Codi ymwybyddiaeth problemau'r galon ym Marathon Llundain

  • Cyhoeddwyd
Rhian, Orla, Ruby, Rhodri a Kate
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rhian, Orla, Ruby, Rhodri a Kate ymysg y rheiny fydd yn rhedeg Marathon Llundain i BHF Cymru ddydd Sul

Bydd grŵp o fenywod o Gymru yn rhedeg Marathon Llundain y penwythnos hwn er cof am berthnasau fu farw o ganlyniad i broblemau'r galon oedd heb gael diagnosis.

Fe fyddan nhw'n codi arian ar gyfer elusen Sefydliad y Galon - BHF Cymru, sy'n ymchwilio i driniaethau newydd posib fyddai'n atal methiant y galon.

Mae Owena Simpson wedi bod yn hyfforddi am fisoedd.

"Dros yr haf dechreuodd y broses mwy serious, so dechreues i gynyddu'r pellter o'n i'n ei redeg ac wedyn codi'n gynnar tair gwaith yr wythnos," meddai.

"Nyrs ydw i, a phan o'n i'n gweithio'n glinigol ro'n i'n gweithio yn yr adran cardioleg ac oherwydd y cefndir yna, dyna pam dwi'n rhedeg ar ran BHF Cymru."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Owena Simpson yn arfer bod yn nyrs mewn adran cardioleg

Collodd Orla Thomas, 29, o Lanilltud Faerdref, ei thad Ceri, 63, ar ôl iddo gael ataliad ar y galon.

"Roedden ni'n meddwl ei fod yn ffit ac yn iach, ond un bore, ffoniodd fi i ddweud ei fod yn mynd â'i gar i'r garej ac yna'n mynd â mam i'r gwaith," meddai.

"Fe wnaethon ni chwerthin ar y ffôn a 10 munud yn ddiweddarach fe ges i alwad ffôn gan mam, wedi cynhyrfu, yn dweud 'mae dad wedi llewygu'.

"Roedd 'na newid mor syfrdanol i fy mywyd y foment honno."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Collodd Orla ei thad Ceri ar ôl iddo gael ataliad ar y galon

Mae Karen Williams, 59, yn byw ar fferm ym Mhentyrch gyda'i meibion. Bu'n rhaid iddyn nhw gymryd yr awenau pan fu farw ei gŵr Ted yn sydyn yn 43 oed yn dilyn ataliad ar y galon ym mis Ebrill 2009.

"Roedd e'n ffermwr ac yn chwarae rygbi felly yn ddyn eithriadol o ffit a chryf," meddai Karen.

"Roedd ganddo guriad calon afreolaidd, ond doedden ni ddim yn poeni am y peth - roedd o mas ac allan ar y fferm yn gynnar bob bore.

"Fe wnaethon ni siarad am 07:00 ar y ffôn, ac erbyn 09:30 roedd wedi cael ataliad ar y galon a bu farw."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Karen y bydd "Ted ar flaen fy meddwl" wrth iddi redeg Marathon Llundain

Ysbrydolwyd Rhian Francis, 47 o'r Bont-faen, sy'n fam i dri o blant, i redeg y marathon yn dilyn marwolaeth ei thad-yng-nghyfraith, John Francis, yn 2016.

Athro gwyddoniaeth wedi ymddeol oedd John, ac roedd yn aelod gweithgar o Gorau Meibion ​​Pendyrus a'r Bont-faen.

"Roedd fy nhad-yng-nghyfraith wastad wedi bod yn hynod o ffit ac iach," meddai Rhian.

Wedi trawiad ar y galon, fe benderfynodd feddygon bod angen ceisio stopio ac ailgychwyn ei galon.

"Roedd hynny wedi'i drefnu ar gyfer y dydd Llun. Fe aethon ni i mewn gyda fy mhlant ar y prynhawn Sadwrn i'w weld yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a'r noson honno daeth yr alwad ffôn i ddweud ei fod wedi cael ataliad ar y galon a'i fod wedi marw."

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw John Francis, cyn-athro gwyddoniaeth, o ataliad ar y galon yn 2016

Roedd gan bob un o'r dynion broblemau gyda'u calonnau ond heb gael diagnosis.

Mae eu perthnasau yn rhedeg er mwyn codi arian ar gyfer elusen Sefydliad y Galon - BHF Cymru.

Mae'r elusen yn ariannu gwaith ymchwil meddygol i geisio dod o hyd i ffyrdd o atal methiant y galon.

Amcangyfrifir bod gan 16,000 o bobl yng Nghymru gyflwr etifeddol ar y galon. Mae'r rhain yn cynnwys cardiomyopathi hypertroffig (HCM) sy'n effeithio ar 1 o bob 500 o bobl.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Karen fod ymateb y gymuned ffermio wedi ei gwneud hi'n "eithaf hawdd" codi arian

Dywed Karen Williams fod ymateb y cymunedau lleol a ffermio i'r newyddion ei bod yn rhedeg y marathon eleni wedi ei gwneud mor ddiolchgar.

"Mae codi arian hyd yn hyn wedi bod yn eithaf hawdd gan fod cymaint o bobl yn caru Ted ac yn meddwl cymaint ohono," meddai.

"Dwi'n gobeithio y bydd yr awyrgylch a'r torfeydd yn Llundain yn helpu mi i gario 'mlaen. Mi fydd Ted ar flaen fy meddwl."

Disgrifiad o’r llun,

"Rydw i eisiau i bobl sylweddoli y gallai hyn ddigwydd i unrhyw un," meddai Orla

Mae Orla Thomas wedi cymryd rhan mewn rhai rasys 10K a hanner marathon fel rhan o'i hamserlen hyfforddi.

"Rydw i eisiau i bobl sylweddoli y gallai hyn ddigwydd i unrhyw un," meddai.

"Dim ond ar ôl awtopsi y cawsom wybod bod ganddo gyflwr ar y galon o'r enw cardiomyopathi hypertroffig, ac felly, dwi'n gobeithio trwy rannu ei stori y gallwn ni dynnu sylw at, a chodi ymwybyddiaeth o'r cyflwr - cyflwr sy'n bosib ei drin."

Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd Rhodri Thomas, pennaeth BHF Cymru, hefyd yn rhedeg y marathon ddydd Sul

Bydd pennaeth BHF Cymru Rhodri Thomas, 44, yn ymuno ag Owena, Karen, Orla a Rhian yn Llundain.

"Gyda'n gilydd, rydyn ni'n gobeithio rhoi hwb i ymchwil arloesol i feddyginiaeth atgynhyrchiol allai achub a gwella bywydau miliynau o bobl," meddai.

"Ry'n ni'n hynod ddiolchgar i bawb sy'n rhedeg y marathon ar gyfer y BHF."

Pynciau cysylltiedig