Gwahardd dau gefnogwr Cymru am wneud saliwt Natsïaidd

  • Cyhoeddwyd
Cymru v AwstriaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y troseddau yn y gêm ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd rhwng Cymru ac Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis Mawrth

Mae dau o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru wedi cael eu gwahardd rhag mynychu gemau am wneud saliwt Natsïaidd tuag at gefnogwyr Awstria.

Fe ddigwyddodd y troseddau yn y gêm ail gyfle ar gyfer Cwpan y Byd rhwng Cymru ac Awstria yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Mawrth eleni.

Cafodd Meryn Hinton, 57 o Benarth, ei weld gan stiwardiaid a chamerâu cylch cyfyng yn gwneud saliwtiau Natsïaidd tuag at gefnogwyr yr ymwelwyr.

Cefnogwyr eraill welodd David Oakley, 59 o Ben-y-bont ar Ogwr, yn gwneud y saliwt, ac fe wnaethon nhw adrodd hynny i stiwardiaid.

Mae'r ddau wedi derbyn Gorchymyn Gwahardd Pêl-droed, sy'n golygu nad oes modd iddyn nhw fynychu unrhyw gêm bêl-droed sy'n cael eu gweithredu gan gymdeithasau pêl-droed Cymru a Lloegr.

Pan fydd Cymru yn chwarae oddi cartref, bydd yn rhaid i Hunton ac Oakley ildio eu pasbort i'r heddlu fel nad oes modd iddyn nhw deithio.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gêm yn erbyn Awstria yn allweddol yn y broses o gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958

Cafwyd Hinton yn euog gan reithgor. Fe dderbyniodd waharddiad tair blynedd a bydd yn rhaid iddo dalu dirwy a chostau o £731.

Fe blediodd Oakley yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd. Mae yntau wedi ei wahardd am dair blynedd a bydd yn rhaid iddo dalu £1,460.

Dywedodd y Cwnstabl Christian Evans fod "cefnogwyr Cymru wedi ennill enw da mewn gemau cartref ac wrth ymweld â gwledydd eraill".

"Ond pan fo tystiolaeth o anrhefn yn ymwneud â phêl-droed ry'n ni wastad yn erlyn y rheiny sy'n gyfrifol ac yn sicrhau ein bod yn gweithredu'n briodol," meddai.

"Gobeithio y bydd y canlyniadau yma o'r llys yn rhoi neges glir na fydd ymddygiad o'r fath yn cael ei oddef yn Stadiwm Dinas Caerdydd."