Treblu targedau adfer mawndir i hybu bioamrywiaeth
- Cyhoeddwyd
Mae targedau adfer mawndir yng Nghymru yn mynd i gael eu treblu mewn ymdrech i hybu bioamrywiaeth.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn adolygiad gan arbenigwyr o ffyrdd i daclo'r colledion ym myd natur, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r panel yn galw am well rheolaeth o safloedd gwarchodedig, a mwy o ardaloedd cadwraeth yn y môr.
Dywedodd y gweinidog newid hinsawdd Julie James bod angen ysgogi "degawd o weithredu pendant" er mwyn "adfer ein hecosystemau i'w hen ogoniant".
'Rhwydwaith' o safleoedd
Mae grwpiau natur wedi rhybuddio bod Cymru'n colli bywyd gwyllt ar raddfa dychrynllyd, gydag adroddiad yn 2019 yn awgrymu y gallai un ym mhob chwech rhywogaeth ddiflannu cyn hir.
Roedd y rhain yn cynnwys adar adnabyddus fel y cornchwiglen a'r gylfinir, mamaliaid fel llygod dŵr, a phryfed fel britheg y gors a chwilen yr Wyddfa.
Ar y cyd â newid hinsawdd, mae'r dirywiad mewn bioamrywiaeth yn cael ei ystyried yn fygythiad gwirioneddol i ddynoliaeth - does ond rhaid ystyried y peillwyr sy'n ein helpu ni i dyfu bwyd fel un enghraifft amlwg.
Wrth i gynhadledd ryngwladol o arweinwyr byd ar y pwnc yng Nghanada fis Rhagfyr agosáu, roedd gweinidogion Cymreig wedi galw adolygiad "byr, dwys" gan arbenigwyr yn y maes.
Mae'r argymhellion yn canolbwyntio ar sut i gyrraedd nod y Cenhedloedd Unedig o ddiogelu 30% o dir a môr ar gyfer natur, a'i reoli'n effeithiol, erbyn 2030 - targed y mae llywodraethau Cymru a'r DU yn dweud eu bod yn bwriadu ei gyrraedd.
Mae'r panel yn galw am bortffolio o safloedd gwarchodedig yng Nghymru sy'n "well, yn fwy ac wedi'u cysylltu yn fwy effeithiol", yn ogystal â mwy o Ardaloedd Cadwraeth Morol hefyd.
Dylid creu rhwydwaith o Ardaloedd Enghreifftiol Adfer Natur, meddai'r arbenigwyr, er mwyn dangos ystod o gynefinoedd a gwaith cadwriaethol allai gael eu hefelychu.
Maen nhw hefyd yn galw am well monitro, er mwyn mesur cyrhaeddiad tuag at y nod '30 erbyn 30'.
Monitro bioamrywiaeth Cymru
Ar hyn o bryd mae safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI) ac ardaloedd eraill sydd wedi'u dynodi i warchod rhywogaethau prin o fywyd gwyllt yn gorchuddio 10.6% o dirwedd Cymru.
Ond yn ôl adroddiad diweddar gan Gyfoeth Naturiol Cymru doedd bron eu hanner ddim yn cael eu monitro oherwydd diffyg arian.
A lle mae'r wybodaeth ar gael, mae oddeutu 60% o'r ardaloedd gwarchodedig yn cael eu hystyried mewn cyflwr "anffafriol" ar gyfer bywyd gwyllt.
Yn ôl pennaeth polisi RSPB Cymru ac un o aelodau'r panel adolygiad bioamrywiaeth, Sharon Thompson, mae'n allweddol bod yr argymhellion "yn cael eu troi'n weithredu ar frys".
"Wrth i ni nesáu at Uwchgynhadledd Bioamrywiaeth COP15 ym Montreal ym mis Rhagfyr, lle rydyn ni eisiau i arweinwyr byd-eang gytuno ar dargedau uchelgeisiol i adfer byd natur, allai'r ymchwiliad dwfn yma ddim fod wedi'i gynnal ar amser pwysicach," meddai.
Wrth siarad yn lansiad yr adroddiad yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Sir Gaerfyrddin, dywedodd Ms James bod "ein hiechyd, hapusrwydd a'n dyfodol" yn dibynnu ar wyrdroi'r dirywiad mewn natur.
Fe gyhoeddodd bod y llywodraeth yn mynd i sefydlu gweithgor arbenigol annibynnol i fonitro ymdrechion Cymru, gan addo hefyd treblu targedau adfer mawndir.
Colli dolydd blodau
Ar hyn o bryd mae 'na gynllun yn bodoli i adfer 600-800 hectar o dir mawr y flwyddyn rhwng 2020-2025.
Yn ol Dr Rhoswen Leonard, arweinydd Prosiect Adfer Mawndiroedd Cymru, mae tua 90% o fawndiroedd Cymru mewn "cyflwr gwael neu gyflwr anffafriol".
"Mae adfer mawndiroedd yn holl bwysig ar gyfer bioamrywiaeth oherwydd dim ond mewn cyflwr da a mewn cyflwr gwlyb gallan nhw gefnogi y rhywogaethau'n gyflawn," meddai.
"Pan fo mawndir mewn cyflwr da neu wedi ei adfer mae mwy o amrywiaeth o rywogaethau yn gallu ffynnu yno fel y gylfinir, fel llygoden pengron y dŵr."
Ychwanegodd: "Mae 34 rhywogaeth rhestr coch yn dibynnu ar fawndiroedd yn unig, heb sôn am yr holl rywogaethau eraill."
Yn y cyfamser, 'nôl yn yr ardd fotaneg, mae 'na obaith y bydd prosiect hir dymor i adfer dolydd blodau gwyllt ar un rhan o'r stad yn cael ei weld fel enghraifft o arfer da.
Mae Cymru wedi colli 97% o'i dolydd blodau gwyllt ers y 1930au, gyda dyfodiad ffermio diwydiannol, defnydd trwm o wrtaith a thorri gwair yn gynnar yn y tymor.
Gwerthu hadau ymlaen
Yng Nghae Trawscoed mae modd i ymwelwyr weld cae gwair traddodiadol, sydd ond yn cael ei dorri unwaith mae'r blodau gwyllt wedi blodeuo a chynhyrchu hadau, gan ddarparu cynefin a bwyd i bryfed, adar a mamaliaid hefyd.
Fe ddechreuodd y prosiect tua 20 mlynedd yn ôl ar ôl i staff yr ardd weld tegeirianau a rhywogaethau eraill ar y safle.
Dywedodd Steffan John o'r gerddi bod angen defnyddio'r profiad a'r arbenigedd sydd ganddyn nhw i helpu grwpiau a mudiadau eraill, a gwarchod a chynyddu nifer y dolydd yng Nghymru.
"Mae'r gwaith sydd wedi ei wneud yn y warchodfa natur yma yn cynnwys cynaeafu, ac wedyn 'dan ni'n gwerthu'r hadau o'r blodau gwyllt ymlaen," meddai.
"Drwy wneud hyn ni'n gallu helpu ardaloedd eraill fel hyn ar draws y wlad."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Medi 2022
- Cyhoeddwyd2 Medi 2022
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2022