gafodd Charles ei arwisgo fel Tywysog Cymru yn 1969

Yng nghysgod y castell lle arwisgwyd Charles fel Tywysog Cymru dros hanner can mlynedd yn ôl, mae cynghorwyr wedi datgan gwrthwynebiad i gynnal yr un seremoni o'r fath fyth eto.

Brynhawn Iau fe drafodwyd cynnig yn datgan gwrthwynebiad Cyngor Gwynedd i barhad y teitl o 'Dywysog Cymru', ac i beidio a chynnal arwisgiad arall yng Nghymru.

Mae cyhoeddiad y Brenin Charles bod ei fab, William, yn ei olynu fel Tywysog Cymru wedi ennyn ymateb ar naill ochr y ddadl.

Yn ystod ymweliad â'r Senedd yn fuan wedi marwolaeth y Frenhines, dywedodd y Brenin Charles bod gan William "gariad mawr at Gymru".

Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog William a'r Dywysoges Kate ydy Tywysog a Thywysoges Cymru

Ychwanegodd William y byddai'n gwasanaethu Cymru gyda "phob gostyngeiddrwydd a pharch mawr".

Ond mae'r penderfyniad i barhau gyda'r traddodiad wedi ysgogi eraill i alw am adael y teitl yn y llyfrau hanes.

'Wedi creu drwgdeimlad'

Er nad oes gan y cyngor awdurdod i benderfynu ar y mater yn swyddogol, roedd un cynghorydd Plaid Cymru wedi cyflwyno cynnig yn gofyn am gefnogaeth cynghorwyr i ddod â'r teitl i ben.

Mae'r Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn, sy'n cynrychioli ward Bowydd a Rhiw yn ardal Blaenau Ffestiniog, yn dweud y dylid gofyn i'r awdurdodau perthnasol "ymgynghori'n ffurfiol â phoblogaeth Cymru" ar ei ddyfodol.

Roedd ei gynnig hefyd yn datgan gwrthwynebiad i unrhyw arwisgiad arall yng Ngwynedd "neu unrhyw le ar diroedd Cymru".

Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn sydd wedi cyflwyno'r cynnig

Symbolaidd oedd y ddadl, gan nad oes gan Gyngor Gwynedd unrhyw bwerau dros y frenhiniaeth na dyfodol cyfansoddiadol Cymru.

Ond dywedodd y Cynghorydd ap Elwyn ei fod yn bwysig i gynghorwyr gael datgan eu safbwynt.

Dywedodd bod arwisgiad 1969 wedi "rhannu'r genedl, wedi creu drwgdeimlad a difrod di-ben-draw o fewn cymunedau".

Dywedodd wrth Cymru Fyw: "I fod yn onest does na'm trafodaeth genedlaethol wedi bod, mae'n teimlo fod y Senedd a San Steffan wedi ei dderbyn o, felly fel cynghorydd yng Ngwynedd roeddwn yn gweld y cyfle i ddechrau sgwrs genedlaethol ar y lefel leol yma."

"Dwi'n teimlo'n gryf fod dyletswydd arnon ni i roi llais i'r bobl sy'n erbyn y dywysogaeth, gan ei fod yn teimlo fel eu bod wedi eu brwsio o dan y carped er fod deiseb wedi casglu degau o filoedd o enwau.

"Mae'r llais gwrthwynebol yma ar goll felly mae llywodraeth leol yn fan gwych i gychwyn y sgwrs genedlaethol yma ac mae'n fraint cael rhoi y cynnig yma ymlaen."

Barn gyhoeddus

Llywelyn ap Gruffydd, neu Llywelyn ein Llyw Olaf, oedd tywysog olaf Cymru annibynnol cyn concwest Lloegr, a gafod ei ladd mewn brwydr ger Afon Irfon ym Mhowys ar 11 Rhagfyr 1282.

Ers hynny mae enwi etifedd y goron yn Dywysog Cymru yn draddodiad sydd wedi parhau am ganrifoedd, gyda'r Brenin Edward I yn urddo ei fab yn Dywysog Cymru yn 1301.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog Charles yn cael ei arwisgo yng Nghaernarfon yn 1969 - ond a fydd seremoni ar gyfer William?

Fe wnaeth arolwg barn i ITV yn 2018 ganfod bod 57% o bobl Cymru'n credu y dylai William gael teitl Tywysog Cymru os oedd Charles yn dod yn Frenin, tra bod 22% yn credu y dylai'r teitl gael ei ddiddymu.

Mewn pôl piniwn diweddar gan YouGov ar ran ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd, roedd cefnogaeth pellach i'r syniad o arwisgiad.

O'r 1,014 a gafodd eu holi roedd 19% yn cefnogi arwisgiad fel hwnnw a gynhaliwyd yng Nghaernarfon yn 1969; 30% o blaid arwisgiad gwahanol i'r seremoni hwnnw; 34% yn erbyn cynnal arwisgiad a 17% ddim yn siŵr.

'Oes y tywysogion ar ben'

Mae rhai yn dadlau bod y teitl yn rhoi sylw rhyngwladol i Gymru, a bod Charles, yn ystod ei gyfnod fel tywysog, wedi "gweithio'n galed i hyrwyddo Cymru".

Yn dilyn y cyhoeddiad y byddai William yn cymryd y teitl, ac er na chafodd wybod hynny o flaen llaw, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei fod yn "edrych ymlaen at fagu perthynas ddyfnach gyda'r Tywysog a'r Dywysoges newydd".

Ond barn y Cynghorydd ap Elwyn ydy fod angen dirwyn y syniad o Frenhiniaeth i ben: "Mae oes y tywysogion ac oes y brenhinoedd drosodd yn fy marn i.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cyfarfod llawn o Gyngor Gwynedd drafod y cais brynhawn Iau yn eu pencadlys yng Nghaernarfon

"Dwi isio gweld rhywbeth yn datblygu lle mai barn pobl Cymru sy'n dewis eu harweinydd, felly ta-ta i'r teitl i ddweud y gwir.

"Dwi'n teimlo fod y tywysogaeth yn symbol o bopeth sy'n anghywir yng Nghymru, ein bod dal o dan ormes Llundain a'r holl bethau hanesyddol sy'n cyd-fynd a'r teitl yn gwawdio y genedl Gymreig.

"Mae costau'r holl beth hefyd yn hurt... ydan ni yn eiddo i'r tywysogaeth ac ydy'n meibion i'n israddol iddyn nhw neu ydan ni i gyd yn gyfartal yn y wlad yma?

"Tydi'r castell [Caernarfon] heb lwyddo i wneud be' oedd i fod i'w wneud, sef gwaredu ni'r Cymry, ac 800 mlynedd wedyn da ni'n trafod dyfodol Cymru yn iaith ni'n hunain. Dwi'n credu fod o'n ogoneddus."

'Dim pwrpas'

Dadl y Cynghorydd Gwynfor Owen, hefyd o Blaid Cymru, oedd mai penderfyniad i Gymru annibynnol ddylai dyfodol y Frenhiniaeth fod.

Ychwanegodd fod "amryw" o blaid annibyniaeth i Gymru hefyd o blaid y teulu brenhinol, ac "nad oedd yn gweld pwrpas y cynnig" ar yr amser hon.

Er hynny fe gymeradwywyd cynnig y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o 46 pleidlais i bedwar, gyda phedwar aelod yn ymatal.

Pynciau cysylltiedig